Trafferth mewn tafarn... a thai bach

Nos Sadwrn ar y soffa o flaen Noson Lawen (ailddarllediad) neu Strictly Come Dancing ar ôl sgods go symol o’r siop Tsieinî lleol ydi hi i rai yn eu 70au. Ond nid Eurwen Richards. O na. Wedi gair o weddi mewn capel bedyddwyr lleol, mae’n gwisgo’i lifrai - het pêl fas a chôt dywyll â stamp ‘Street Pastor’ ar y cefn - ac yn mentro fesul tri i brif stryd cwrw a chibab canol Pen-y-bont ar Ogwr. Unwaith y mis mae’n rhan o fugeiliaid y stryd sy’n cynnig cymorth i slotwyr nos Sadwrn yn ogystal â dosbarthu fflip fflops i ferched mewn sodlau pigfain - a rhoi mensh bach i Grist wrth fynd heibio wrth gwrs, heb hwrjio crefydd i lawr eu corn gwddw. Yn rhaglen gynta’r gyfres ddogfen newydd, roedd camerâu O’r Galon: Bugail y Stryd (Tinopolis) yn dilyn Eurwen a’i chyd-gristnogion ar shifft deg yr hwyr tan bedwar y bore, ar benwythnos gwlyb Gŵyl Banc Mehefin.
 
 
Rhwng cyfweliadau uniongyrchol ag Eurwen ac eraill fel Andy Morgan, Prif Arolygydd Heddlu’r De a Llinos y parafeddyg, clywsom am ddigwyddiadau tywyll iawn a sbardunodd y bartneriaeth unigryw hon. Bum mlynedd yn ôl, roedd tref Pen-y-bont dan gwmwl ar ôl i lanc gael ei ladd gan giang wrth yr orsaf drenau, a sawl achos o hunanladdiad ymhlith yr ifanc. A dyma fugeiliaid y stryd yn dod i’r adwy trwy ddangos consyrn a chynnig clust i unrhyw un oedd am fwrw gofidiau. Siaradodd Eurwen yn glir a chroyw, a daeth ei hiwmor tawel a chynnes i’r amlwg wrth iddi rannu straeon am griw o fechgyn yn ei thrin fel “ffrind” a’i pharchu fel mam-gu garedig er gwaetha’r gwawdio cychwynnol (“Street pastors? What kind of pasties yew sellin tonight then?). Byddai’r rhaglen wedi elwa ar lai o rethreg ailadroddus yr heddlu, a mwy o hanes Eurwen ei hun. Beth am ymateb (a phryderon?) ei theulu a’i ffrindiau i’w dyletswyddau misol, yn ogystal â barn rhywun gafodd gymorth ganddi yn y gorffennol? Ydy, mae’n santes, tra byddai’r mwyafrif sobor-fel-sant ohonom yn osgoi dyletswydd o’r fath fel y pla.
 
“Be sy’n digwydd i’r carthion ar ôl diflannu i lawr y fflwsh?” oedd brawddeg agoriadol Bethan Gwanas, llefarydd Bois y Caca. Dyna chi linell a theitl i gorddi stumog y gwyliwr druan. Oedd, mi roedd y brodyr o Bumlumon a ddaeth i achub y dydd trwy ddadflocio problemau un fferm, maes carafanau a phortalŵs Maes B eleni, yn gymeriadau a hanner o gymharu â’r lleill a oedd yn debycach i gyfranwyr un o fideos corfforaethol Dŵr Cymru. A do, fe ddysgais mai gwaith trin dŵr gwastraff Caerdydd ydi’r pedwerydd mwyaf yn Ewrop (a dim jôcs am faint o gach sy’n llifo o Lywodraeth y Bae, diolch yn fawr iawn). Ond r’arglwydd, rhwng hon, darpar raglen am ddynion sbwriel a chyfres lle chwech Ifor ap Glyn, mae rhywun yn poeni braidd am ffetish comisiynwyr S4C o faw isa’r doman Gymraeg.