Taflu llwch i'n llygaid?



Gair mawr ailadroddus yr wythnos, heb os, oedd “hanesyddol”. Gair a ddefnyddiwyd i ddisgrifio’r cyntaf o dair dadl deledu fawr rhwng tri o arweinwyr gwleidyddol Lloegr, sori, Prydain ar ITV nos Iau diwethaf. Ac mae’n rhaid bod yr holl heip wedi llwyddo, gan i mi wylio’r rhan fwyaf o’r 90 munud o’r hyn a oedd, i bob pwrpas, megis Question Time heb ddim smic gan y gynulleidfa. Ac yn sgil yr ymateb cadarnhaol, mae’n debyg y caiff y trafodaethau hyn sy’n rhan annatod o syrcas etholiadol America ers 1960, eu mabwysiadu’n barhaol yn yr ynysoedd hyn. Wnaeth Brown, Cameron na Clegg ddim smonach ohoni - dim baglu dros eu geiriau, chwysu dan oleuadau’r stiwdio na phigo’u trwyn ar y slei - yn wir, roeddynt yn ddiflas o broffesiynol. Ond dyna ni, maen nhw’n feistri corn ar drin y cyfryngau, gyda’r camerâu’n eu dilyn bob cam o’r daith canfasio y dyddiau hyn. Ac mae’n debyg fod protestiadau Plaid Cymru a’r SNP wedi dwyn ffrwyth, wrth i’r darlledwyr mawr Seisnig, sori, Prydeinig gymryd sylw ohonynt. Fore Sul diwethaf, mi fentrodd criw Sky News i’r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd i holi pedwar cynrychiolydd y pleidiau Cymreig - gydag Ieuan Wyn yn ennill y ‘Clegg Ffactor’ a dod drwyddi orau ym mhôl piniwn y gwylwyr, a Cheryl Gillan yn codi cywilydd ar y Ceidwadwyr trwy awgrymu fod Rhodri Morgan yn dal yn ben bandit y Cynulliad. Ac mae ITV Cymru a BBC Cymru am neilltuo llwyfan i’r Cymry yn ystod yr oriau brig, heb sôn am yr hen ffefryn dibynadwy Pawb a’i Farn o Fethesda nos fory.

Bob tro yr oedd y cyflwynydd Alistair Stewart yn pwysleisio fod y pwnc dan sylw wedi’i ddatganoli ac felly’n amherthnasol i’r gwledydd Celtaidd, roedd hi’n gyfle i droi i’r ochr arall. Ar BBC2, roedd pennod gyntaf o Welcome to Lagos - rhaglen ddogfen am brifddinas sy’n gartref i 16 miliwn o Nigeriaid. Cawsom gip ar fywyd a gwaith pobl mewn siopau, tafarn, caffis, bwytai a siop farbwr. Dim byd yn anghyffredin am hynny, meddech chi, heblaw eu bod yn byw yng nghanol baw a budreddi Olusosum, un o domennydd gwastraff y ddinas. Er gwaetha’u hamgylchiadau uffernol, roedd y bobl yn dal i wenu fel giât ac yn gobeithio am y gorau. Gwers fach i’r “trueiniaid” hynny a oedd yn swnian am fod yn sownd mewn maes awyr oherwydd llosgfynydd Eyjafjallajoekull. Rhywbeth arall roddodd gwên ar fy ngwep oedd Dathlu! o Borthmadog. Y dasg oedd trefnu parti syrpreis ym Mhortmeirion gyda thema Tsieineaidd, sef hoff wlad y wraig dan sylw - i fod. Yr unig broblem, oedd iddi benderfynu mai India oedd ei gwlad ddelfrydol bellach. Ond wrth gwrs, roedd hynny’n rhy hwyr i Nia a Leah a oedd bron â thynnu’u gwalltiau mewn rhwystredigaeth.


Digon tebyg i Brown a Cameron, wrth weld ’rhen Clegg yn ennill y blaen o nunlle bron.