Crwydro gyda Iolo




MAE un arall o gyflwynwyr S4/C â sawl stamp ar ei basport, sef Iolo. ’Da chi’n ei nabod yn iawn. Na, nid yr Ap Dafydd o Lanrwst ond y naturiaethwr o Lanwddyn, Sir Drefaldwyn. Mae’n enwog fel adarwr brwd ar raglen radio Galwad Cynnar a’r gyfres Natur Cymru, am fflangellu ffermwyr a’r Cynulliad Cenedlaethol, ac am ei siorts tynn tynn a ddychanwyd mor wych gan gartwnyddion Cnex. Ac er nad oes ganddo’r un hiwmor â Bethan Gwanas na dawn dweud Mererid Hopwood yng nghyfres Yr Afon, does dim dwywaith ei fod yn llefarwr croyw ac yn gwybod ei stwff.

Mewn cyfres newydd sbon, chwe rhan, bob nos Lun, mae Iolo yn Rwsia (Telesgôp) yn olrhain hanes byd natur gwlad fwya’r byd. Anwybyddwch y teitlau agoriadol difflach a’r jingls cefndir sy’n swnio fel petaech mewn bar Rwsiaidd yn Benidorm - mae hon yn wledd i’r llygaid. Ardal y Cawcasws oedd dan sylw yn y rhaglen gyntaf, cadwyn o fynyddoedd ysblennydd sy’n ymestyn 700 milltir o Fôr Caspia i’r Môr Du, lle mae mynydd uchaf Ewrop yn “crafu’r cymylau” 5624 metr uwchlaw’r môr. Mae copaon Eryri yn debycach i dwmpathau tyrchod daear! Dyma gynefin rhai o anifeiliaid prinnaf y byd, gan gynnwys y bualod Ewropeaidd (bison) sydd wedi llwyddo i ffynnu a goroesi tu hwnt i bob disgwyl. Dim ond 1 ohonynt oedd mewn bodolaeth ym 1927, ond diolch i raglen fridio arbennig, mae dros 400 o fualod gwyllt yn crwydro’r Cawcasws bellach. Roedd yr olygfa ohonynt yn cerdded un ar ôl y llall ar y gorwel yn “bleser pur i unrhyw naturiaethwr” a’r gwylwyr, ac yn un o nifer o olygfeydd trawiadol wedi’u ffilmio’n gelfydd gan gyd-gynhyrchwyr y gyfres, NDR Naturfilm o’r Almaen. Un arall oedd honno o’r geifr brodorol, y Tur Cawcasws, yn crafangu-dringo ar rewlifoedd mynyddoedd Alpaidd eu naws. Aeth Iolo Williams ymlaen tua’r dwyrain, ac i hinsawdd a thirwedd cwbl wahanol, Saharaidd. Yma, gwelsom rai o gymêrs byd natur, fel yr igwana pen llyffant a guddiai’n grefftus yn y tywod rhag yr adar ysglyfaethus uwchlaw, a’r draenog clustiau hir yn ceisio dal neidr gantroed i swper.

Cafwyd ambell gyfweliad pytiog gyda phobl y Cawcasws hefyd, fel yr hen fugail a oedd newydd ymddeol wedi hir oes o ffermio yn yr uchelfannau, a gŵr a oedd yn creu offerynnau cerdd o bren lleol i gadw’r hen draddodiadau gwerin yn fyw. Roedd cyrchfan sgïo boblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Teberdinsky dipyn o agoriad llygad, gyda fflatiau concrid hyll y cyfnod Sofietaidd yn hagru’r olygfa naturiol - tebyg i’n gorsaf niwclear Trawsfynydd ni. Er y byddwn wedi hoffi clywed llawer mwy gan y byd dynol, mae’n anorfod mai’r cyfoeth o fyd natur Rwsia fawr sy’n cael y lle blaenllaw yma.