Saesneg yn essential? Ddim ar y Sul


Wrthi’n peintio ffens yr ardd o'n i bnawn Sadwrn diwethaf, gyda chwmni’r radio yn y cefndir. Kevin Davies oedd wrthi, mewn cyfuniad o gerddoriaeth ac adroddiadau byw gan Hywel Gwynfryn o ŵyl Taran Tudweiliog. A dyma Celia Drws Nesa, Valleygirl o dras Bwylaidd yn gofyn dros y clawdd, “Orright Dillon? Why they playin’ Oasis songs on Welsh radio?”. Yn hollol, Celia fach. Os ydi hi’n sefyllfa hurt i’r di-Gymraeg…

Rhwng rhaglenni nosweithiol ‘K2’ a mwydro prynhawnol Jonzey, mae recordiau’r iaith fain yn merwino’r glust yn aml y dyddiau hyn. Does dim byd gwaeth na gyrru ar hyd yr A470 droellog yn straffaglu ffeindio Radio Cymru achos bod cân Saesneg ymlaen ar y pryd. Mae’n hen, hen broblem. Ond mae’n broblem i’r Gwyddelod hefyd. Am ryw reswm anesboniadwy, mae Raidió na Gaeltachta yn gryfach na’r orsaf Gymraeg yng nghrombil Maldwyn, a rhyw glasur Saesneg o’r chwedegau oedd ar honno ar y pryd. Efallai fod 'na ryw gochyn o Gonamara yn diawlio fel fi wrth yrru adref ar yr N59 ym mhen draw’r Ynys Werdd.

Diolch i’r drefn, mae dydd Sul yn rhydd rhag seiniau’r Brodyr Gallagher. Daw Dewi Llwyd ar Fore Sul ymlaen gyda’r cloc larwm, ac adolygiadau manwl ac amrywiol o’r papurau yn arbed sgowt i’r garej i brynu rhai fy hun! Y darn gorau i mi’n bersonol yw’r cyfweliad â Chymry amlwg, a chlywed beth sy’n eu plesio a’u gwylltio am y Gymru gyfoes. Ar ôl cinio, braf clywed hanner awr prin o ddrama radio yn y gyfres Clasuron, gyda Gwyn Vaughan ac Owen Arwyn yn darllen detholiad o ‘Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun’ gan Aled Jones Williams – perfformiad dirdynnol iawn i unrhyw un sydd wedi gweld un o’u hanwyliaid yn dirywio’n araf o flaen eu llygaid. Fin nos wedyn, mae rhaglen sgwrs a chân Dei Tomos yn ffefryn mawr arall, yn ogystal â John Hardy yn Cofio am bwnc arbennig o archifau’r weiarles. Ond mi fyddai wedi hen diffodd y sét radio erbyn i’r John arall a’i bartner hawlio’r tonfeddi tan hanner nos.

Wythnos diwethaf ar y Post Cyntaf, fe gafodd y Cymry Cymraeg chwip dîn gan Cefin Roberts am anwybyddu Eisteddfod Llangollen. Yn anffodus, mae gen i’r ddelwedd ohoni fel ’steddfod Seisnigaidd sy’n denu tripiau o blant ysgol a chriwiau Darbi a Joans. Er hynny, fe wyliais ambell raglen uchafbwyntiau Llangollen 10 gyda’r nos, dan ofal Nia Roberts a Trystan “Gweiddwch blantos!” Ellis-Morris, a mwynhau eitem i gofio am y diweddar Robin Jones a fu’n llywio o’r llwyfan am flynyddoedd, a gweld hen glipiau ohono’n gwneud i gynulleidfa’r Pafiliwn Rhyngwladol forio chwerthin. Dwi ddim yn siŵr ai ‘mwynhau’ ydi’r gair addas i ddisgrifio enillwyr cystadleuaeth côr y byd nos Sadwrn chwaith. Er gwaetha gwisgoedd trawiadol a choreograffi celfydd y cantorion o Ynysoedd y Philipinas, roedd y cyfuniad o’r sgrechiadau a’r offerynnau taro yn debycach i gyfeiliant ffilm arswyd Psycho.

