Dinasyddion


Rhyw berthynas digon oriog sydd gen i â’r brifddinas. Ar un llaw, dwi wrth fy modd gyda phensaernïaeth odidog y ganolfan ddinesig, y parciau a’r llwybrau braf ar lan afon Taf, awyrgylch heb ei ail ar ddiwrnod gêm ryngwladol, a’r Gymraeg mewn awyrgylch gosmopolitaidd. Ar y llaw arall, mae’r tagfeydd, fflatiau undonog y Bae, Heol Eglwys Fair ar nos Sadwrn, ac agwedd rhai o’r Cymry Cymraeg clicaidd yn ddigon i’m hel i fyny’r A470. Rhyw berthynas digon tebyg sydd gen i â’r gyfres ddrama Caerdydd (Fiction Factory) hefyd. ‘Hwrê! ac o’r diwedd’ meddwn i, pan glywais sôn am y gyfres wreiddiol. Ymgais i bortreadu hwyl a hoen y dinasyddion ifanc am y tro cyntaf ers dyddiau Dinas - ond gydag actio a setiau gwell, gobeithio. Cofio Paul Ambrose?


Roedd pethau’n argoeli’n dda…tan iddi fynd ar drywydd Brookside, a chladdu un o’r cymeriadau dan batio un o’r dywededig fflatiau. Ac roedd y gyfres ddiwethaf yn trio’n llawer rhy galed i godi gwrychyn criw Taro’r Post gyda golygfeydd mewn clybiau hoyw a chyfryngis-a-gwleidyddion yn ffeirio’r cwrw am cocên. A phwy all anghofio’r drwgenwog Sex and the Senedd, pan ffilmiwyd golygfa gnychu yn nhŷ bach y Cynulliad yn ddiarwybod i’r awdurdodau? Y gwir amdani yw bod yr eiconig This Life wedi gwneud rhywbeth tebyg i gyd o’r blaen, ac yn fwy llwyddiannus, dros ddegawd yn ôl.

Dyddiau da efo Warren, Miles, Anna, Milly ac Egg

Ond dyma benderfynu rhoi hen ragfarnau o’r neilltu, a throi i wylio’r bedwaredd gyfres nos Sul diwethaf. A chan na wnes i ganolbwyntio rhyw lawer gyda’r gyfres ddiwethaf, roeddwn i’n dra diolchgar o’r crynodeb ar ddechrau hon a agorodd gyda Peter Marshall (Ryland Teifi) yn gadael yr ysbyty ar ôl pwl o orffwylledd gyda chyllell, ac yn syth i groeso gorawyddus Ceri - a oedd yn ddigon i’w hel yn ôl i seilam. Mae Osian a Kate yn cydfyw’n hapus (tan ddaw hi i wybod am ei arferion gamblo ar-lein efallai), ac Ems wedi ffeindio ffrind newydd yn Sara, athrawes gelf (braf gweld Lauren Phillips yn gwenu unwaith eto ar ôl bod trwy’r felin fel Kelly Pobol y Cwm). Mae Mike druan ar goll yn lân ar ôl i Elen adael am borfeydd brasach Llundain, a Leah wirion o glên yn breuddwydio am fyw’n deulu bach dedwydd efo Steven James. Ond trodd ei breuddwydion yn hunllef ar ôl cwrdd â phlentyn siawns Steven wrth fynedfa’r ysbytu. A daeth Osian ei fab i’r fei, i afael yn llaw ei gyn-gariad yn y ward mamolaeth.

Dechrau digon addawol felly, dan gyfarwyddyd medrus Ed Thomas. Hynny heb yr un olygfa diangen o floneg gwyn mewn gwely chwyslyd.