Aaaargh!
Digwydd troi i wylio penawdau hwyr ITV Wales wnes i pan
ddigwyddodd yr anffawd. Ynddi, roedd stori am bla o bryfed oedd yn poeni
trigolion tai teras yn “Claneckley”. Anffodus iawn, meddyliais, ond lle gebyst mae’r
dref sydd yng nghanol yr hunllef Hitchockaidd hwn? Deall yn raddol wedyn mai
tre’r Sosban oedd dan sylw, ac na allai neu na fynnai’r ohebwraig yngan
Llanelli dros ei chrogi.
Aaaaargh!!
Tolltais de poeth dros fy mechingalws ar ôl cael fy
nghythruddo. Gair i gall - peidiwch â chael paned wrth wylio newyddion Saesneg
Cymru. Mae’r mantra North Wales llall
a’r South Wales arall yn fy ngwneud
i’n gyndyn o’u gwylio hefyd, fel petaen nhw’n mynd ati i greu rhwyg a wal fawr
ddychmygol o Aber i’r Amwythig.
Arferwn osgoi Wales Today dim ond achos Jamie Owen,
ond rŵan, ’sdim esgus, â’r Bonwr o Benfro wedi codi pac a gadael i fwnglera
enwau lleoedd Twrceg ar sianel TRT World. O leiaf mae pethau wedi altro fymryn,
gyda’r Bangor Aye Jennifer Jones yn llywio’r brif raglen nosweithiol gan
ymuno â chorws “Nos Da” Derek Tywydd. Normaleiddio, hwnna ydi o. A phechu
ambell fonoglot yn y broses. Gwych! A gwych o beth oedd eitem ddiweddar am y
Fam Ynys Atomig, a’r ymgyrchydd Robat Idris yn cael rhwydd hynt i siarad yn
Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin. Mwy os gwelwch yn dda!
Tasg digon diddiolch sydd gan gynhyrchwyr a chyflwynwyr
rhaglenni gwleidyddol hefyd. Rhaglenni sy’n ceisio gwneud synnwyr o Brecsit a
hynny’n ddiduedd. Gobeithio felly y cawn ni ddehongliad clir a teg gan Guto
Harri yn ei rôl wleidyddol newydd ar S4C - na, nid SpAD diweddara’r blaid las
yn Byw Celwydd - ond cyflwynydd sioe siarad Y Byd yn ei Le gyda Guto
Harri. Cyfres sy’n addo cyflwyno gwleidyddiaeth o’r parciau a’r tafarnau,
neu o drac rasio Ffos Las gyda Teresa May. Tybed a oedd rhywfaint o wrthdaro tu
ôl i’r llenni, o gofio am swydd flaenorol ei holwr fel swyddog PR ei nemesis
Boris Johnson?
Sôn am bethau bei-ling, mae Hidden o Eryri a’r Fenai
yn dychryn gwylwyr bob nos Sadwrn yn slot poblogaidd dramâu noir BBC Four ar
hyn o bryd. Rydyn ni, wylwyr S4C, yn ei hadnabod yn well fel Craith wrth
gwrs, a fu’n codi ias arnom dros y gaeaf. Yn anffodus, y fersiwn ddwyieithog
sydd wedi’i gwerthu i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn ogystal â Denmarc,
Ffrainc, yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Belg, Seland Newydd a Chanada. Ond mae
elfennau sydd ddim cweit yn taro deuddeg, fel y ffaith fod DI Cadi John (Siân
Reese-Williams) a DS Owen Vaughan (Siôn Alun Davies) - yn wir, pawb o’r heddlu
proffesiynol, breintiedig - yn siarad Saesneg â’i gilydd, ac eto’n medru’r
Gymraeg yn tsiampion wrth holi teuluoedd tŷ cyngor yr ymadawedig. Mae’n rhoi’r
argraff bron yn Fictorianaidd o chwerthinllyd mai Saesneg ydi iaith y dosbarth
canol proffesiynol breintiedig, ac mai iaith cyrion cymdeithas yn unig ydi’r
Gymraeg.