Ar dramp

Papur dwybunt Banc y Ddafad Ddu

Dylai cynulleidfa wledig, graidd, S4C fod ar ben eu digon. Rhwng Dai a Daloni yn dal i chwilio am y Fferm Ffactor, Russell a Bethan yn palu dros Gymru yn Byw yn yr Ardd, a Dudley yn hyrwyddo marchnadoedd fferm O’r Gât i’r Plât, mae ’na hen ddigon o flas y pridd ar y Sianel yn ddiweddar. Hyn oll, a’r ffaith fod Bro (Hel Straeon ar sbîd) yn ymweld ag ardal y Sioe Fawr bythefnos cyn y digwyddiad mawr ei hun. Ac roedd cyflwynwraig y rhaglen honno yn rhan o brosiect mawr y Sianel wythnos diwethaf hefyd. Bu Shân Cothi yn llywio awr o raglenni byw Y Porthmon bob noson o’r wythnos, wrth i Ifan Jones Evans (wyneb cyfarwydd Rasus a Mosgito) a’i braidd ddilyn ôl troed Dafydd Isaac o’r Mynydd Bach, Ceredigion - un o borthmyn olaf Cymru yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf. Ac nid rhyw filltir neu ddwy dros bant a bryn, o na! Taith gerdded gan milltir o Fachynlleth i Aberhonddu. Tipyn o gambl, a hunllef posibl i’r trefnwyr wrth orfod taclo’r tywydd, tagfeydd yr unfed ganrif ar hugain, baich biwrocratiaeth adran amaeth y Cynulliad a llygaid barcud milfeddygon a’r RSPCA. Hyn oll heb gymorth Sakacaki 4x4 sgleiniog o Japan na threlar cwmni nid anenwog o Gorwen… o flaen camera, o leiaf!


Dyma fformat y rhaglenni nosweithiol yn fras. Cerddoriaeth agoriadol gan gyn-aelodau’r Cyrff a Catatonia a theitlau agoriadol art deco, trawiadol, yn dangos Ifan y porthmon a map o’r daith cyn ein harwain at y fythol fyrlymus Ms Cothi. Toedd hyd yn oed cae pêl-droed corsiog Bow Street na sgwâr gwlyb sopen Llanwrtyd ddim yn gallu lladd brwdfrydedd Shân Cothi. Yr unig dro y cafodd ei dal oedd wrth i wragedd fferm Tregaron barablu a thynnu’i ei sylw oddi ar y cloc a’r autocue! Cawsom flas ar ddigwyddiadau byw y noson, o arddangosfa hen geir i dreialon cŵn defaid a noson lawen, a John Meredith yn holi pobl am eu hatgofion o’r ‘drofars’. Yna, uchafbwyntiau siwrnai Ifan a’i gydymaith Erwyd Howells yn gynharach yn y dydd - a olygai groeso mawr gan blant ysgol lleol, paned a brechdan bacwn gan hen ferched ffeind, a throchfa braf yn yr afon i Nan a Cap y cŵn ffyddlon. Er, wn i ddim faint o groeso gafodd rai o’r defaid gwyllt a adawodd eu hôl ar sawl dreif a gardd chwaith!

Roedd hi’n bleser gweld rhannau newydd a dieithr o’n gwlad, fel unigeddau mawr yr Elenydd, a chlywed enwau llefydd fel Pont ar Gamddwr yn fiwsig i’r glust. Llongyfarchiadau i gwmnïau Telesgop a Mr Producer ar gyfres ddifyr ac uchelgeisiol dros ben, yn wyneb cryn gystadleuaeth o du Cwpan y Byd a’r nosweithiau clós. A braf gweld rhywfaint o wreiddioldeb yn perthyn i’r diwydiant teledu Cymraeg.

Torchwood UDA


Newyddion da i “Woodies” y byd. Mae’n swyddogol. Mae Capten Jack a Gwen ar fin dychwelyd am bedwaredd gyfres! Ar ôl ofnau diweddar fod y dirwasgiad ym myd teledu wedi rhoi’r farwol i Torchwood, cadarnhawyd y bydd BBC Cymru yn cydweithio â BBC Worldwide a sianel loeren Americanaidd, Starz Entertainment, (sgiwisiwch y zillafiad naff) ar 10 pennod newydd sbondanlli â mwy o gyllideb na’r cyfresi blaenorol. Yr unig newydd drwg yw nad Caerdydd fydd canolbwynt i’r gyfres mwyach, ond Gogledd America yn bennaf, gan greu drama ag ymdeimlad mwy byd-eang iddi meddan nhw. Ergyd i froliant bosys Llandaf o greu drama fodern yng Nghymru i weddill y byd.

