Un nos Sul


Cachu Hwch. 

Dyna fy ymateb cyntaf pan glywais mai Eve Myles fyddai seren cyfres gefn-wrth-gefn newydd S4C a BBC Wales. Peidiwch â ’nghamddeall i. Dw i’n ffan fawr o’r ferch o Ystradgynlais byth ers dyddiau Belonging a Torchwood - pwy all anghofio’r olygfa eiconig hon? - ond calla dawo am ail gyfres  Broadchurch. Ac er iddi gael ei magu yn un o bentrefi Cymreiciaf topiau Cwm Tawe/de Powys, mae’n un o’r un o’r 80% nad ydynt yn medru’r iaith yn y Brexit-shire sydd ohoni heddiw. A dyma feddwl pam ddiawl mae S4C yn dychwelyd i’r dyddiau annoeth hynny o gastio enwau “mawr” di-Gymraeg yn y gobaith (aflwyddiannus gan mwyaf) o farchnata a denu rhagor o wylwyr a sylw tu hwnt i Glawdd Offa. Cofier Edward Woodward yn Tân ar y Comin (1993) a Philip Madoc yn Yr Heliwr/A Mind to Kill (1991-2002) yn actio’n Gymraeg fel petai ganddyn nhw lond ceg o bys slwtj poeth.

**RHYBUDD - PEIDIWCH Â DARLLEN HEB WELD Y BENNOD GYNTA**

Ond yn ôl at Un Bore Mercher / Keeping Faith (Vox Pictures), y cyfraniad diweddaraf i slot noir-aidd nos Sul. Yma, mae Eve yn chwarae rhan Faith Howells, mam a thwrna braf ei byd â thŷ 04 Wal mewn tref fach ddel yn y Gorllewin (cyfuniad o Dalacharn, Pontardawe, llys barn Caerfyrddin a stiwdios enfawr Pen-y-bont ar Ogwr) cyn i’w byd droi ben i waered yn sgil diflaniad disymwth ei gŵr Evan (ei chymar go iawn Bradley Freeguard) un bore - yep, dyna chi - Mercher. Cyn hir, mae’n gorfod chwarae ditectif ac yn dod ar draws cyfrinachau go anghynnes am ei chynefin. Ac mae lleoli’r gyfres yn y Gorllewin yn wirioneddol hyfryd, yn ogystal â PR da i S4C cyn symud ei phencadlys yno’r flwyddyn nesaf. Mae adolygiad cytbwys a chynhwysfawr Sioned Williams yn cyfeirio’n smala at hyn. Rhwng pyliau o gawodydd, mae’r golygfeydd o ardal Dylan Thomas - y castell, yr aber, y llwybrau arfordirol - yn drawiadol, ac yn helpu i greu awyrgylch braf a chymuned glos lle mae pawb yn ’nabod pawb yn enwedig y Trwyn Drws Nesaf (croeso mawr yn ôl i Menna Trussler).

Mae’r ddrama’n cychwyn gydag Evan Howells megis gŵr a thad y flwyddyn sy’n bwydo a suo ei blant i gysgu tra aiff ei wraig mas i slotian a sgrechian chwerthin efo criw i ddathlu ysgariad Lisa (Catherine Ayres, sy’n parhau â chwota prosecco ei chymeriad Byw Celwydd). Ond wrth gwrs, mae’r boi’n rhy ddelfrydol o’r hanner, a’r olwg boenus a’r smôc ar y slei yn awgrymu nad yw pethau’n fêl i gyd, cyn iddo godi pac ar ei ffordd i’w waith. Drama ddomestig gawson ni wedyn fwy neu lai, wrth i Faith orfod cydbwyso gwersi nofio’r plant, pledio achos meddwyn lleol yn y llys, a gadael 112 o negeseuon ar ffôn lôn ei gŵr. Ac mae ei theulu yng nghyfraith yn cau amdani, ac yn llawn ensyniadau am ei methiant i ‘blesio’ ei gŵr, wrth i ddirgelwch y diflaniad ddwysau. Gobeithio y gwelwn ni lot fwy o’r Marion Howells drwynsur, mam Evan - dwi’n gymaint o ffan o Rhian Morgan fel ’swn i’n fodlon ei gwylio’n darllen cofnodion y Cynulliad am awr gron gyfan.




