Am dro

Yr Oerfa - murddyn ger Nebo, Llanrwst

Dw i’n dipyn o grwydryn. Mae yna gyfandir mawr amlieithog, eangfrydig, tu draw i’r Sianel, a bydda i’n bachu ar bob cyfle i godi pac a mynd yno. Dw i’n trio trefnu dau benwythnos hir, y naill ym mis Mai a’r llall ddechrau Rhagfyr. Dinas heulog hyfryd Lisboa, Portiwgal aeth â hi gwanwyn diwethaf; yna Vilnius, Lithwania yn pefrio o hanes a goleuadau Dolig, a Steddfod Llanrwst yn y canol. Mae’n stori dra gwahanol eleni. Y pasbort yn hel llwch a’r bunt wantan heb ei chyfnewid am yr ewros cyfarwydd. Fues i ddim dan glo’n llwyr chwaith. Diolch i bentwr o lyfrau, rhai go iawn a’r kindle, es i Groatia (Perl gan Bet Jones), Iowa, UDA (Ynys Fadog, Jerry Hunter), fferm anghysbell yng ngogledd crasboeth Awstralia (The Lost Man, Jane Harper) ac arfordir Dyfnaint (The Long Call, Ann Cleeves). Dywedodd un neu ddau eu bod nhw wedi methu’n lân a darllen ffuglen dros y cyfnod clo. Dw i ddim yn deall hynny. Yn bersonol, roedd llyfrau’n ddihangfa hanfodol rhag Huw a’i wep gw’nidog yr Hen Gorff ar Niws at Ten, yn sôn am ffigurau a pholisïau Lloegr yn bennaf.

Mae cyfresi diweddar S4C wedi ysgogi diddordeb rhywun yn ei wlad ei hun hefyd. Fues i erioed yng nghestyll Powis na’r Waun, ond mae Elinor Grey-Williams a Tudur Owen wedi codi’r awydd yn Trysorau Cymru: Tir, Tai a Chyfrinachau. Felly hefyd Am Dro, cyfres hamddenol nos Sul lle mae pedwar tywysydd yn ceisio llunio’r daith gerdded a’r picnic gorau am wobr o £1,000 gyda stori ddifyr ac ambell gŵyn ar y ffordd. Come Dine with Me efo cagŵl os leiciwch chi. Doedd adolygydd coeglyd Golwg ddim balchach, ond mae Chwarel Rhosydd ac arfordir Bro Morgannwg ar fy rhestr fer i.

Yr Wyddfa a'i chriw

 

Yn nes adre, ardal Nant Conwy oedd uchafbwynt yr haf i mi. Nant Conwy heb fusutors, hynny yw. Yn anterth y clo mawr, roedd hi’n saffach cerdded a beicio na’r arfer ar hyd lonydd y fro. Rhyw bnawn Sul braf ym Mehefin, felly, dyma fenthyg beic mynydd fy nai hynaf (diolch, Siôn) a dilyn fy nhrwyn. O Garmel, pedlo i fyny ffordd Rhos am dopiau Nebo, a diawlio’r ail bwdin cwstard a gefais awr ynghynt. Hynod falch i mi ddal ati wedyn, gyda dim ond ambell dractor a byrnwr yn torri’r tawelwch llethol, ac Eryri yn teyrnasu o bell. Troi wedyn am lonydd diarth Nant y Rhiw, meddwi ar gloddiau llawn gwyddfid, a hedfan am Garneddau a Ffin y Parc at yr A470. Y briffordd fel y bedd, ac eithrio ambell gar â sticer ‘Yes Cymru’ a ‘Cofiwch Dryweryn’ yn piciad i wneud neges hanfodol yn Llanrwst. Heibio Zip World, y giât wedi’i chadwyno, a dim ond adar yn cadw reiat yn y coed. Gan aralleirio’r gân boblogaidd, dyw Betws ddim yn nefoedd, ’nenwedig yn yr haf, ond wir i chi, mi roedd hi’r pnawn hwnnw. Bron na fedrech glywed pin yn disgyn yn lle pobl yn trampio ar y pafin. Cefais bwl o banig am dorri’r rheol pum milltir fymryn, pan aeth car heddlu heibio. Ymlacio, a phwyso ar Bont y Pair i wylio afon Llugwy yn llifo’n ddiog heb sgowsars na mancs swnllyd yn plymio iddi. Roledd hi’n dywydd hufen iâ, a nunlle ar agor. Penderfynu troi am adref ar hyd y B5106, ac igam ogamu trwy gynefin chwedlonol Dafydd ap Siencyn gyda thro sydyn i Gapel Gwydir Uchaf (1673) am y tro cyntaf yn fy mywyd. Dim ond y tu allan wrth gwrs. Roedd hwnnw dan glo hefyd. Serch bustachu i fyny elltydd Town Hill a Tai Candryll yn ôl i Henblas Carmel wedyn, dw i’n wirioneddol falch i mi wneud y daith. Mi gofiai a sawru’r diwrnod llonydd hwnnw am byth.

Do, fe ddychwelodd yr ymwelwyr i Betws a’r cyffiniau ddiwedd haf, gan lenwi coffrau busnesau lleol a phechu llawer o’r brodorion. Bellach, maen nhw’n ôl adra a dim ond trigolion Bwrdeistref Conwy sydd â’r hawl i ymweld. Does wybod lle'r awn ni nesa efo’r pandemig.

Dw i ofn breuddwydio gormod am llefydd fel Malta, Tregaron a Kraków neu Prâg yn 2021. Ond yn dal i gynllunio, darllen a gadael i’r meddwl grwydro.


 

Pont y Pair, heb y plymwyr anghyfreithlon arferol

 

Afon Llugwy