Roedd giamocs arallfydol Russell T Davies, y sgriptiwr a’r cynhyrchydd gweithredol, yn fwy poblogaidd na Doctor Who ar BBC America, ac mi fydd acen gref merch o Ystradgynlais yn fiwsig os nad yn destun chwilfrydedd i glustiau’r Iancs. Ac os bydd Eve Myles yn hiraethu am adref, gallai wastad brynu ty haf yn Cardiff by the Sea neu Swansea.

O'r stafell fyw i Sweden


Rydyn ni i gyd yn hoffi dianc drwy’n teledu. Yn bachu ar y cyfle i eistedd a gadael i’r bocs bach yng nghornel yr ystafell ein tywys i fyd arall am ryw awran. I fyd y ddrama yr af i’n bersonol, ac yn ddiweddar i fyd Wallander ar BBC Four dros y 13 wythnos diwethaf. Na, nid fersiwn Seisnig Syr Ken Branagh ond y gwreiddiol o Sweden gyda Krister Henriksson yn chwarae rhan y ditectif prudd ond praff. Ac o’r diwedd, cefais gyfle i ddal i fyny efo diweddglo dramatig Caerdydd cyn iddi ddiflannu o archif S4/Clic. A son am ddiweddglo. Mae bywyd y brifddinas wedi hen golli sglein i’r trendis ifanc, wrth i’r bennod olaf orffen gydag angladd, ymweliad â sbytu meddwl, llanc yn llosgi tŷ ei gariad i’r llawr, a llabwst yn bygwth mam a’i phlentyn gyda gwn. Actio da, heb os, ond o! am bwll dudew o ddiweddglo. Roedd hi fel petai’r sgriptwyr am bentyrru dinistr a dioddefaint ar y cymeriadau o ran sbeit i’r ffyddloniaid oedd am weld pethau’n dod i drefn yn dwt a hapus. Diawled.

Dihangfa arall i lawer yw’r myrdd o gyfresi teledu sy’n sbecian trwy dyllau bach y clo - mae mam yn hoff o droi at sianel ‘Home’ (sianel 246 ar Sky) pan nad oes affliw o ddim ar S4C ond rygbi neu bumedddarllediad o Bro o Lanbedinodyn. Yn y nawdegau, roedd rhaglenni ailwampio cartrefi yn wirion o boblogaidd, gyda Carol Smilies y byd yn dangos sut i drawsnewid hen fyngalo blinedig yr olwg o’r 1970au yn Bolton yn rhyw fila foethus Beverly Hillsaidd. A gwae chi os mai Lawrence Llywelyn-Bethma oedd y dylunydd. Erbyn y 2000au, daeth cyfresi fwy soffistigedig fel Grand Designs yn boblogaidd. A rhyw gyfuniad go rhyfedd o 04 Wal a DIY SOS yw Sioe’r Tŷ i bob pwrpas. Yn y gyfres newydd hon, mae Ms Rygbi’r Sianel, Sarra Elgan, yn cyflwyno eitemau amrywiol i bawb ohonom sydd â diddordeb mewn datblygu, prynu a gwerthu, neu jest fusnesu yng nghartrefi pobl eraill. Roeddwn i’n hanner disgwyl gweld Aled Sam yn gorwedd ym maddondy’r tŷ haf yn Llandudoch. Cafwyd eitem am ffermwr o Lanuwchllyn a gododd tŷ ffrâm pren ar ei dir, fel ateb rhad a chyflym o godi tai ar gyfer y Gymru wledig. Yn anffodus, doedd dim son am rif ffôn neu wefan i gael rhagor o gyngor neu gymorth ar hyn. Ac yn y canol, cawsom gynghorion gan ‘Frenhines Sgwrio’ o’r enw Ann ar sut i lanhau hen silff bren, Iwan Llechid yn dangos sut i drwsio tap sy’n gollwng, a Leah Hip neu Sgip Hughes yn gweddnewid a gorchuddio hen gadair ddiflas â siwmperi gwlanog. Pytiau blasus a defnyddiol neu ormod o bwdin? Barnwch chi.

