Dudley 1870

Mewn wythnos o hysteria am ryw ymwelydd o’r Fatican, a chyfartaledd o 70,000 yn eilunaddoli’r Almaenwr 83 oed ym mharciau Llundain, Glasgow a Birmingham fel petai’n aelod o Westlife, roeddwn i’n ysu i ddianc. Diolch byth am Pen Talar, sy’n dal i swyno gyda’i darlun epig o’r Gymru fodern. Nos Sul diwethaf, roedd Defi Lewis (Siôn Ifan) yn torri’i galon dros ferch benfelen y chweched dosbarth ac o weld ei gyd-bentrefwyr yn meddwi ar Brydeindod ym mharti Arwisgo 1969. A daeth Defi a Doug (Gareth Jewell mewn mop o wallt powlen) ynghyd i hel Maldwyn ‘Brwmstan’ Pritchard o’r pentref ac o’u bywydau am byth, wrth i farwolaeth Lorraine Siop barhau i fwrw cysgod drostynt. Llwyddodd Rhodri Evan i godi ias fel y pregethwr llwgr, rhagrithiol, oedd eto’n denu’r ffyddloniaid fel Enid Lewis, mam Defi. Ac mae Eiry Thomas yn disgleirio fel yr hen snoben o fam gariadus sy’n poeni’i henaid wrth i’w mab fynd ar gyfeiliorn cenedlaetholgar. Megis dechrau yw ei thrallod wrth i Defi droi’n fwy o rebel yn y Coleg ger y Lli yn y bennod nesaf, pan fydd Richard Harrington a Ryland Teifi yn cymryd yr awenau fel y ddau ffrind. O San Steffan i erthyglau a blogiau di-ri, mae hon yn denu sylw’r Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd. Dwi ddim yn cofio’r tro diwethaf i ddrama deledu S4C sbarduno’r fath drafodaeth a diddordeb.


Aeth cyfres newydd arall â ni ymhellach yn ôl i Gymru Oes Fictoria. Mae Tudur Owen a Bethan Gwanas yn cael hwyl garw wrth geisio Byw yn ôl y Llyfr (nos Fercher), trwy ddilyn canllawiau ‘Llyfr Pawb at Bob Peth’ y Parchedig Thomas Thomas a gyhoeddwyd tua 1870 ar gyfer y dosbarth canol newydd a ffynnodd wedi’r Chwyldro Diwydiannol. Bwyd oedd thema’r wythnos hon, sy’n dwyn i gof cyfres ddifyr The Supersizers gyda’r gomedïwraig Sue Perkins a’r beirniad bwytai Giles Coren ar BBC2 y llynedd. Beth bynnag am hynny, dyma olwg tafod yn y boch ar chwaeth - a diffyg chwaeth - y Fictoriaid wrth y bwrdd bwyd. Roedd defnyddio’r actor Siôn Pritchard fel y Parch Thomas i adrodd rhai o’i gynghorion, yn ychwanegu at ysgafnder y cyfan. Gobeithio i’r nefoedd nad oeddech yn llowcio’ch swper wrth i Tudur gyfogi’i ffordd drwy’i bryd dau gwrs gan y cogydd Padrig Jones o Gaerdydd. Roedd Bethan, ar y llaw arall, yn fwy mentrus wrth flasu “danteithion” fel clustiau a throed mochyn mewn finag, ac yna pen oen mewn briwsion bara a grefi mwstard a sôs coch (oedd, mi roedd sos côch ar gael yn Oes Fictoria). Mwy o cordon bleurgh na dim arall, felly.

Gyda llaw, beth ddigwyddodd i’r hen lygoden fach ar ôl i Tudur baratoi a gadael pelenni bach o wenwyn blawd a ffosfforws iddi, “yn ôl y llyfr”?