Gwalia'n siarad


Mae S4C wedi llwyddo i ennill ffrindiau a gelynion mewn wythnos. Ar y naill law, dechreuodd cyfres newydd sbon am naw nos Fawrth, yn dilyn hynt a helyntion criw plismona ffyrdd y Gogledd yn Y Llinell Las (CREAD Cyf + Slam Media). O’r PC Alun Jones Rhosgadfan i PC Rich Priamo Wrecsam, cawn gip pry ar y wal ar eu diwrnod gwaith amrywiol, weithiau'n beryglus, yn eu Beemers chwim fel rhan o lu sy’n gyfrifol am draean o Gymru. Mae ’na ddigon o straeon am y natur ddynol yma, gydag alcohol a chyffuriau wrth wraidd sawl damwain, a lluniau dashcam o rasio ar ôl drwgweithredwyr i blesio ffans y myrdd o gyfresi tebyg ar sianeli Sky. Ac och! a gwae, ambell ddrwgweithredwr Cymraeg ei iaith hefyd. Ac ydi, mae’r lluniau drôn o Eryri, Bryniau Clwyd a hyd yn oed gwibffordd yr A55 yn odidog. Mi roedd y twitteratis wedi mopio, fel finnau – felly da iawn Rob Zyborski (dyn camera) a Stephen ‘Weiran Gaws’ Edwards (cynhyrchydd).


 

Sy’n wahanol iawn i’r ymateb gafodd y Sianel yn sgil neges ddisymwth y cyflwynydd Aled Hughes na welwn ni ragor o Waliau’n Siarad (Cynhyrchiad Unigryw). Ow! am siom. Dw i eisoes wedi adolygu'r gyfres unigryw hon, lle’r oedd Al Hughes a’r curadur a cholofnydd gwych Golwg Sara Huws, yn tyrchu i hanes coll rhai o’n hadeiladau difyrraf ni a’r bobl arferai fyw neu weithio ynddyn nhw – o ffermdy Mynachlog Fawr, Ystrad-fflur i wyrcws Dolydd Llanfyllin a hen neuadd y dref Merthyr fu’n ganolbwynt un o ralis mawr Yes Cymru ym Medi 2019. Dyddiau da, llawn hwyl, gobaith ac agosatrwydd braf.

A ’mateb S4C? Dim digon o wylwyr “amrywiol”. Dyn a wyr be’ di hynny. Falle y gwnaiff Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd y Sianel ein goleuo ni ar y mater niwlog hwn.

Cafwyd ymateb da i’r gyfres ar y cyfryngau cymdeithasol ond ni lwyddwyd i ddenu digon o wylio nac amrywiaeth o wylwyr i gyfiawnhau cyfres arall. Mae Hanes Cymru yn parhau yn genre pwysig i S4C a byddwn yn edrych i gomisiynu dogfennau a chyfresi eraill yn trafod pynciau hanesyddol

Beth am obsesiwn y ffigurau gwylio felly? Os ydi tudalen wicipedia y gyfres yn gywir, roedd y niferoedd yn amrywio o 13,000 i 27,000. Ar y sail hwnnw felly, mae Newyddion a Heno mewn ddiawl o berig yn ol y siart ddiweddaraf (6/9/2020 am ryw reswm niwlog eto, lle'r arferant fod yn wythnosol).

Do, fe gawson ni gyfres debyg dros yr haf, Trysorau Cymru: Tir, Tai a Chyfrinachau efo Elinor Gray Williams a Tudur Owen, ond dim ond eiddo National Trust Lloegr yng Nghymru oedd dan sylw fanno. Mae 'na le i'r ddwy gyfres, heb os. Ond er i mi fwynhau'r ail un, doedd hi ddim ddim hanner cystal na swmpus â Waliau’n Siarad, gyda Tudur Owen fymryn yn rhy ysgafn yn enw ‘adloniant’ i mi'n bersonol. 

Efallai mai dyma fwriad S4C. “Poblogeiddio” neu dymbing-down-eiddio hanes trwy gael rhywun fel Llyr, hogyn drwg Am Dro, i gyflwyno'n y dyfodol gyda dos go lew o iaith gref a (brat)iaith Hansh.

Ydw, dw i'n flin. Yn flin dros y cyflwynwyr, y cwmni cynhyrchu a selogion nos Sul. Ac yn disgwyl llawer mwy o eglurder gan y Sianel na phwt o drydar yn unig.