Ugain mlynedd yn ôl



“Achtung! Sie verlassen jetzt West-Berlin”

Dyna’r geiriau sydd ar fagnet oergell a brynais ym mhrifddinas yr Almaen ddwy flynedd yn ôl. Fe’i cefais mewn siop sothach ar safle’r hen ‘Checkpoint Charlie’ dan ei sang o ymwelwyr, a oedd yn tynnu lluniau o ddynion mud mewn lifrai Americanaidd a Sofietaidd neu’n cael gwibdaith mewn Trabants pinc llachar. Buasai’r fath beth yn amhosibl dros ugain mlynedd yn ôl.

Oes, mae gen i ddiddordeb byw yn hanes y Llen Haearn a’r newid mawr a fu, ac felly roedd yna gryn edrych ymlaen at raglen arbennig Wal Berlin gydag Ifor ap Glyn i gofio am gwymp 1989. Ry’n ni i gyd yn hen gyfarwydd â’r lluniau archif o drigolion dwyrain Berlin yn neidio o ffenestri’u fflatiau i freichiau diogel dynion tân y gorllewin, cyn i’r wal gau amdanynt ym 1961, heb son am y delweddau erchyll o’r rhai a laddwyd gan fwledi’r giards neu a waedodd i farwolaeth ar weiren bigog y ffin. Ond y cyfweliadau personol oedd fwyaf diddorol, yn enwedig â Jina Gwyrfai a Sabine Heinz mewn Cymraeg rhugl. Synnais fod Sabine, fel sawl un arall o’i chydwladwyr, yn dal i gael pwl o Ostalgie - hiraeth am hen ddyddiau’r DDR - gwlad a froliai un o systemau addysg gorau’r byd, a lle’r oedd diweithdra a throseddau yn brin (neu o’r golwg). Roedd eraill yn anfodlon mai gorllewin yr Almaen sydd wedi elwa fwyaf ar ôl uno. Ond buan y mae pobl yn anghofio am ddyddiau’r Stasi, system heddlu cudd a oedd yn rhan anhepgor o baranoia’r dwyrain, system a oedd yn mygu rhyddid barn a meddwl y trigolion. Gweler ffilm wych
Das Leben der Anderen (The Lives of Others), ffilm dramor orau yng ngwobrau Oscar 2007, am effeithiau’r Stasi ar eu gwaethaf, wrth droi ffrindiau a pherthnasau i ysbio ar ei gilydd.


Does dim owns o sentimentaliaeth yn perthyn i’r hanesydd gwleidyddol a cholofnydd y Guardian,
Hywel Williams - Victor Meldrew hanes Cymru fodern. Mewn cyfres chwe rhan, Cymru Hywel Williams (fawr o ddychymyg yn fan'no) mae’n tynnu trigolion y “wlad fach od” hon i’w ben a chyhuddo’r dosbarth canol Cymraeg o ymdoddi a derbyn yn slafaidd ddisgwyliadau Lloegr fawr ohonom. Cyfeiriodd at enghreifftiau o hynny mewn hanes, o’r hen Uchelwyr Cymreig yn llyfu tîn Harri VII wedi’r goncwest fawr, yr élite Cymraeg yn clodfori Carlo adeg Arwisgiad 1969, a Llywydd cenedlaetholgar y Cynulliad yn croesawu’r Cwîn yn gynnes i agoriad swyddogol Senedd y Bae. Mae teitl Saesneg y sefydliad yn dweud cyfrolau - National Assembly for Wales - fel rhodd Llundain i'r taeogion dros Glawdd Offa. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at y drafodaeth banel i gloi’r gyfres ddifyr a ddadleuol hon!