Cymru a Hollywood am byth!

Matthew Ni a'i chwaer (Rachel Griffiths) a'i fam (Sally Field) yn Brothers and Sisters.

Onid yw teitlau rhaglenni’n gamarweiniol ar y naw? Daeth pecyn o dapiau cyfresi newydd S4C drwy'r post yn ddiweddar, a phan welais i’r teitl Mr Hollywood a Matthew Rhys ar glawr un ohonynt, mi suddodd fy nghalon. "Hei ho, dyma ni" meddyliais, "Rhaglen arwynebol Hello-aidd yn portreadu bywyd braf yr actor ifanc o Gaerdydd ar sét Brothers and Sisters yn heulwen Califfornia’ (More4, bob nos Iau am 10yh), meddyliais. Diolch byth, roeddwn i’n rong. Beth gawson ni mewn gwirionedd oedd rhaglen ddogfen eithriadol o ddifyr gyda stori gystal ag unrhyw ddrama dros ben llestri Americanaidd - ond bod hon yn wir bob gair. Stori ryfeddol am fab fferm Cymraeg a ymfudodd dros yr Iwerydd, dod yn filiwnydd ac yn dirfeddiannwr ardal lle saif arwydd eiconig ‘Hollywood’ heddiw.

Heddiw, mae gan Matthew Rhys ddiddordeb obsesiynol bron yn hanes Griffith Jenkin Griffith (1850-1919) o Ben-y-bont ar Ogwr. Wedi magwraeth dlawd ar fferm Pen-y-bryn, llwyddodd i gynilo digon o arian i brynu tocyn llong o Lerpwl i Efrog Newydd (Mr Griffith, nid Mr Rhys), cyn ymuno â’r llu o Gymry eraill yng ngweithfeydd haearn Danville, Pennsylvania. Newid cyfeiriad yn llwyr wedyn, ac ennill cyflog anhygoel o $1,000 y mis fel gohebydd mwyngloddio’r Daily Alta California yn San Fransisco ar ôl dweud celwydd noeth am ei gymwysterau. Gwnaeth ei ffortiwn a phrynu ransh 5,000 erw ar gyrion Los Angeles, troi tir diffaith yn dir ffermio ffrwythlon, agor parc enfawr i’r cyhoedd, ac adeiladu ffordd i gysylltu’r ddinas a’r môr - sef Sunset Boulevard heddiw. Pwy ddeudodd nad ydi’r Cymry’n ddigon mentrus?


Ond er gwaethaf ei haelioni, roedd ochr ddu iawn i’w gymeriad. Saethodd ei wraig mewn “gwallgofrwydd alcoholaidd”, a chafodd ei garcharu am ddwy flynedd. Bu farw’n gyfoethog yn ariannol, ond yn dlawd o ran cyfeillion. Serch hynny, mae cofeb ohono’n croesawu ymwelwyr i Griffith Park a’r Griffith Observatory hyd heddiw - lle i enaid gael llonydd o ddwndwr a mwrllwch y ddinas fawr - gan gynnwys Cymry Cymraeg o Lambed i Gaernarfon a welwyd yn loncian, chwarae golff ac ymlacio yno ar ddiwedd y rhaglen.

Roedd Matthew Rhys yn ei elfen wrth adrodd ac actio’r hanes, a defnyddiwyd techneg effeithiol o rannu’r sgrîn yn ddwy i ddangos golygfeydd ddoe a heddiw o’r un lle. Yr unig fan gwan oedd yr arfer o grynhoi’r stori ar ôl pob egwyl, a’r cyflwyniad ych-a-fïaidd “Fy enw i yw Matthew Rhys, ac rwy’n ymchwilio i hanes…” – prawf bod y cynhyrchydd wedi mopio gormod efo’r arddull Americana.

Mae’n anodd credu fod un o Gymry Cymraeg mwyaf dylanwadol Califfornia yn gwbl angof i ni adref. Petai’n Wyddel neu’n Albanwr, byddai wedi’i osod ar bedestal y byd ac yn destun ffilm epig gyda Colin Farrell neu Gerard Butler. Berig fod Griffith Jenkin Griffith yn ormod o bechadur i drigolion Gwlad y Menig Gwynion.