Cael ein difetha'n rhacs

Defi a Doug - ffrindiau mynwesol Pen Talar

Ar ôl swnian am brinder dramâu teledu o werth - heb sôn am heulwen ddi-dor - dros yr haf, dwi’n cael fy nifetha go iawn erbyn hyn. Yn gyntaf, mae’r gyfres Americanaidd orau ers cyn cof, Mad Men (10pm, nos Fercher, BBC Four), yn ôl gyda mwy o fisdimarnars cwmni hysbysebion ym Madisson Avenue, Efrog Newydd ym 1964, yng nghanol cyffro Beatlemania a phrotestiadau hawliau sifil y duon. Mae hon yn diferu o steil, yn llawn llinellau bachog ac yn berffaith i’r rhai ohonom sy’n hoffi’n dramâu sy’n datblygu dow-dow ac sy’n awgrymu yn hytrach nag esbonio popeth. Cyd-ddigwyddiad hapus yw bod drama fawr S4C hefyd wedi’i gosod yn yr un degawd. Wedi hirymaros ac ychydig o heip, mae Pen Talar (Fiction Factory) yma am y naw nos Sul nesaf. A braf dweud bod hon yn sefyll ben ag ysgwydd uwchlaw’r gyfres ddrama Americanaidd uchod. Tipyn o ddweud? Nac ydi siŵr. Mae’n hen bryd inni frolio cynnyrch y Sianel Gymraeg, mewn cyfnod mor anodd ac ansicr yn ei hanes.

Mae’r gyfres epig hon yn dwyn i gof Llafur Cariad gan Gareth Miles ac Our Friends in the North, ffefryn personol hen hiraethyn fel fi. Yn y bennod gyntaf un, cawsom ein cyflwyno i ddau ffrind deng mlwydd oed a’u teuluoedd ym mhentref dychmygol Rhydycaeau, Sir Gâr. Mae Defi Lewis (Sam Lewis) yn fab i athro cenedlaetholgar y pentref, ac yn byw yng nghartref hynafol a mawreddog Pen Talar gyda’i fam a’i chwaer hŷn, pan nad yw’n gwneud drygau gyda Doug Green (Daniel Leyshon), mab i gyn-löwr a Llafurwr o’r hen deip. Mae’n fagwraeth ddelfrydol ar yr olwg gyntaf, gydag erwau o gefn gwlad o’u cwmpas i rasio mewn go-cart, chwarae sowldiwrs (neu Fyddin Rhyddid Cymru!), cnoi gwm a chael llymaid slei o shandi. Ond, wrth i’r bennod ddatblygu mae ’na gymylau duon ar y gorwel. A phan fod drama’n cynnwys golygfa o storm mewn coedwig, rydych chi’n gwybod yn iawn fod yna rhyw ddrwg i ddod - fel Singing Detective ac Un Nos Ola Leuad o’i blaen. Ac mae diniweidrwydd Doug a Defi yn cael ei chwalu am byth, o’r eiliad y gwelant Lorraine y Siop, merch eu breuddwydion, yn cael ei threisio gan y gweinidog lleol. Ac mae storm ehangach yn bygwth yr hen ffordd Gymreig o fyw, wrth i’r set deledu gyntaf lenwi aelwyd draddodiadol Pen Talar â’r diwylliant Eingl-Americanaidd. Ac er bod llawer o’r digwyddiadau cefndir - darlith radio enwog Saunders Lewis, hanes bomiau Tryweryn yn y papurau, a llofruddiaeth JFK ar y teledu yn teimlo fel ymarferiad ticio bocsys hanes y cyfnod - mae’n ffordd effeithiol o lywio’r plot ymlaen, a dangos ymateb y cymeriadau i’r daeargrynfeydd hanesyddol a chymdeithasol sy’n digwydd o’u cwmpas.

Roedd perfformiadau’r ddau ifanc yn argyhoeddi’n llwyr, ac yn arwydd o’r cyfeillgarwch sy’n para am yr hanner can mlynedd nesaf. A chydag actorion profiadol eraill fel Aneirin Hughes, Eiry Thomas a Dafydd Hywel yn eu cynnal, a’r sgript gan Siôn Eirian ac Ed Thomas, rydyn ni mewn dwylo ’tebol iawn. Bydd cenhedlaeth y 1960au wrth eu boddau gyda’r manylder arbennig i ffasiwn yr oes, ac mae’r golygfeydd sinematig yn cyfleu harddwch Dyffryn Tywi i’r dim. Ydyn, rydyn ni am gael ein difetha’n rhacs bob nos Sul.