Dyheu am 'bach o ddrama


Weithiau, rhaid craffu’n fanwl yn wasg a’r we i weld pa berlau diddorol a gwahanol sydd gan y bocs bach ar ein cyfer. A na, dwi ddim yn ystyried Noson Wobrwyo Cynghrair Magners (nos Lun) yn enghraifft o hyn. Am ryw reswm, penderfynodd S4C anfon eu camerâu a Sarra Elgan a Gwyn Jones i Oscars rygbi Celtaidd yn Stadiwm y Mileniwm. Pawb at y peth, ond go brin mai dyma sy’n mynd â bryd gwylwyr bregus y Sianel ar hyn o bryd. Gwynt teg i’n jôc o haf, felly, ac ymlaen at raglenni o sylwedd fel cyfres epig Pen Talar ym mis Medi. Yn y cyfamser, rhaid troi i’r sianeli Saesneg am rywfaint o arlwy ddramatig. Yn hwyr nos Iau diwethaf, dyma daro ar Iwan Rheon mewn drama unigol ar Channel 4, mewn cyfres o ffilmiau byrion gan awduron a chynhyrchwyr newydd. Mae’r actor ifanc o Gaerdydd eisoes wedi gwneud ei farc ar lwyfan, gan ymddangos yng nghynhyrchiad National Theatre Wales o The Devil Inside Him gan John Osborne, ac ennill gwobr Olivier am yr actor cynorthwyol gorau mewn sioe gerdd. Ond i’r gwylwyr Cymraeg, bydd yn enwog am byth fel y Macs White pryd tywyll gwreiddiol cyn i’r actor melynwallt Rhys Bidder gymryd ei le yn Pobol y Cwm.

Stori Luka Bartholemew oedd I Don’t Care, llanc ifanc sy’n gofalu am ei fam sy’n gaeth i’w gwely (Di Botcher, Belonging a Little Britain gynt) mewn tref glan môr dlawd yn ne Cymru (am wn i), o’r enw Porthpunnet (yn hollol!). Ar ei ben-blwydd, mae Luka yn cael seibiant o’i ddyletswyddau tendio am y tro cyntaf ers oes pys, ac yn ceisio gwneud iawn am ei ieuenctid coll trwy wasgu popeth gwyllt a gwallgof i ddiwrnod cyfan. Mae’n cwrdd â chrwydryn mewn campyrfan sy’n ei arwain at gyfeiliorn alcoholaidd gyda mwg drwg, cusan nwydus a thatŵ. Ond wrth i chwarae troi’n chwerw, buan y sylweddola nad yw’r rhyddid y bu’n dyheu cymaint amdano yn fawr o beth wedi’r cwbl. Yn y diwedd, mae’n callio ac yn cael ei achub gan Phil y beicar blewog - fersiwn hŷn o’r Luka ddiniwed efallai - sy’n cynnig pas a dihangfa i Lundain fawr. Ac wrth i’r ddau wibio ar hyd y promenâd i fyd newydd a chyffrous y tu hwnt i lwydni Porthpunnet, daeth y cyfan i ben yn ddisymwth braidd, gan adael ei fam a ninnau â llwyth o gwestiynau ar ei ôl. Ac eithrio’r cefndir Cymreig simsan, yn gybolfa o acenion Cocnis a Swydd Efrog a’r gwaith ffilmio yn Canvey Island, Essex, roedd yn hanner awr digon difyr a’r golygfeydd ffilmig yn wych. Os cewch gyfle, mae ar wefan Channel 4 am fis arall.