Gangstyrs drama
Ym 1994, dwi’n cofio mynd i’r pictiwrs gyda chriw coleg Caerdydd i weld Pulp Fiction, ffilm gwlt Quentin Tarantino am is-fyd tywyll a threisgar Los Angeles. Ac mae gen i gof clir o wingo yn fy sedd wrth i John Travolta, Samuel L Jackson ac Una Thurman bledio bwledi a thywallt gwaed bob yn ail olygfa, a hanner y sinema yn rholio chwerthin. Hiwmor tywyll meddan nhw, hiwmor ffiaidd iawn meddwn i.
A dyna’r union ymateb i ail gyfres Y Pris (Fiction Factory), bymtheng mlynedd yn ddiweddarach. Dychwelodd cyfres ddrama fwyaf dros ben llestri S4C yn ôl nos Iau diwethaf, gyda sgil-effeithiau’r rhyfel gyffuriau a gynnau rhwng y Maffia lleol, y ‘Frawdolieth’, a’r Yardies o flaen y Clwb Rygbi lleol a chwythodd i ebargofiant. A’i chwaer wedi’i lladd yn y ffrwydrad, ei gariad yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu gan gyn-Brif Gwnstabl mewn angladd, ac un o’i fois ‘caled’ wedi colli’i goes, mae enw Lyn yr arweinydd (Mathew Gravelle) fel baw. Ac wele lot fawr o sgrechian a gweiddi a goractio yn y sbyty, plismyn pwdr yn mynnu cildwrn, a llawer o olygfeydd ‘moody’ ar lan môr neu mewn clybiau mwll a thywyll. Ac mae yma geisio efelychu hiwmor ‘du’ Tarantinoaidd yng nghymeriadau’r ddau glown, Ieuan a Nicky (Jâms Thomas a Gareth Pierce) sy’n ceisio cadw cyfraith a threfn yn eu dull dihafal o dreisgar. Ai fi sy’n rhy sensitif o’r hanner, neu a oedd rhywbeth wirioneddol afiach yn yr olygfa o Gareth yn piso i fedd dyn a gyhuddwyd ar gam o dreisio merch ifanc leol, ac sydd ar fin cael ei gladdu’n fyw yn y goedwig? A’r ferch ifanc honno wedyn yn cael ei gorfodi i fodloni chwantau rhywiol Gareth fel blacmel, cyn crogi’i hun yn y toiled fel yr unig ddihangfa bosibl iddi? Petai yna gymeriad hoffus i ennyn ein cydymdeimlad, neu ryw elfen o ddaioni yn perthyn i’r bennod, fe fyddwn i’n gallu chwarter maddau i’r fath blot. Dyw’r syniad o gangstyrs y gorllewin gwyllt ddim yn gweithio nac yn gredadwy yn y Gymraeg - cofier Pobol y Cwm ganol y nawdegau pan roedd helgwn cyffuriau yn bla yng Nghwmderi – a byddai Anti Marian yn codi fwy o ofn na llawer o aelodau’r gang. Yn waeth fyth, does dim esgus o gwbl am hiwmor honedig dieflig Y Pris. Mae hon sy’n gadael diawl o flas cas ar ôl ei gwylio. Dwi’n gresynu fod actores mor uchel ei pharch â Sharon Morgan wedi cytuno i gyfieithu’r fath rwtsh. Ond dyna ni, mae'r credit crynsh yn gwasgu ar actorion hefyd debyg...
Dwi ddim yn siwr faint o ffydd sydd gan S4C yn hon mwyach. Yn sicr, roedd peiriant cyhoeddusrwydd Parc Ty Glas yn dawelach o lawer na phan ymddangosodd y gyfres gyntaf, gyda erthyglau di-ri, hysbyslenni drwy'r post a phosteri "Sopranos ger y Lli" wedi'u plastro ar fysus. Ac wedi elwch, tawelwch fu. Mi fydd hi'n ddiddorol darllen y ffigurau gwylio...