Prifwyl Sgwâr Canolog

 


Do, mi gawson ni ryw lun ar ’Steddfod eleni. Un AmGen, rithiol, Gorsedd Lite. Daeth y detholedig rai glas, gwyn a gwyrdd mygydog ynghyd yn HQ BBC Cymru mewn golygfa swreal a ymdebygai i bennod o Dr Who neu’r hunllef ddystopaidd The Handmaid’s Tale. Cyrn gwlad yn atseinio o falconis uchel, y Dr Jamie Roberts yn hawlio’r gledd, a’r buddugol yn camu i lawr y grisiau metel wrth i staff shifft hwyr y Bîb glapio fel morloi brwd Sŵ Bae Colwyn gerbron cynulleidfa am y tro cyntaf ers deunaw mis. Cymaint oedd stamp y BBC arni, ro’n i’n hanner disgwyl rhifyn arbennig o Dan Do gyda Mandy Watkins ac Aled Sam anghymarus yn ein tywys o gwmpas soffas a goleuadau amryliw adeilad Foster + Partners.

Y cyfan yn brofiad rhyfedd, syndod o emosiynol.

Nid bod enillwyr y Fedal Ddrama a’r Daniel Owen wedi mwynhau’r fath sbloets. O na. Dim ond ordors gan y cynhyrchydd i sefyll yn chwithig a gwenu fel giât mewn cilcyn o stiwdio fel petaen nhw ar fin eistedd ar soffa Heno. Sôn am golli cyfle i gyflwyno mwy o urddas i’r cystadlaethau arbennig hynny.

Pan glywais am fwriad y Genedlaethol a’r Gorfforaeth Ddarlledu i gynnal y prif seremonïau fin nos yn Sgwâr Canolog Caerdydd eleni, roeddwn i wedi gwirioni’n lân. Gallaf feicio draw ar noson braf, meddyliais, sefyll ar y cyrion 2 fetr a gwylio’r Archdderwydd a’i giang wrth y meini plastig. Hen draddodiad yng nghanol cymudwyr a sglefrfyrddwyr, craeniau a nendyrau modern canol y brifddinas. Dyna fyddai delwedd eithriadol.

Ond seremoni breifat dan do a gafwyd, er inni weld 200 lwcus yn mynychu Cyngerdd yr Eisteddfod Gudd a dyrnaid yng nghymanfa awyr agored Aber ar y penwythnos cyntaf. Onid oes yna deras ar ben to’r BBC, a ddefnyddiwyd gan Rhodri Llywelyn a’i westeion adeg Etholiad mis Mai, a fyddai’n ddiogel ac addas i’r orsedd a chynulleidfa ar wasgar dan fantra hollbwysig ein hoes - ‘Dwylo, Wyneb, Pellter, Awyru’? Neu beth am ddarllediad byw o gylch yr orsedd Parc Bute, a defnyddio pencadlys y Bîb fel Plan B rhag ofn i’r tywydd daflu mwd a dŵr oer ar bethau? Ond haws deud, gyda’r trefnwyr yn gorfod cynllunio ac addasu i chwit-chwatrwydd y corona.

Ac wedi’r cyhoeddiad mawr, roedd rhywun yn ysu i weld hen ben fel Beti George, Dewi Llwyd neu Nia Roberts yn llywio’r drafodaeth ’nôl yn y stiwdio serch  proffesiynoldeb Jen Jones. Roedd gormod o dorri pethau yn eu blas er mwyn yr hysbysebion neu bigion zoom. Dyna pam mae’r pwyso a mesur manylach gyda Dei Tomos a’i westeion ar y radio wastad yn ffefryn yma. Dw i wedi hen roi’r gorau i swnian wrth S4C am raglen gelfyddydol debyg ganddi erbyn hyn.