Canada am byth!



Waeth i mi gyfaddef ddim. Dw i fyny ag i lawr wythnos yma. Fel y boi un diwrnod, blinder affwysol diwrnod wedyn. Es i ’ngwely am hann’di naw neithiwr. Swn i’n gallu cysgu am ddiwrnod cyfa heddiw. Dyna ni. Dim ond deud. Dw i ddim isio degau o ‘hoffis’ na chwtsis rhithiol gan y cyfryngis cymdeithasol. Felly mae hi. Nid fi ydi’r cyntaf na’r olaf i gwyno.

Efallai 'mod i angen mwy o hwyl a hiwmor yn fy mywyd. Ond y gwir amdani yw hyn - mae’n well gen i nofelau a chyfresi teledu tywyll. Dw i ddim yn helpu’n hun nacdw? 

Y diweddaraf ydi cyfres dditectif o bellafoedd oer gogledd Ontario bob nos Fercher ar BBC Two, ond sy’n teimlo fwy fel nos Sadwrn BBC Four. ’Sdim rhyfedd fod amserlen pawb ar chwâl y dyddiau hyn. Croeso anferthol nôl i Cardinal felly, am y pedwerydd tro a’r olaf un yn ôl y son. Hen dro, achos mae hon gystal os nad gwell nag unrhyw beth o'r parthau Llychlynaidd dros y blynyddoedd diwethaf. Ac ydi, mae’r hen John Cardinal (fersiwn Canada o’n DCI Tom Mathias ni, os leiciwch chi) lawn mor brudd a blinedig ag erioed, a bellach yn weddw ar ôl i’w wraig gael ei lladd yn y gyfres ddiwethaf. Does ryfedd fod Toronto 240 milltir i’r de yn apelio gymaint i’w fyfyrwraig o ferch, ac i’w bartner ffyddlon Lise Delorme (yr actores québécoise, Karine Vanasse) sydd ar fin trosglwyddo i heddlu’r ddinas. Ac mae Algonquin Bay ganol gaeaf noethlwm (North Bay go iawn, poblogaeth 52,000, cyn ganolfan filwrol a rhan o warchodfa brodorion y Nipissing First Nation sy’n siarad iaith Algonquin neu Anicinàbemowin), gyda’i stryd fawr slwtslyd yn arwain at wastadeddau gwynion a choedwigoedd maith wedi’u chwipio gan wynt -40 gradd, yn lleoliad perffaith ar gyfer y genre.


Ac mae perthynas y ddau brif gopyn, Lise a Cardinal, wedi newid ac esblygu’n sylweddol ers y gyfres gyntaf pan gafodd hithau ei phlannu yn swyddfa Algonquin Bay PD er mwyn ymchwilio’n gudd i arferion plismona John Cardinal. Yn ara’ deg, daeth y naill i nabod ac ymddiried yn y llall yn well, a dod yn ffrindiau triw tra’n cadw pellter cymdeithasol o rwystredig i’r rhai ohonom sy’n ysu am weld mwy yn datblygu rhyngddynt. Ie, cliché rhif 256 y ddeuawd-ditectifs. Ond tydi hynny byth yn lladd y pleser o wylio’r perfformiadau cynnil mewn cyfres sy’n mynd dow-dow (rhy araf i rai) heb ofni gadael i seibiau ddweud llawer mwy na’r deialog. A diawcs, dw i wir yn malio am y ddau yn eu hunigrwydd.

Sail y gyfres deledu

Yn y gyfres olaf un (sob!), mae dyn yn cipio pobl gyda gwn tazer cyn eu clymu a’u gadael i rewi i farwolaeth mewn llecyn anghysbell, ac anfon neges fideo olaf i’w hanwyliaid – Aelod Seneddol a pherchennog canolfan arddio, a arferai fod yn gyd-ddisgyblion ysgol flynyddoedd maith yn ôl. Mae’n ras yn erbyn y cloc, gyda byd natur yn gymaint o fygythiad â’r herwgipiwr.

Rhwng awyrgylch tawel a'r myrdd o gymeriadau digyswllt, ofni be-ddaw-nesa, yr awyrluniau maith a cherddoriaeth atmosfferig “Familiar” gan Agnes Obel o Ddenmarc (siŵr iawn), dw i ar ben fy nigon.

Croeso’n ôl Cardinal.