Cefn-gefn




Yr Heliwr sbardunodd bopeth. Y busnes cynyrchiadau cefn wrth gefn ’ma. Dw i’n cofio’r ffilm beilot ar S4C Nadolig 1991 fel ddoe, ac ymgolli’n lân yn hynt a helynt DCI Noel Bain (Philip Madoc) a’i ferch Hannah (Ffion Wilkins), wrth i lofrudd stelcian rownd strydoedd Aber. O’r diwedd, roedd ’na dditectif Cymraeg cystal os nad gwell na Taggart’s y byd. Darlledwyd pum cyfres i gyd rhwng 1994 a 2002, ynghyd â fersiwn Saesneg A Mind to Kill ar HTV, Channel 5 a Sky1 maes o law, hyd at Awstralia bell. Ac mae’r arwyddgan pibau Periw yn dal yn fyw yn y cof. Roedd hon yn dywyll braf ymhell cyn i’r Daniaid greu’r fath ffws a ffasiwn o’r genre noir gyda Forbrydelsen (The Killing) yn 2007.

Fis Hydref 2013, ffrwydrodd chwaer gyfres o’r enw Y Gwyll ar ein sgriniau – eto o blith heddlu Ceredigion, eto gyda chyfieithiad Hinterland ar gyfer BBC Wales-amheus-o-bopeth-Cymraeg, BBC Four a Netflix. Roedd y byd a’r betws wedi mopio (Hinterland – the TV noir so good they made it twice, meddai’r Guardian yn 2013) a’r Volvo XC90, parca coch DI Mared Rhys ac anialdir yr Elenydd yn eiconau. Mi barodd am dair blynedd, ac ennill bri a sawl BAFTA. Ond mi bechodd tipyn o’r gynulleidfa gynhenid hefyd, gyda sgript a swniai fel cyfieitheg ar brydiau.

Yr un criw fu’n gyfrifol am Craith fwy neu lai. Cyfres noir arall ond wedi’i gosod ar lannau’r Fenai ac Eryri y tro hwn, a’r gwaith camera godidog  yn sicrhau hys-bys am ddim i’r Bwrdd Croeso pan gaiff y fersiwn “ddwyieithog” Hidden ei hallforio i weddill Prydain a’r byd. Mae’r stori’n gafael, yr actio’n gadarn (Rhodri Meilir, Gwyneth Keyworth, Owen Arwyn), ond ambell idiom Saesneg yn peri diflastod a phenderfyniadau castio amheus yn golygu ein bod ni’n colli’r naws am le arbennig. Sy’n gwneud i rywun amau pwy bia’r flaenoriaeth gan y comisiynwyr - ai cynulleidfa graidd S4C neu aficionados BBC Four?
Ac yn y canol, drama ddirgel Un Bore Mercher wrth i ddiflaniad disymwth ei gŵr hyrddio Faith Howells i fyd o gyfrinachau teuluol, cyffurgwn a thwyll ariannol. Er gwaethaf fy ofnau cychwynnol am gastio Enw Mawr o’r Byd Actio Saesneg i ddenu gwylwyr (sinig? moi?) - fel Philip Madoc ddau ddegawd ynghynt - mi serenodd Eve Myles fel y prif gymeriad ac argyhoeddi’n llwyr fel dysgwraig. Mae Keeping Faith wedi’i gwerthu i America, Canada a Seland Newydd yn ôl pob tebyg. Gwych! Ond meddyliwch canmil gwell fyddai dangos y fersiwn Gymraeg o Washington i Wellington, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin.

Pwynt am gyllid i gloi. Fe gafodd Y Gwyll hwb ariannol gan raglen MEDIA yr Undeb Ewropeaidd a chydweithrediad cwmni All3 Media International, fel Craith. Ond yn ddiweddar, mi froliodd Ken Skates fod Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfres ddrama Kiri ar Channel 4. O’r diwedd, meddyliais,  drama’r rhwydwaith wedi’i gosod yn y Gymru fodern. Siom uffernol wedyn o sylwi mai Gwlad yr Haf oedd cefndir y stori go iawn, ac mai’r unig stamp Cymreig oedd swyddfa’r heddlu ParcCathays Caerdydd yn smalio bod yn Bryste. 

Mynadd!