Mis bach

 

O Lundan i ganu adra'

A ninnau adra’ rownd y ril, heb arlliw o fywyd cymdeithasol, mae rhywun yn cael tipyn mwy/gormod o amser i feddwl. Meddwl am bethau dyrys fel:

  •  Veganuary ac Ionawr Sych ganol pandemig noethlwm – pam?
  • Obsesiwn BBC Wales ac S4C (i raddau llai) â Carol Vorderman, sydd wedi cofleidio’i Chymreictod mwya’r sydyn ar ôl i’w gyrfa Countdown sychu’n grimp.
  • Pwy ddywedodd wrth fos Radio Cymru fod pob cantor a chyflwynydd teledu yn gallu pontio’n llwyddiannus i lywio rhaglenni radio?
  • Pam dydy gohebwyr a golygyddion Cymraeg ddim yn ’nabod eu harddodiad?

Dw i’n ochneidio’n aml wrth ddarllen neu glywed “elwa o” yn hytrach nag elwa ar (rywbeth/rhywun), to profit, cywir. Felly hefyd effeithio, heb yr arddodiad ar wedyn. Cafwyd enghraifft glasurol yn nisgrifiad y Daily Post o stori Rownd a Rownd: ‘Mae diflaniad Carys, Tom ac Aled yn parhau i effeithio Barry ac Iris yn ddirfawr’.

Cyn i chi sgrechian “Plisman iaith!”, fi ydi'r cyntaf i gyfaddef nad ydw i’n berffaith. Ddim o bell ffordd. Dw i'n defnyddio idioma’ Saesneg heb sylwi, ac yn diawlio. Ond damia, es ati i ddysgu glo mân gramadegol ein hiaith o’r newydd, fel cyfieithydd rhwystredig. Mae'n heriol ond yn haws diolch i gopi hanfodol o Pa Arddodiad? D Geraint Lewis ar fy nesg. Canllaw bach glas hollbwysig i unrhyw un sy’n ennill bywoliaeth trwy gyfrwng ein hiaith fregus. Mynnwch gopi, gyfryngis.

Gyda’r cyfyngiadau y daeth rhagor o gomisiynau drama, sy’n newyddion ardderchog. Meddai blyrb diweddar S4C:

“Bydd sawl drama newydd wreiddiol gyda ni eleni gan ddechrau gyda Fflam ym mis Chwefror sy’n serennu Richard Harrington, Gwyneth Keyworth a Memet Ali Alabora. Bydd drama Bregus ym mis Mawrth gyda Hannah Daniel yn actio’r brif rôl ac Yr Amgueddfa ym mis Mehefin gyda Nia Roberts a Steffan Cennydd yn serennu. Mae rhain yn siŵr o’ch cadw ar flaenau eich seddi a byddant ar gael fel bocs sets hefyd ar S4C Clic”.  

Bydd y criw’n cynhyrchu’n creu gwyrthiau y tu ôl i fygydau, a’r actorion yn cydfyw/ymarfer/bwyta/yfed/dysgu llinellau mewn swigen nepell o’r set ffilmio.

Yr unig beth sy’n fy mlino yw’r diffyg amrywiaeth o actorion. Mae’r uchod yn swnio fel croesbeilliad o wynebau cyfarwydd Y Gwyll a Craith “yn serennu” heb lofrudd cyfresol. Alla i ddeall bod hon yn broblem ym mabandod S4C, gyda dim ond dyrnaid o actorion Cymraeg proffesiynol, ond siawns bod pethau wedi gwella bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach. Meddyliwch am raddedigion di-ri y Coleg Cerdd a Drama a'r Drindod heb sôn am Lanaethwy’s y byd. Gymaint ohonyn nhw ar ffyrlo o’r West End a naill ai’n creu dramatics canu o’u llofftydd ar gyfer YouTube a Heno, yn anfon lluniau i @S4CTywydd neu’n cyfrannu at fersiwn gabaret symol o Noson Lawen. Mae’n dwyn i gof beirniadaeth adolygydd teledu’r Guardian am fewnforion poblogaidd o Sgandinafia, wrth i’r un hen rai ymddangos yn y ddrama Noir diweddaraf (“Has Denmark run out of TV actors?”).

O’r uchod, Yr Amgueddfa gan Fflur Dafydd sy’n apelio fwya, a hithau eisoes wedi sgwennu nofel a ffilm ias a chyffro am Y Llyfrgell. Ynddi, mae Nia Roberts yn chwarae’r brif ran fel y fam a’r wraig briod Dela, cyfarwyddwr cyffredinol newydd yr amgueddfa, sy’n disgyn dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad cythryblus gan blymio i isfyd troseddau celf y ddinas fawr ddrwg. Edrychwn ymlaen at ddarllediad ddechrau’r haf.

Nia Roberts a Steffan Cennydd yn "Yr Amgueddfa"


 

Mae cip ar dudalen ‘Comisiynau’ gwefan S4C hefyd yn dangos bod dramâu eraill yn dychwelyd i’r sgrîn. Cawn drydedd gyfres o’r cynhyrchiad cefn-gefn Hidden a Craith gydag actorion llanbobman wedi'u plannu yn Eryri waedlyd, wrth i Cadi a Vaughan ymchwilio i farwolaeth ffarmwr; ac ail gyfres o Enid a Lucy sy’n “llawn syspens (sic) a thensiwn ... gydag Enid , Lucy ac Archie bellach yn byw o dan yr un to”. Es i ddim pellach na’r bennod gyntaf ar ôl methu’n lân â chynhesu at yr un cymeriad yn dioddef unigrwydd, trais domestig, hiliaeth Brexitaidd, a phlastrwr yn gneud petha anghynnes efo cachu ci. Hyn, er i mi ddotio at ddeialogi, dychymyg byw a hiwmor du Siwan Jones yn Alys (2011-12) a Con Passionate (2005-08).

Efallai y dylwn i roi cynnig arall ar Thelma a Louise Llanelli os ddôn nhw’n ôl ar Clic.

Sara Lloyd-Gregory fel yr wrth-arwres Alys