Allez les Cyfryngis!






Prin wythnos sydd i fynd tan y gic gynta. Er gwaetha pawb a phopeth - o siopau cadwyn Seisnig i drefniadau rhech ein prifddinas - dy'n ni ar fin cystadlu mewn twrnamaint mawr rhyngwladol am y tro cyntaf ers bron i drigian mlynedd. Eisoes, gwelsom hys-bys ffilm  sentimental John Lewis-aidd BBC Wales gydag actorion fel Llinor ap Gwynedd a Mark Lewis Jones fel nain a taid(!) yn portreadu sawl cenhedlaeth o deulu ystrydebol o'r cymoedd yn gwylio trwy ddagrau ddoe cyn edrych ymlaen yn awchus at Ffrainc '16.


Sbloets rhwydwaith y BBC wedyn, gyda'r cyflwynwyr megis aelodau o lys Louis XIV - gan gynnwys Robbie Savage, Jason Mohammad a Gabby Logan mewn colur, ffrils a wigiau camp - a'r ddraig goch yng nganol llumanau'r cenhedloedd eraill. Mae 'na gip ar Bale yn hysbyseb gyffelyb ITV dan arweiniad oh! ah! Cantona hefyd. Ac mae cryn flas Ffrengig ar S4C yr haf hwn hefyd (rhwng cweir "uchafbwyntiau" taith y bois rygbi i Seland Newydd) rhwng Owain Tudur Jones yn olrhain hanes y pêl-droedwyr rhyngwladol hynny Ar Faes y Gad ganrif yn ôl i, ym, Owain Tudur Jones yn Pryd o Sêr Pêl-droed nos Iau 9fed Mehefin. Wyneb a llais go gyfarwydd ar ein cyfryngau Cymraeg bellach, "flavour of the month" mae'n wir, ond mae gan y cawr mwyn o Benrhosgarnedd afael cadarn ar yr iaith. A dw i wedi colli cownt o faint o ganeuon swyddogol, Manics et Mint Sos, sydd ar gael yn gydymaith i'r ffans a'r chwaraewyr ganol traffig a streiciau rhemp Ffrainc. Rhwyfo, nid Rhedeg i P/Baris fydd hi berig.


Ac mae hogia Candelas wedi atgyfodi clasur (well) yr Anhrefn fel rhan o ymgyrch hys-bys BBC Cymru i'r Ewros. Mae'n fachog, ond y fideo yn drewi o nepotiaeth y Gorfforaeth wrth i Al Hughes, Dewi Llwyd, Lisa Gwilym, Hardy et al hyrwyddo apps a gwefannau'r Bîb.  Mae criw Radio Cymru wedi bod yn fwy euog na neb o siarad a threfnu ymysg ei gilydd, gyda'i "wela i di yno!". Rhyw naws hunanfodlon braidd oedd i raglen arbennig Llun y Sulgwyn, Ar y Ffordd i'r Ffwti yn Ffrainc hefyd - joli Dylan Ebenezer a Malcom Allen yn y 2CV a'r SNCF i drefi a dinasoedd gemau grwp Cymru - gyda lot fawr o Dylan Ebz yn chwerthin ar giamocs Allen ("Nic Pa-rrr-eeee!"). Ond fel Ryff Geid i Ffrainc, roedd yn dri-chwarter awr dymunol iawn, a'r haul yn gwenu ar ysblander Bordeaux a Toulouse yn arbennig, tra bod Lens druan yn ymddangos mor apelgar ag Abertridwr. Ond pa mor cwl oedd y Nouveau Stade de Bordeaux yn ei ysblander pilerog gwyn? Prin bod unrhyw ddiben i'r canllawiau a'r prisiau trafnidiaeth gyhoeddus ar y sgrîn gan nad oedden nhw yno'n ddigon hir i'r darpar-deithiwr estyn ei bapur a beiro hyd yn oed.


Ond, fel y Murphys ers talwm, dw i ddim yn chwerw am fethu â mynd drosodd. Darllediadau byw S4C amdani, a diolch i dduw bod Fan Zone y Sianel Gymraeg ar gael er mwyn osgoi sylw Eingl-ganolog y lleill. Dylan Ebenezer ac Owain Tudur Jones fydd wrth y llyw, Nic Parry a Malcolm Allen ar y meic, a C(h)atrin Heledd o'r ystlys.

Cyn hynny, mae Ffwtbol a Fflêrs: Cofio 1976 gyda John Cofio Hardy nos Iau nesa am 9.45pm yn apelio'n fawr iawn. Mae unrhyw beth sy'n cynnwys  y "Llen Haearn" wastad yn denu sylw. Blwyddyn gythryblus gêm Iwgoslafia ar Barc Ninian, pan gododd helynt yn y dorf wedi i'r reff ddiystyru gôl Toshack. O'r herwydd, cafodd Yorath a Chymru eu cosbi gan ben bandits UEFA a'u gwahardd rhag cystadlu eto tan '82. Hanes cwbl ddiarth i mi, ond un hir a rhwystredig arall yn hanes pêl-droedwyr y genedl fach 'ma. Mae'n mynd i fod haf chwilboeth o chwaraeon. Mwynhewch.