Y cogydd a’r cwîn


Cefais lyfr coginio yn fy hosan Dolig rhyw flwyddyn neu bump yn ôl. Na, nid un Delia ddoeth na Gordon blin ond A Cookbook for a man who probably only owns one saucepan. Ydy, mae’r llyfr bach llwyd yn cynnwys rysáit ar gyfer yr wy wedi ferwi perffaith, ond dwi’n sgit ar wneud omlet Groegaidd bellach. Go brin y gwnaf i rywbeth mor uchelgeisiol â ‘cholomen wyllt, marmaled ffigys, siocled a halen fanila’, un o ryseitiau rhaglen gyntaf Cegin Bryn (Fflic). Sori, ond wnaiff hyd yn oed connoisseur fel Bryn Williams fyth lwyddo i’m hargyhoeddi fod siocled yn gymar perffaith i gig ar blât.

Serch hynny, cefais flas (bwm! bwm!) ar y gyfres newydd hon fel adloniant ac nid am awgrymiadau i swper heno. Mae pob rhaglen yn seiliedig ar chwe rysáit o’i lyfr - a do, fe gafodd hwnnw hen ddigon o hysbys, o Dafydd a Caryl yn fyw o fwyty Odette’s un fore Gwener i soffa “H” (dwi di ’ngwahardd rhag yngan yr enw’n llawn, gan fod pawb wedi ’laru ar gwyno amdani bellach). Roedd y rhaglen gyntaf yn neidio o’r fferm deuluol yn Ninbych i gegin y bwyty enwog yn ardal gefnog Bryn y Briallu, Llundain, wrth i Bryn Williams bwysleisio pwysigrwydd defnyddio bwyd yn ei dymor. Helgig oedd dan sylw, gyda’r rhan gyntaf yn dangos Bryn a’i dad ac yncl Alwyn yn saethu adar “i fwyta... nid am hwyl”. Rhwng hynny, a’r ffesantod gwaedlyd yn crogi ar gefn y pic-yp a Bryn yn helpu’r cigydd lleol i flingo a thorri carw, nid rhaglen i lysieuwyr na’r gwangalon oedd hon! Roedd ail ran y rhaglen yn canolbwyntio ar y coginio ei hun - dim lol, dim jargons na thrio’n rhy galed i fod yn ffrind gora’ i bawb fel Jamie Oliver – dim ond Bryn yn dangos ei grefft fesul cam. Ac yn gwneud i’r cyfan ymddangos mor, mor, hawdd. Damia fo. Bechod am y gerddoriaeth “ffynci” uchel yn y cefndir, a’r golygfeydd sigledig-ar-wib fel petai’r dyn camera wedi treulio gormod o amser yn seler win Odette’s.

O Glwyd i Gaerffili, a chymeriad difyr arall mewn cyfres ddogfen ysgafn newydd Pobol sy’n bwrw golwg ar Gymry gwahanol iawn i’r arfer, o lanc-fodel i bagan Celtaidd. Agorodd y gyfres gyda Seren Ddisglair, hanes Mark Goodman sy’n enwocach fel Tina Sparkle. Roedd yn llawn straeon difyr gan berfformiwr drag a oedd wrth ei fodd ar lwyfan ’steddfod ers talwm a chafwyd golygfeydd hyfryd rhyngddo â “Nana Sparkle” ei nain. Ond y tu ôl i’r wên fingoch a’r ffrogiau secwins drud o Wlad Thai, roedd yna dristwch – gydag awgrym nad oes fawr o Gymraeg rhyngddo â’i fam ers i’w dad ladd ei hun yn 2005. Chawson ni fyth wybod sut na pham chwaith. ’Sgubwyd y cyfan o’r neilltu mor sydyn â pherthynas Dafydd Wyn a Margaret, brenhines y Morganiaid, yn y bennod olaf o Teulu. Ac ar ôl treulio’r cyfresi blaenorol yn ffeirio partneriaid ei gilydd, mae’r plantos bellach yn cyfnewid busnesau wrth i hwn a hon gymryd drosodd Pot Cei a gadael Pen Jam. Ydw, dwi wedi drysu’n lân efo cyfres ddrama boncyrs o boblogaidd nos Sul.