Barn y Bobl

 


Wel, mae’r bobl wedi penderfynu a phleidleisio dros gân nofelti arall. Y wobr oedd £5,000 a thlws #CiG2021 mewn hongliad o theatr fawr wag a chynulleidfa rithiol fel Brityns Got Talynt y llynedd. Ond efallai bod hynny’n well na sodro cynulleidfa fud i eistedd rownd byrddau crwn efo gwin gwan. Cynulleidfa sydd fel arfer wedi diflasu a hen roi gora' i glapio erbyn y chweched gân wrth ddechrau gwisgo’u cotia’n barod i fynd adra.

Gerbron y genedl Gymraeg a chynulleidfa fyd-eang Facebook Live eleni, mi faglodd ’rhen Drystan drwy’i gyfweliada gefn llwyfan, ac mi straffaglodd Elin Fflur druan i ddeall atebion y dywededig zoom-gynulleidfa o Neuadd JMJ i ryw soffa’n Sir Benfro. Mi fethodd y sain ar gyfer y gân gynta, tra bod ambell gân arall mor anghofiadwy â chyfraniad Boris Johnson at gyfarfodydd Cobra efo Mark Drakeford AS. Ac roedd Twitter ar dân gyda’r awgrym mai mwg drwg oedd yr “Hwne” yng nghân fuddugol Morgan Elwy wnaeth lwyddo i godi gwên ac ysbryd cenedl dan glo. O leia mae gan Morgan dipyn o bedigrî fel cerddor, fel aelod o'r band roc a rege o Ddyffryn Clwyd, Trwbz, ynghyd â'r un mor dalentog Mared Williams a'i frawd amryddawn Jacob Elwy.

Tlws Tan-y-fron

 

Mae gynnon ni wylwyr S4C draddodiad go bethma o ddewis y gân fuddugol – o sentiment ‘Dal i Gredu’ (1992) i jolihoetian ‘Mi Glywais i’ (2005) a sbŵff ‘Mynd i Gorwen hefo Alys’ (2013). 

Hynny, wrth i berlau fel ‘Tŷ Coz’ (1987) gan Iwan Llwyd ac Elwyn Williams ar gyfer Dafydd Dafis, gael andros o gam, fel Bronwen Lewis a ‘Curiad Coll’ yn fwy diweddar (2017).

“Chwaeth ydio ar ddiwadd y dydd” honnodd Trystan ag Elin ar ôl i’r beirniaid chwynnu’r 96 yn wyth. Wel, hynny a lot FAWR o frogarwch ac antis ag yncls balch sy'n barod i ffonio gyda'u pleidlais. Er, doedd gan y Monwysiaid na’r Crymychiaid neb i gefnogi eleni.

‘Y Bobl’ gan Daniel Williams, cyfansoddwr ifanc o Gartholwg ger Ponty, oedd fy ffefryn clir i. Cân hudolus am chwedl Cantre’r Gwaelod ag islais bosib i’n trychineb newid hinsawdd ninnau heddiw – cân a ganwyd yn syml o soniarus gan y Cardiffian Lily Beau, sgolor coleg East London Arts and Music a ymddangosai fel y fenyw Gymreig fodern ar lwyfan y Donald Gordon. Pam o pham nad oedd hi yn y tri uchaf? C'mon Cymru, mun!

Ond be’ wn i. Rhyw biciad i mewn ag allan o’r rhaglen wnes i nos Wener diwetha, cyn laru a throi i wylio’r ddrama Almaeneg gyffrous am gwymp wal Berlin yn Deutschland ’89 ar More 4. 

Svenga Jung, Jonas Ray, Maria Schrader a Sylvester Groth yn dianc o Ddwyrain Berlin a 'runfathrwydd Cân i Gymru
 

Wn i ddim beth sy’n bod efo’r fformat bellach. Efallai bod angen ailwampiad a/neu roi contract i gwmni cynhyrchu arall, rwan bod Avanti wrth y llyw ers 2007. A dwi’n ama'n gryf y byddai’r gystadleuaeth wedi hen chwythu plwc oni bai am elfen ryngweithiol Twitter a anogir gymaint gan y cyflwynwyr ac S4C ei hun. Ond lwc owt os feirniadwch chi gân (nid y canwr) neu fyddan nhw am eich gwaed chi gyda honiad o frad neu fwlio – er inni weld clip o’r beirniaid yn wfftio a chwerthin yn harti am ben rhai o’r cynigion ddaeth i law. Gyda llaw, fe wnaeth Angharad Siân 'Calan' gyfaddef fod sawl cais 'Daw eto haul ar fryn-aidd' wedi dod i law eleni. Diolch i'r drefn na chawson nhw mo'u cynnwys - da ni 'di dioddef digon fel mae hi.

Wyrach mai fi sy’ di colli holl bwynt y rwdlian hwyliog ’ma’n enw Adloniant Ysgafn. Dw i’n dal ddim yn siŵr beth ddigwyddodd i freuddwyd wreiddiol BBC Cymru ar gyfer y fformat nôl ym 1969. Byrdwn y Dr Meredydd Evans oedd dewis Song for Wales ar gyfer Eurovision, yn hytrach na’r gystadleuaeth bresennol sy’n mynd mlaen i’n cynrychioli ni yn y Ban Geltaidd mewn rhyw byb yn Swydd Donegal. Iwerddon sydd wedi ennill y gystadleuaeth am dair blynedd o'r bron yn ddiweddar tan 2019, cyn i gyfyngiadau covid roi taw ar y teithio. Ac ar y cyfan, gwerinol iawn ydi ceisiadau'r gwledydd eraill i gyd wrth i Gymru ganol-y-ffordd anfon seiniau llawer mwy eingl-americanaidd.

Efallai bod angen i mi naill ai chill-owt a mwynhau bach a bach o hwne ganol y pandemig parhaus.

Neu roi’r gorau i wylio-a-twitro Gŵyl Ddewi nesa.

 

Margaret Williams, enillydd 1969 gyda'r 'Cwilt Cymreig'

 

Dewi Pws, cyfansoddwr 'Nwy yn y Nen', 1971

Sgorfwrdd 1983 (Nid Llwynog oedd yr Haul) efo Menna Richards + Emyr Wyn           



Enillydd denim dwbl y 90au - Gwlad y Rasta Gwyn (1990) ac Un Funud Fach (1997)




 
Safon prin y 2000au - Ryland Teifi (2006)