Dau begwn eithaf

Trenau Arriva India?!?

Mae’r digrifwyr i gyd wrthi. Codi pac o’r llwyfan a mynd i grwydro’r byd. Un o’r ffefrynnau personol yw Michael Palin, ac mae Stephen Fry eisoes wedi piciad i America, Billy Connolly i Ganada, a Paul Merson i Tsieina ac India. A dyna gyrchfan y gomediwraig Beth Angell hefyd, wrth iddi ddychwelyd i wlad enedigol ei thad ym Mryniau Khasia.

Bwrlwm masnachol y wlad oedd dan sylw ail raglen Angell yn India, a sut mae’r dylanwadau gorllewin yn ymdreiddio i’r India fodern. Gwelsom Beth Angell yn crwydro marchnadoedd sbeisys traddodiadol Delhi, sy’n wledd i’r synhwyrau – ac sydd dan fygythiad gyda’r holl fwytai sothach sy’n prysur Facdonaldeiddio’r wlad, gan ddod â phroblemau iechyd yn ei sgil. Bellach, mae clinigau arbenigol yn diwallu anghenion 41 miliwn o gleifion clefyd y siwgr, fel yr un a welsom yn Chennai. Ond mae’r Indiaid hefyd yn defnyddio bwyd (iachach) fel arf addysgol, gan addo pryd bwyd i bob plentyn sy’n mynychu’r ysgol. Y nod yw codi safon llythrennedd y wlad, ac mae’n llwyddiant ysgubol.

O un ddinas swnllyd i’r llall, Mumbai, sy’n fyd-enwog yn sgil llwyddiant Slumdog Millionaire. Mae’n gartref byrlymus, masnachol bwysig i 13 miliwn o bobl (pedair gwaith poblogaeth Cymru fach!), ac un o gonglfeini’r economi leol yw’r dabawallah - bobl sy’n cludo prydau bwyd cartref i ddegau ar filoedd o weithwyr swyddfa bob dydd. Mae’n swnio’n haws nag ydyw. Dilynwyd un dyn yn drymlwythog o fwyd, wrth feicio drwy’r tagfeydd cyn neidio ar drên i gyrraedd pen y daith. Ac ar ôl gweld teithwyr yn gwasgu i gerbydau gorlawn a hongian am eu heinioes trwy ddrysau agored, wnâi ddim cwyno am y daith foreol o’r cymoedd i Gaerdydd fyth eto!

Wedi dwndwr y dinasoedd, roedd hi’n braf dychwelyd i Fryniau Khasia yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Dyma un o ardaloedd gwlypaf India yn ôl y sôn - does ryfedd fod Thomas Jones o Faldwyn a’r cenhadwyr cynnar yn gartrefol yno ers talwm! Mae’r holl law yn fanteisiol i un o ddiwydiannau pwysica’r ardal hefyd, sef tyfu te. Cafwyd sgwrs gyda merch ifanc a ddychwelodd i’w bro i redeg busnes ei thad, Sharawn Tea, gan sicrhau cyfle a chyflog teg i’r trigolion lleol.

Roedd y rhaglen yn frith o ddelweddau gwrthgyferbyniol, gyda thacsis-beiciau a cheir moethus yn brwydro am le ar ffyrdd peryglus y ddinas ochr yn ochr â’r gwartheg dow-dow. Felly hefyd y blociau fflatiau a gwestai moethus sy’n codi uwchlaw’r slymiau dirifedi, ffaith a oedd yn gwylltio Beth Angell yn gacwn. Braf cael cyflwynydd sy’n rhydd i leisio barn yn ogystal â dilyn y sgript. Pluen arall yn het ddogfennol S4C.