O'r crud i'r bedd




Pwy sy’n cofio Dr Elen a Glan Hafren? Dramâu sebonllyd S4C yn y 1990au wedi’u gosod yn y gwasanaeth iechyd? Y math o gyfresi oedd yn canolbwyntio ar fisdimanars doctors a nyrsys a’r cleifion, yn fwy na’r damweiniau a ddigwyddai y tu ôl i’r camera gan nad oedd cyllideb HTV Cymru’n caniatáu stỳnts na ffrwydradau uchelgeisiol? Chawsom ni ddim byd tebyg yn y Gymraeg ers hynny, tra bod Charlie Fairhead MFI o brennaidd a Casualty yn dal i rygnu 'mlaen ar y BBC bob nos Sadwrn.

Tan nawr. Achos fel rhan o arlwy’r hydref, mae gynnon ni gyfres ddrama feddygol newydd ar ein Sianel. Chwa o awyr iach i’r rhelyw sydd wedi cael llond bol ar achos gwaedlyd arall ym mherfeddion Elenydd neu Eryri. Er, roedd yr holl olygfeydd o’r cymeriadau’n fflio mynd hyd lonydd culion Penygogarth yn fy ngwneud i’n wyliwr nerfus iawn o Pili Pala gan amau ein bod ni am gael stỳnt go lew ar S4C am unwaith.

Ac roedd y bennod gyntaf o bedair yn gadael rhyw deimlad annifyr ym mêr esgyrn rhywun, wrth ein cyflwyno i ddau deulu hapus braf mewn chwip o dŷ moethus ar lan y môr. Hanes dwy ffrind yn bennaf, Sara Morris (Sian Reese-Williams), arbenigwraig mewn meddygaeth ffetol, a’i ffrind Elin (Fflur Medi Owen ysgubol o dda) sy’n drymlwythog-ddisgwyl ei phlentyn cyntaf wedi blynyddoedd o drïo torcalonnus. A chyda’r bennod gynta’n pendilio rhwng cyffro’r darpar rieni o ddewis pram a lliwiau i lofft y bychan, a thyndra’r ward esgor gyda locwm dan hyfforddiant yn gorfod camu i’r adwy yn wyneb prinder paediatregydd cymwys, roedd rhywun yn naturiol ofni’r gwaethaf. Na, tydi hi ddim yn hawdd i'w gwylio. 

Ychwanegwch wrthdaro personol a phroffesiynol rhwng gŵr a gwraig (Rhys ap Trefor fel Dygi druan sy’n gorfod magu a rhedeg tŷ wrth weld ei uchelgeisiau gyrfaol ei hun yn mynd i’r gwellt) a thensiynau rhywiol posib rhwng cydweithwyr, a dyna chi lu o bosibiladau dramatig. Hynny, a llygaid arbennig y cyfarwyddwr ffotograffiaeth Bjørn Bratberg a roes naws ffilmig arbennig i’r cyfan. Ac ai cyd-ddigwyddiad smala oedd y ffaith mai Beti (Nia Roberts) ydi enw’r teyrn o ddynas sy’n gyfrifol am benderfyniadau dadleuol bwrdd iechyd y Gogledd?

Neu ‘menyw’ ddylwn i ddweud, gan mai hwntw ydi Beti Howells fel mwyafrif actorion-staff y sbytu dan sylw. Sydd braidd yn rhyfedd, gyda BAFTA Cymru yn brolio cyfres “wedi ei osod ar arfordir Gogledd Orllewin Cymru, mae Pili Pala yn arddangos ei harddwch yn ogystal ag atgofion pŵl yr oes a fu: cefnlen syfrdanol i ddrama torcalonnus [sic].” Ond serch y golygfeydd hyfryd o ardal Llandudno, a’r rhai trawiadol o ffair a phrom y Rhyl, mae’r acenion ar wasgar ac yn dipyn nes at Glangwili na Glan Clwyd. Efallai na fydd hynny’n poeni llawer o’r gwylwyr cynhenid na thramor chwaith. Ond i mi’n bersonol, mae’n swnio’n chwithig ac yn golygu ein bod ni’n colli naws am le ac idiomau naturiol y gogledd yn union fel Craith y llynedd. 

Biti biti mawr.

Serch yr amryfuseddau hyn, mae'n werth dal ati gyda'r gyfres gyfan i'w gweld fel rhan o focset S4C/Clic ar hyn o bryd. Byddwch yn barod am rolarcostar emosiynol, chwalfa persnol a gyrfaol a sawl tro arall yng nghynffon y stori drasig hon. Efallai bod y cyfan yn berig o agos i opera sebon ar brydiau (gyda cliches sebonllyd fel arch-ast o fos, dirgelwch 'pwy di'r tad?' a slapio boch rhywun a thafod siarp) ond mae'r gwrthdaro cyson a'r cliffhangyrs yn hoelio'r sylw. 

A do, fe gawson ni ddamwain car - tu ol i'r sgrin o leia.

Ac oes yna unrhyw un gwell yng Nghymru nag Owen Arwyn (Jac) am actio dyn a'i galon yn deilchion? Da chi gynhyrchwyr, rhowch ran fymryn mwy joli iddo tro nesa,




Pili Pala (Triongl ar gyfer S4C) 8, 15, 22, 29 Medi.