Ar yr wyneb, mae Faith yn llwyddo i gadw’r heddwch, ond ar ôl cau’r drws ar y busneswrs a’r nos, daw ei rhwystredigaethau i’r amlwg. Roedd gwylio drwy ffenestr y gegin o’r tu allan, a Faith yn ffrwydro’n fud fel Mount Etna wrth olchi llestri, yn drawiadol. Mae Eve Myles wedi’i geni i’r rôl yma, a does ryfedd fod y cynhyrchwyr wedi’i phlagio i gymryd rhan er gwaetha’r her ieithyddol. A doedd dim angen iddi hi, fel ninnau, boeni am safon ei Chymraeg. Mae’n ynganu’n dda (fel y dylai siawns, ar ôl rhywfaint o Gymraeg ail iaith yn yr ysgol), yn defnyddio ambell linell o Wenglish y stryd Sir Gâr, ac mae’r golygfeydd rhyngddi hi ä’r plant yn hollol hyfryd a naturiol. Mae’r dirgelwch yn prysur gyflymu wrth i Faith chwilio a chwalu drwy wardrob ei gŵr, a chanfod bag plastig amheus ar y naw. Nage, nid ôl-rifynnau o Dogging in Carmarthenshire, ond wig, pâr o sbectols, a cherdyn DVLA ei gŵr dan enw g’neud â’r llun cuddwisg gwaethaf ers mwng Mathew Gravell yn Teulu.

Gorffennodd y bennod gyntaf yn fwy iasol, gyda Faith yn ymchwilio i honiad gyrrwr tacsi (amheus?) iddo weld car Evan wedi’i barcio ger rhyw fwyty carfyri, a dieithryn yn loetran y tu allan i’w chartref â’r plant yn eu gwelyau heb warchodwr...

Yr unig fan gwan i mi’n bersonol, oedd y defnydd o’r piano fel cerddoriaeth gefndir braidd yn rhy ffwrdd a hi i’r naws ddirgel. Byddai tincial syml i godi croen gwydd wedi bod yn well, fel Forbrydelsen bob tro roedd Sarah Lund yn taro ar gliw newydd neu'n mentro i rywle bol buwch gyda’i thortsh. Doeddwn i ddim balchach gyda cherddoriaeth glo a gyfansoddwyd gan Amy Wadge chwaith, ond fi ’di hwnnw. Y gantores, gyda llaw, ydi Ela Hughes – ac mae’r gyfres hon yn dipyn o achlysur teuluol, gyda’i thad Aneurin Hughes yn actio rhan y tad-yng-nghyfraith, a’i mam Pip Broughton yn gyfarwyddwr a chydgynhyrchydd y prosiect. Dw. I’n. Dweud. Dim.  Gyda llaw, gorau po leiaf o ôl-fflachiau o Faith ac Evan yn lapswchan mewn cae melyn, megis hys-bys siampŵ Timotei ers talwm gawn ni (ymwadiad: mae mathau eraill o siampŵs ar gael).

Gair cyn cloi am y sgript a phroblem a gododd gyda’r Gwyll hefyd. Mae’r fersiwn Gymraeg wedi’i haddasu gan Anwen Huws, sgriptwraig brofiad Pobol y Cwm a Gwaith Cartref â chlust dda iawn am dafodiaith Sir Gâr. Ond y ffaith ddiymwad amdani yw mai addasiad o syniad a sgript Saesneg ydi hon go iawn, a hynny gan Matthew Hall brodor o Lundain â CV digon parchus fel nofelydd Saesneg a chyfresi teledu’r gorffennol fel Foyle’s War a Kavanagh QC ar ITV a New Street Law ar gyfer y BBC. Ond os nad ydi S4C, hyd yn oed 35 mlynedd wedi ei sefydlu, yn barod i feithrin ein doniau cynhenid, pa obaith sydd i’r cyw-sgwenwrs rhwystredig sy’n ceisio eu gorau glas i arddel y grefft yn eu mamiaith?

Cawn weld sut y datblygith pethau dros y saith wythnos nesaf. Croesi bysedd y bydd sawl tro  yng nghynffon y stori i gynnal y chwilfrydedd tan ’Dolig.