“RHYW! RHEGI! NOETHNI! reit o’r cychwyn cyntaf ar S4C!!” - brawddeg sy’n siwr o wneud i lafnau smotiog yn eu harddegau sgrialu i wylio’r teledu 42 modfedd ym mhreifatrwydd eu llofftydd, ac i Mrs Jones Llanrug stelcio Taro’r Post drennydd. Chwerthin wnes i, gan fod ebychiadau cyhoeddwr y Sianel yn atgoffa rhywun o hysbysebion b-movies echrydus o America’r 1950au (“See Barbaric Beauties!!” “Female Love Slaves!!”).
Nid bod Zanzibar, cyfres ddrama newydd sbon sydd wedi’i gosod mewn bar myfyrwyr y Coleg ger y Lli mor erchyll â hynny. Ddim o bell ffordd. Ond roedd rhywun yn teimlo fel petai’r sgriptwraig yn trio’n rhy galed i godi gwrychyn. Agorodd y sgript gyda’r gair “ff”, a chafwyd sawl golygfa o glecian diodydd a llyncu pils i gyfeiliant tecno ailadroddus - rhag ofn nad oedden ni’n deall bod “bywyd yn barti” i’r criw, chwadal y cyhoeddwr rhaglenni byr ei wynt. A do, fe gawsom ni olygfa o’r dywededig hanci panci yn y pum munud agoriadol, wrth i ddau gariad ifanc ladd amser rhwng dau drên. Fuaswn i ddim yn meiddio â gwneud nymbar tŵ heb sôn am 69 yn nhai bach Arriva Cymru.
Ond cyn cael fy nghyhuddo o fod yn hen swnyn slipars-a-chetyn, roedd hi’n hanner awr fach hwyliog o ddod i ’nabod y cymeriadau newydd sydd wastad i’w groesawu ar S4C. Gan mai criw Rondo sy’n gyfrifol amdani, roeddwn i’n hanner ofni Porthpenwaig arall gyda llond sgrîn o raddedigion Rownd a Rownd a Glanaethwy. Ond na phoener, gan fod y cast ifanc yn ddieithr i fyd teledu ond yn gyfarwydd i bawb a welodd sioe lwyfan Deffro’r Gwanwyn yn gynharach eleni.
Stori Tom Morgan (Owain Gwynn) oedd canolbwynt y bennod agoriadol, sy’n dychwelyd o Wlad Thai ar gyfer priodas ei dad – ond sy’n gorfod aros adref i lywio tafarn y teulu ar ôl i’w dad gael trawiad cyn torri’r gacen. Ac er nad oedd ei gariad Ceri (Lisa Marged) yn hapus ar y naw i ddechrau, fe gynhesodd hi at y syniad ar ôl cael sesh hefo’r bois rygbi gyda mwy o NOETHNI!!. Braf cael drama wedi’i gosod yn Aber hefyd - am y tro cyntaf ers dyddiau Mwy na Phapur Newydd am wn i – gyda chyfres o olygfeydd montage cartwnaidd yn cyflwyno rhai o eiconau’r dref inni. Ond mae’n debyg nad yw’r cynfyfyrwyr go iawn yn hapus, ddim yn adnabod yr Aber sy’n cael ei phortreadu nac erioed wedi cael nosweithiau gwyllt ar Draeth y Gogledd. O diar.
Dylai cyhoeddwr y Sianel rybuddio ni cyn darlledu’r gemau rygbi o bendraw’r byd. Rhywbeth fel “bydd y rhaglen hon yn berig bywyd i’ch nerfau chi” a llinell gymorth i ymdopi â’r hysteria wedyn. Pob clod i griw S4C sy’n rhagori ganmil ar dîm ITV, er gwaetha’r jôcs am Carys Davies, negesydd y stiwdio. A diolch byth am fwy o gwsg cyn y gic gyntaf fore Sadwrn yma…