Bues i ar fy nhrafals yn
ddiweddar. Stockholm y tro hwn. Dinas wâr, lân, gyda strydoedd coblog ag
adeiladau siwgr eisin, amgueddfeydd a chaffis yn ymestyn dros 14 o fân
ynysoedd. Parch i feicwyr a theuluoedd a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. A
rhyw obsesiwn anghynnes â“chomedïau” Americanaidd a Call the Midwife. Doedd
dim modd dianc rhag uffern Brexit (Breg-zit
i ambell ohebydd Cymraeg) chwaith, gyda newyddion SVT yn rhoi blaenoriaeth i
ymweliad aflwyddiannus diweddar Mrs May â’r UE.
Dychwelyd adre wedyn i
weld bod ein Sianel Genedlaethol yn rhoi llwyfan i ddynas amhoblogaidd arall,
un sy’n ennill bywoliaeth trwy ladd ar leiafrifoedd. Katie Hopkins a saciwyd
gan orsaf radio LBC (“Leading Britain’s Conversation”). Katie Hopkins a
ymddangosodd yng nghynhadledd gwrth-Fwslimaidd For Britain ochr yn ochr
â gwadwr yr Holocost. Katie Hopkins fu’n llygru strydoedd Caerdydd yn ddiweddar
wrth sgowtio am “stori” yn erbyn addysg Gymraeg. A Katie Hopkins gafodd rwydd
hynt i ymddangos ar S4C gyda’i “friend” Guto Harri.
Yn y diwedd, wedi “twrw byddarol” ar y cyfryngau
cymdeithasol, cafodd cyfweliad KH ei ailawampio’n drafodaeth ar sut mae ymateb
i ffigurau mor ddadleuol â hon. Ond
damia, mae Guto’n gyflwynydd graenus a dw i’n mwynhau Y Byd yn ei Le o
stabl newyddiadurol ITV Cymru, ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth barn i
dra-arglwyddiaeth y Gorfforaeth Brydeinig. Cyfres sy’n barod i ofyn cwestiynau
pigog am bethau fel ein hawl i elwa ar werthu ein cyfoeth o ddŵr i Loegr awchus
a methiant llwyr Visit Wales i ddenu rhagor o ymwelwyr tramor (0.5% o gynnydd
yn 2017 o gymharu ag 17% i’r Alban). A pha mor haerllug oedd ein sioni bob lliw
o Weinidog Twristiaeth, yn gwrthod ymddangos ar y rhaglen? Diffyg atebolrwydd,
hwnna ydi o.
Mae ’na ddeunydd
*comedi’n fan’na.
O ffêc news i fyd
drama, a chroeso hirhoedlog i gyfres newydd yn slot boblogaidd nos Sul ers i Craith orffen yn y gwanwyn. Bu’n ormod
o fwlch. Doeddwn i ddim yn ffan anferthol o Byw Celwydd ar y gorau, ac eithrio dawn deud y diweddar Meic Povey
a pherfformiad Richard Elfyn fel y gwladweinydd bron yn gartwnaidd o dan dîn. Roedd
y gerddoriaeth honci-tonc a'r holl gecru ailadroddus yn blino rhywun, a braidd
neb o’r cymeriadau’n ennyn cydymdeimlad. Beiwch Borgen o Ddenmarc am osod y safon. Ond fe newidiodd cywair y gyfres
ddiwethaf, wrth i glymblaid fenywaidd ac arweinydd newydd (Ffion Dafis) ddod
i’r fei. Sy’n eironig, â’r Dynion wrth y llyw y Bae ar hyn o bryd.
Diffyg gwreiddiau oedd
thema’r bennod gyntaf i bob pwrpas. Rhiannon am werthu Tŷ Cymru, cartre’
swyddogol y Prif, er budd yr Ysbyty Plant; y cyn-brif weinidog Meirion Llywelyn
a’i wraig yn ei ryffio hi mewn gwesty pum seren; Dylan (y Cenedlaetholwr) a
Catrin (y Democratiaid) ar chwâl; a chwmni modurol o Abertawe yn bygwth codi
pac i’r Almaen achos y busnes “B” ’ma. Ac yn y canol, cryn dipyn o sbeit a
slochian gwin, cyfweliadau teledu, a’r hacs Tom ac Angharad yn dal i gael
mynediad orgyfleus i swyddfeydd y pleidiau. Gobeithio y cawn ni fwy o wleidydda
yn y Siambr a chip ar gartrefi’r aelodau ym mhenodau’r dyfodol - mae’r gwibio o
un swyddfa cod lliw i’r llall yn ailadroddus ar y naw, ac yn prysur lethu
amynedd yr hwn o wyliwr.
*Comedi i gloi, a golwg ddychanol BBC
Wales ar y diwydiant croeso. Dim Dafydd Êl, ond digonedd o actorion comedi
medrus fel Elis James, Sally Phillips a Mike Bubbins yng nghyfres
ffug-ddogfennol Tourist Trap am
gwango wedi’i arwain gan Saesnes a chriw PR reit anobeithiol. Efallai nad yw
mor ‘ffug’ â hynny wedi’r cwbl.
Diolch
Sian Harries, Tudur Owen a Gareth Gwynn am adfer fy ffydd mewn comedi Saesneg o
Gymru a chladdu hunlle High Hopes am
byth.