Gormod o bwdin Broadchurch?




O na. Ail bennod o ail gyfres, ac mae ‘nghalon i’n suddo fel plwm. Wedi heip a hys-bys sylweddol, wynebau hen a newydd (Marianne Jean-Baptiste o ffilmiau Mike Leigh a Hollywood! Charlotte Rampling yr actores Eingl-Ffrengig! Eve Myles o, ym, Torchwood a Phontardawe!) a dirgelwch MI5-aidd ynglŷn â sut gythraul wnawn nhw ddilyn achos arestio gŵr diddrwg di-dda (Matthew Gravelle Ni) y ditectif am lofruddio bachgen dengmlwydd oed ar arfordir Dorset debycach i Fôr y Canoldir. Doedd dim rhagflas i’r wasg a’r cyfryngau - dim hyd yn oed i Golwg dlawd - cyn darlledu’r bennod gynta lwyddiannus (7.6 miliwn), a gorfu i’r sêr lofnodi cytundeb cyfrinachedd neu wynebu'r gosb eitha o ymddangos yn Birds of a Feather. Gorfu i Matthew Gravelle druan hyd yn oed fyw fel meudwy mewn gwesty ar wahân i’r actorion eraill, rhag difetha’r syrpreis am ddychweliad Jo Miller.

Ac wele’r ail bennod siomedig, a ddenodd 1.6 miliwn yn llai o selogion. Mam bach. Lle’r oedd y gyfres gynta’ (10 miliwn o wylwyr) yn gampwaith o gynildeb a datgelu pethau dow-dow, roedd hon yn llawn sterics opera sebon. Does ryfedd fod Grace Dent yn ei chymharu ag Eastenders. A does gen i ddim taten o fynedd na diddordeb yn yr ail blot gyda'r newydd-ddyfodiaid Eve Myles a James D’arcy, sy’n olrhain llofruddiaeth arall mewn rhan arall o’r wlad fu bron â dinistrio gyrfa, iechyd a hygrededd DI Alec Hardy (David Tennant sydd dan lach y Daily Mailers, c’radur, am ei acen annealladwy) cyn iddo gyrraedd pentref Broadchurch yng nghyfres 1. A sori, ond dim ond hyn a hyn o wep ddagreuol y “nashiynyl treshyr” Olivia Colman alla i oddef...

Ydw i’n hen sinig sy’n swnian? Yn bod yn rhy fyrbwyll? Wedi’r cwbl, ma ’na saith pennod arall ar ôl. Roi gynnig ar y drydedd wythnos nesa. Ac ma’r clogwyni a’r traeth godidog na’n apelio’n fawr ar nosweithiau Llun tamp a thywyll.


Cerddoriaeth iasol Ólafur Arnalds o Wlad yr Ia. I'w fwynhau'n llawn heb ymyrraeth troslais dynas ITV!