Twll bach y clo





Mae ’na fynd mawr ar gyfresi busnesu/hel tai ar ein Sianel hoff y dyddiau hyn. Rhai wedi’u hanelu at siaradwyr newydd yn bennaf dan faner 'Dysgu Cymraeg' ar foreau Sul a ailddarlledir fin nos wedyn, ond sy’n hynod boblogaidd yn gyffredinol. Dyna chi’r drydedd gyfres o Adre efo Nia Parri yn sbecian trwy dwll bach y clo s’lebs fel Dai Llanilar, Wigleys Bontnewydd ac Elliw Gwawr Essex – y fersiwn Nadoligaidd arbennig oedd un o ffefrynnau tŷ ni dros yr ŵyl.

A nawr, mae’r bytholwyrdd Aled Sam nôl gyda chyfres newydd sbon Dan Do, lle mae yntau a Mandy Watkin, dylunydd mewnol o Borthaethwy yn bwrw golwg ar gynllunio unigryw tu ôl i frics a mortar go gyffredin yr olwg y tu allan. Tai teras, tai newydd, bythynnod (neu ‘bythynnod’ medd BBC Iplayer). Ac oedd, mi roedd rhesdai Llambed, Aberystwyth a Phontcanna yn drawiadol ac yn cynnig fflachiau o ysbrydoliaeth i’r sawl ohonom sy’n pasa gwneud mwy na dim ond sbrin-clînio’r gwanwyn hwn. Porn peintio ag addurno, a chodi aeliau ar ambell elfen (anifeiliaid wedi’u stwffio mewn cas wydr? bar a hen seddi sinema? tŷ gwyn o’r top i’r gwaelod gyda thri phlentyn bach?!)

Byddai rhai’n cwestiynu’r angen am ddau gyflwynydd, ond mi weithiodd yn dda gyda Mr Homes & Gardens S4C, Aled Sam, yn dysgu ambell beth gan Mandy’r wyneb newydd. Ac oes, mae gan ryw ryg du a gwyn ei gyfrif instagram ei hun yn ôl pob tebyg.

A falle, jesd falle, y gwelwn ni lai o 04 Wal ugain mlwydd oed. 

Mae ambell bennod wreiddiol mor boenus o hen nes dychwelyd i ffasiwn unwaith eto.