Och! a gwae(d)

Mi fydd ’na ddathliad dwbl ym Manceinion y Dolig hwn. Yn ogystal â gŵyl y tinsel a’r twrci, bydd un o allforion enwocaf y ddinas yn dathlu’r Aur. Ydy, mae Coronation Street yn 50 oed ym mis Rhagfyr. A pha well ffordd o nodi’r achlysur arbennig na thrwy wahodd eiconau’r gorffennol fel Bet, Hilda a Mavis yn ôl am sheri bincs a darn o gacen pen-blwydd yn y Rovers. Achlysur hapus, hiraethus braf i ddathlu’r garreg filltir efallai? Dim ffiars o berig. Achos mae’r cynhyrchwyr wedi penderfynu dathlu gyda dinistr mawr, wrth i dram ddisgyn am ben y stryd coblog enwog a lladd rhai o’r trigolion. Cyfle i fachu’r penawdau a chwynnu rhai o’r cymeriadau lleiaf poblogaidd yn un. Ba! Hymbyg.

Ond howld on Now Jon. Tydi hwn ddim yn syniad hollol newydd, achos fe ddigwyddodd rhywbeth tebyg ym 1967 ar ôl i draphont simsan ddymchwel am ben y tai teras. Dim ond gobeithio y bydd yr effeithiau arbennig dipyn bach mwy sbesh y tro yma…



I barhau â’r thema drychinebus, penderfynodd Eastenders gael gwared ar rai o’i hen setiau trwy losgi’r Queen Vic i’r llawr yn ddiweddar – ac er gwaetha’r holl sïon fod ’rhen Peggy ‘Gerraourramaaaapuuuuuuuuub’ Mitchell yn cael ei hamlosgi, cerdded i ffwrdd o’r Sgwâr ar ei phen ei hun wnaeth hi’n diwedd wedi 16 mlynedd o wisgo wigs amheus, tollti peint, torcalon a chinawau teuluol trychinebus bob Dolig.


A beth am Pobol y Cwm? Mae’n hys-bys ers tro fod Cwmderi’n symud o iard gefn BBC Llandaf i stiwdios swanc newydd yn y Bae. Cyfle perffaith, efallai, i gael gwared ar yr hen setiau trwy gael un o awyrennau’r RAF i hedfan braidd yn rhy isel a disgyn mewn pelen dân am ben y siop, y caffi a’r Deri. Bechod fod Emmerdale wedi gwneud rywbeth tebyg eisoes…