Gair am Gwpan y Byd i gloi. Na, nid i ymhyfrydu yng nghweir Lloegr (er mor ddoniol oedd honno, heb son am ymateb Sky News a’r English Broadcasting Corporation). Ar fwletinau chwaraeon Radio Cymru, clywyd Dylan Ebenezer yn cyfeirio at wlad o’r enw’r Ivory Coast ac Arfordir Ifori mewn un prynhawn. Trueni na fyddai wedi troi at lyfr Gwyn Jenkins, neu ofyn i’w dad hyd yn oed, am yr enw cywir – Traeth Ifori. Peth peryg ydi cyfieithu adroddiadau newyddion Saesneg yn slafaidd.

Diolch Boris!


Feddyliais i erioed y buaswn i’n dweud hyn, ond diolch Boris. Diolch i Faer bwgan brain Llundain am adael i’w sbinddoctor - neu “Gyfarwyddwr Cyfathrebu” yn swyddogol -ddychwelyd i weithio yn ei famiaith. Ydy, mae’n braf gweld Guto Harri yn ei ôl, a braf cael rhywfaint o sylwedd ar y Sul.

Dweud Pethe yw’r rhaglen dan sylw, un o sgil-gynhyrchion celfyddydol S4C. Fel Cyw i’r rhai bach a Stwnsh i rafins 7-13 oed, mae Pethe yn amlwg yn rhan o draddodiad newydd S4C o frandio’i rhaglenni. Ac mae’n syniad penigamp. Trueni fod Pethe Hwyrach wedi dod i ben yn ddisymwth hefyd - gobeithio y bydd Nia Roberts a’i gwesteion anodd-eu-plesio yn dychwelyd i fwrw golwg beirniadol ar gynnyrch y Genedlaethol ym mis Awst. Ond yn ôl at Dweud Pethe. Dros y tair nos Sul diwethaf, bu Guto Harri’n holi Cymry blaenllaw yn eu maes - o’r darlledwr a’r ymgyrchydd iaith Dr Meredydd Evans i’r awdures amryddawn Eigra Lewis Roberts. Hanner awr o holi a sgwrsio pwyllog, fel Beti a’i Phobl heb gerddoriaeth, ble mae’r holwr yn gadael i’r gwestai siarad wrth ei bwysau ei hun. Rhaglen rad ar un olwg, ond sy’n gyfoethog o ran cynnwys os gewch chi sgwrsiwr tan gamp. Roedd cyfweliad Eigra Lewis Roberts yn ddiddorol iawn i gyw-sgwenwyr eraill, fel un sy’n pontio sawl cyfrwng creadigol - o sgriptio dramâu teledu i farddoni ac ysgrifennu dros 30 o nofelau. Daeth beirniaid llenyddol diddeall ac ansensitif o dan y lach ganddi, ac yn anffodus, treuliwyd gormod o amser yn trafod hyn. Roeddwn i, ar y llaw arall, am ei chlywed yn ymhelaethu mwy ar yr her o ddeialogi heddiw pan fo cymaint o eiriau ac idiomau Saesneg yn plagio’n iaith bob dydd. Bechod hefyd na chlywyd mwy am ei chynnyrch enwocaf, Minafon, un o’r cyfresi mwyaf poblogaidd erioed ar S4C - a’i barn ar gyflwr y ddrama deledu Gymraeg heddiw. Roedd rhaglen Meic Stephens yn ddifyrrach fyth, am nad oedd ei hanes mor gyfarwydd i mi. Cyfuniad o Mr Parchus y Sefydliad fel awdur Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, athro Tom Jones yn ystod ei gyfnod ymarfer dysgu yn Nhrefforest, ac awdur graffiti enwocaf Cymru - ‘Cofiwch Dryweryn’. A gŵr sydd am i bobl fwynhau fimto a phlatiad o ffagots yn ei de cnebrwn!

Ac fel roeddwn i’n dechrau cael blas arni, dyma Guto Harri yn cyhoeddi mai Rhun ap Iorwerth fydd wrth y llyw nos Sul nesaf. O, wel. Efallai fod Boris a Llundain fawr yn galw eto.