Y ddinas fawr ddwys



Croeso i Gaerdydd 2010. Prifddinas fodern, gyffrous, 24/7, sy’n hudo Cymry Cymraeg ifanc o’r bröydd traddodiadol i fwynhau’r bywyd bras ar lan afon Taf, ymuno â chlîque CFCanna a thafarn y Fuwch Ddu, llosgi'r cerdyn credyd yn John Lewsyn a slochian siampên a sushi yn y bur hoff Fae? Wel, nid i gymeriadau’r ddrama gyfres Caerdydd beth bynnag, a ddychwelodd i’n sgriniau am y tro olaf nos Sul. “Mae’r diwedd yn dechrau” meddai cyflwynydd clogyrnaidd y sianel yn ei Wenglish gorau – pan fyddai “dechrau’r diwedd” yn swnio ganmil gwell a naturiol.

Ta waeth, mae bywyd y brifddinas wedi hen golli sglein i’r criw gwyllt a arferai fwynhau partis cocên a chwarae doctors a nyrsys yn nhoiledau’r Cynulliad. Mae Sara’r athrawes mewn gwewyr meddwl ynglŷn â’i charwriaeth ryfedd â Jamie sy’n pendilio rhwng y ddau ryw; Lea ddagreuol yn poeni fod rhywun wedi cipio a lladd ei bachiad diweddaraf; Emyr yn mynnu mai lojar ei ffrind gorau a ymosododd yn giaidd arno yn ei gartref; a Kate yn chwarae hefo tân wrth ddianc i bersona hollol gwahanol mewn basg a sysbendars gerbron ei chymydog. Ond Osian druan sy’n ei chael hi waethaf. Ar ôl goresgyn problemau gamblo a gorddos, cefnodd Kate ei gariad arno ar ddiwedd y bennod – gan chwalu’i fywyd yn deilchion fel y siandelïers anferthol a gwympodd arno yn y gegin. Mae’n ddigon i wneud i unrhyw un ganu’n iach i Grangetown, a dychwelyd i glydwch y gogs neu’r gorllewin.

Diolch byth, felly, am Tasha (Ffion Williams) a Dai (Aled Pugh) y pencampwr snwcer am dorri’r felan gyda’u castiau dwl a’u dawn dweud byrlymus. A chafwyd rhywfaint o gomedi anfwriadol gan Ian Saynor hefyd, wrth iddo’i ‘hamio’ hi am y gorau fel ei gymeriad yn Dinas ers talwm. Beth fydd tynged y criw yn y diwedd? A fydd rhywun yn wirioneddol hapus, yn canfod cymar oes ac yn bwrw gwreiddiau yn y ddinas fawr? A ddaw cyfrinach y corff i’r fei? Doeddwn i ddim yn ffan o’r stori Brookside-aidd hon o’r cychwyn cyntaf, pan gladdwyd Danny – gŵr Kate – dan y patio wedi damwain angheuol ar safle adeiladu Peter, cyn cloddio’r corff a’i losgi er mwyn cuddio’r dystiolaeth. Siawns y bydd y stori ych-a-fi hon yn dod i fwcl cyn hir, ac y bydd rhywun yn talu’r pris yn y diwedd. Efallai y gwelwn ni Peter, Kate ag Osian mewn cyfres ddilynol o’r enw ‘Carchar Caerdydd’!

Does dim dwywaith fod y cyfan yn edrych yn dda, wedi’i gyfarwyddo’n grêt, a’r gwaith camera’n drawiadol fel y golygfeydd panoramig o’r Stadiwm a’r Bae yn newid o ddydd i nos. Ond mae’n bryd i ni ac S4C droi ein golygon dramatig i ddinas neu dref newydd, ffres a gwahanol, bellach – Abertawe, Aberystwyth neu Bwllheli efallai - neu hyd yn oed tref ddychmygol a chymeriadau ffraeth Caersaint yn nofel newydd Angharad Price!