Tocyn Unffordd


Mae’n cyflwynwyr ni’n codi pac i bobman dyddiau hyn. Dyna chi Shân a Iolo, sy’n dal i grwydro Cymru fel cathod i gythrel yn y gyfres Bro, gan gynnwys ynys hudolus Enlli a oedd yn haeddu rhaglen gyfan iddi’i hun wythnos diwethaf. Mae criw Ffermio yn mentro ymhellach na’r sied silwair yr haf hwn hefyd, wrth gwrdd â ffarmwrs Cymraeg yn Llydaw ac Iwerddon. Y gwledydd Celtaidd oedd cyrchfan Aled Sam ac Alex Sam yng nghyfres gyntaf Tocyn yn gynharach eleni. Y tro hwn, dinasoedd gwledydd Prydain ac Ewrop yw testun Tocyn Penwythnos (bob nos Fawrth am 9pm).

'Nôl ym mis Ionawr, dywedodd rhyw adolygydd teledu blin fod “Aled ac Alex yn mwynhau’u hunain gymaint nes anghofio amdanom ni’r gwylwyr gartref”. Does dim perig am hynny y tro hwn, gan fod sawl elfen newydd a difyr yn perthyn i’r ail gyfres. Yn gyntaf, mae pobl eraill yn rhannu’r daith – teulu McKee o Lanbedr, Rhuthun yn yr achos hwn – ac yn ail, mae tair amlen Aur, Arian ac Efydd yn cynnig tri llety gwahanol at bob poced. Trip i’n prifddinas ni a gafwyd yn gyntaf, a pham lai, yn nyddiau’r ‘gwylia adra’ neu’r staycation bondibethma?

Aled Sam gafodd yr amlen ’Aur’ gyda fflat hunangynhaliol 04 Wal-aidd ar Heol y Gadeirlan 90210, tra’r oedd Alex druan wedi pwdu braidd wrth gael ei hel gyda’i handbag ffasiynol i hostel ar lan afon Taf. Cafodd ei siomi ar yr ochr orau ar ôl camu i mewn i
hostel pum seren gyda balconi’n wynebu meca rygbi Cymru. Roedd wynebau’r brodyr ifanc o Ddyffryn Clwyd yn bictiwr wrth gydadrodd “www!” a “waw!” yn Stadiwm y Mileniwm ac ar gwch cyflym yn y Bae. Ar ddiwedd y penwythnos, daeth y criw at ei gilydd i gymharu nodiadau a rhoi marciau (ffafriol iawn) allan o ddeg. Dwi’n siŵr fod Bwrdd Croeso Caerdydd wedi mopio. Trueni am y golygfeydd ‘gwneud’ chwerthinllyd hefyd, wrth i Alex gyflwyno tai potas Wombanby St. i’w chydymaith. Dewch ’laen - ydyn ni wir i fod i gredu nad oedd Mr Sam wedi tywyllu Clwb Ifor cyn hyn?

Cryfder y gyfres newydd yw’r gwesteion, ac mae’n werth i chi weld Billy ac Olive o Fethesda yn bwrw’r sul yn Lerpwl wythnos nesaf. Ac o’r diwedd, mae
gwefan y gyfres yn cynnwys rhagor o fanylion am westai a gweithgareddau’r dinasoedd dan sylw.

Mae Aled Sam ac Alex yn dda efo’i gilydd, gyda’r naill yn tynnu ar y llall. Trueni, felly, fod y berthynas (broffesiynol!) yn dod i ben wrth i’r gyflwynwraig siriol o Rydaman adael am borfeydd brasach White Lane i gyflwyno
fersiwn BBC1 o Wedi 7. Pob lwc iddi. Yn ogystal â holl bwysau’r rhaglen fyw gerbron 4 miliwn o wylwyr nosweithiol a phla’r paparazzi, bydd ei ffans gartref yn gobeithio clywed ambell air o Gymraeg ganddi ar rwydwaith Prydain. Roedd ei premiere nos Lun yn swreal ar y naw - yn wir, mae The One Show yn raglen od ar y naw - rhyw fersiwn newydd o Nationwide ers talwm, neu'n waeth fyth, Heno! Dyna lle'r oedden nhw'n trafod manion dibwys y Brydain fodern fel cowbois clampio ceir a thranc rhyw afancod yn yr Alban, hefo neb llai na'r gwestai arbennig ar y soffa - Whoopi Goldberg. Ie, Whoopi blydi Goldberg o bawb!? O Hollywood i hell. Graduras.