Drama sy'n plesio pawb


Wedi hirymaros, mae cloch yr ysgol yn ein galw’n ôl am gyfres arall o Gwaith/Cartref. Ac ar ôl cymaint o och a gwae diweddar am batrwm newydd y Sianel, mae’n braf cael edrych ymlaen a chanmol drama nos Sul. Dwi ddim yn cofio’r un gyfres sy’n llwyddo i ddenu cymaint o frwdfrydedd gan drawstoriad eang o bobl, yr hen a’r ifanc, y gwledig a’r dinesig, ers tro byd. Enghraifft brin iawn o S4C yn llwyddo i blesio pawb. Wedi’r cwbl, mae gennym i gyd ein hatgofion o ddyddiau ysgol ac felly mae’n hawdd uniaethu â hynt a helynt criw Bro Taf. Gydag ychydig mwy o ddramatics na’ch ysgol gyfun Gymraeg arferol wrth gwrs.

A diawch, roedd yna fwy o densiwn yn y bennod gyntaf na rhwng
Austin Healey a ffans rygbi Cymru dros dymor Chwe Gwlad eleni. Y cymeriadau newydd ydi prif asgwrn y gynnen. Mae Mrs Siân Bowen-Harries (Janet Aethwy), draig o ddirprwy bennaeth yn gosod ei marc gyda’i disgyblaeth lem, yn mynnu asesu’r athrawon a rhoi cyfle i’r disgyblion lenwi holiadur ar safon y staff - sy’n fêl ar fysedd y plant wrth gwrs. Mae’r pennaeth Daearyddiaeth newydd, Steffan Young, yn prysur droi’n gyw melyn y Prifathro wrth arwain prosiect tywydd newydd yr ysgol a gwirfoddoli i wella’r tîm hoci, gan godi cyfog ar Beca Matthews, yr athrawes ymarfer corff a dreisiwyd ganddo ar ddiwedd y gyfres ddiwethaf. Gobeithio fod yr actor Geraint Todd yn barod am swadan gan fagiau hen ferched yn yr archfarchnad leol. Dyn drwg arall y gyfres ydi’r pyrfyn Wyn Rowlands (Richard Elis) sydd, rhywsut rywfodd, wedi’i benodi’n bennaeth y Gymraeg gan gorddi’i gyn-gariad Nerys Edwards (Catrin Fychan) ymhellach. Ar ôl bwrlwm yr hanner awr cyntaf, gan gynnwys stori fwlio ac ymweliad gan ddisgyblion o Lydaw - elfen dda arall sy’n pwysleisio Cymreictod yr ysgol a’r gyfres hon, lle byddai cyfres ddrama (wael) Saesneg fel Waterloo Road wedi portreadu ysgol o Ffrainc - arafodd pethau erbyn yr ail ran /Cartref. Trodd parti ‘syrpreis’ Dan yn fethiant, gyda Grug (dyweddi ei ffrind gorau) yn dal i fopio arno ers eu cusan nwydus yn y bennod ddiwethaf. Gobeithio na fydd y gyfres newydd yn canolbwyntio’n ormodol ar y triongl serch hwn, gan fod digwyddiadau a thensiynau’r ystafell ddosbarth yn dipyn mwy difyr. Yn bersonol, dwi wrth fy modd efo portread Siw Hughes o’r ysgrifenyddes Gemma Hadden sy’n edrych ar bawb a phopeth o bell dros ei sbectol, megis aelod o’r corws mewn drama Roegaidd.

’Sgwn i a fydd Aled Sam yn canmol perfformiad ei wraig, Rhian Morgan? Dwi wedi fy nrysu a’m siomi braidd gan Sam ar y Sgrîn, gan ddisgwyl cyfres adolygu rhaglenni fel Caban Ateb amser maith yn ôl yn lle hanner awr o gyhoeddusrwydd i arlwy’r Sianel. Er bod croeso i’r gwylwyr fynegi
barn, mae’n ymddangos mai ychydig iawn sy’n gwneud hynny mewn gwirionedd. Efallai fod Mrs Jones Llanrug a’i chriw yn eu gwelyau erbyn hanner awr wedi deg nos Sul, ac o’r ychydig rai sydd yn anfon sylwadau, mae safon iaith y trydarwyr (twits?) yn uffernol beth bynnag. Ac mi wn fod pethau’n fain iawn ar Tinopolis y dyddiau hyn, ond siawns gallwch chi sbario hen soffa Wedi 3 i’r cyflwynydd druan?