Wel, mae’r bobl wedi penderfynu a phleidleisio dros gân nofelti arall. Y wobr oedd £5,000 a thlws #CiG2021 mewn hongliad o theatr fawr wag a chynulleidfa rithiol fel Brityns Got Talynt y llynedd. Ond efallai bod hynny’n well na sodro cynulleidfa fud i eistedd rownd byrddau crwn efo gwin gwan. Cynulleidfa sydd fel arfer wedi diflasu a hen roi gora' i glapio erbyn y chweched gân wrth ddechrau gwisgo’u cotia’n barod i fynd adra.
Gerbron y genedl Gymraeg a chynulleidfa fyd-eang Facebook
Live eleni, mi faglodd ’rhen Drystan drwy’i gyfweliada gefn llwyfan, ac mi straffaglodd
Elin Fflur druan i ddeall atebion y dywededig zoom-gynulleidfa o Neuadd JMJ i ryw
soffa’n Sir Benfro. Mi fethodd y sain ar gyfer y gân gynta, tra bod ambell gân
arall mor anghofiadwy â chyfraniad Boris Johnson at gyfarfodydd Cobra efo Mark Drakeford AS. Ac roedd Twitter ar dân gyda’r awgrym mai mwg drwg
oedd yr “Hwne” yng nghân fuddugol Morgan Elwy wnaeth lwyddo i godi gwên ac ysbryd cenedl dan glo. O leia mae gan Morgan dipyn o bedigrî fel cerddor, fel aelod o'r band roc a rege o Ddyffryn Clwyd, Trwbz, ynghyd â'r un mor dalentog Mared Williams a'i frawd amryddawn Jacob Elwy.
Tlws Tan-y-fron |
Mae gynnon ni wylwyr S4C draddodiad go bethma o ddewis y gân fuddugol – o sentiment ‘Dal i Gredu’ (1992) i jolihoetian ‘Mi Glywais i’ (2005) a sbŵff ‘Mynd i Gorwen hefo Alys’ (2013).
Hynny, wrth i berlau fel ‘Tŷ Coz’ (1987) gan Iwan Llwyd ac Elwyn Williams ar gyfer Dafydd Dafis, gael andros o gam, fel Bronwen Lewis a ‘Curiad Coll’ yn fwy diweddar (2017).
“Chwaeth ydio ar ddiwadd y dydd” honnodd Trystan ag Elin ar ôl i’r beirniaid chwynnu’r 96 yn wyth. Wel, hynny a lot FAWR o frogarwch ac antis ag yncls balch sy'n barod i ffonio gyda'u pleidlais. Er, doedd gan y Monwysiaid na’r Crymychiaid neb i gefnogi eleni.
‘Y Bobl’ gan Daniel Williams, cyfansoddwr ifanc o Gartholwg
ger Ponty, oedd fy ffefryn clir i. Cân hudolus am chwedl Cantre’r Gwaelod ag
islais bosib i’n trychineb newid hinsawdd ninnau heddiw – cân a ganwyd
yn syml o soniarus gan y Cardiffian Lily Beau, sgolor coleg East London Arts
and Music a ymddangosai fel y fenyw Gymreig fodern ar lwyfan y Donald Gordon. Pam o pham nad oedd hi yn y tri uchaf? C'mon Cymru, mun!
Ond be’ wn i. Rhyw biciad i mewn ag allan o’r rhaglen wnes i nos Wener diwetha, cyn laru a throi i wylio’r ddrama Almaeneg gyffrous am gwymp wal Berlin yn Deutschland ’89 ar More 4.
Wyrach mai fi sy’ di colli holl bwynt y rwdlian
hwyliog ’ma’n enw Adloniant Ysgafn. Dw i’n dal ddim yn siŵr beth ddigwyddodd i
freuddwyd wreiddiol BBC Cymru ar gyfer y fformat nôl ym 1969. Byrdwn y Dr Meredydd Evans oedd dewis Song for Wales ar gyfer Eurovision, yn hytrach na’r gystadleuaeth
bresennol sy’n mynd mlaen i’n cynrychioli ni yn y Ban Geltaidd mewn rhyw byb yn Swydd Donegal. Iwerddon sydd wedi ennill y gystadleuaeth am dair blynedd o'r bron yn ddiweddar tan 2019, cyn i gyfyngiadau covid roi taw ar y teithio. Ac ar y cyfan, gwerinol iawn ydi ceisiadau'r gwledydd eraill i gyd wrth i Gymru ganol-y-ffordd anfon seiniau llawer mwy eingl-americanaidd.
Efallai bod angen i mi naill ai chill-owt a mwynhau bach a bach o hwne ganol y pandemig parhaus.
Neu roi’r gorau i wylio-a-twitro Gŵyl Ddewi nesa.
Margaret Williams, enillydd 1969 gyda'r 'Cwilt Cymreig' |
Dewi Pws, cyfansoddwr 'Nwy yn y Nen', 1971 |
Sgorfwrdd 1983 (Nid Llwynog oedd yr Haul) efo Menna Richards + Emyr Wyn |
Enillydd denim dwbl y 90au - Gwlad y Rasta Gwyn (1990) ac Un Funud Fach (1997) |
Safon prin y 2000au - Ryland Teifi (2006) |