Cymraeg o'r crud i'r bedd


Yn ystod wythnos pan ddaeth gelynion yr iaith allan o’r domen dail unwaith eto, o gachgwn rhyw wefan anhysbys yn y Gorllewin i golofnwyr unllygeidiog-Seisnig y Western Mail a’r Telegraph, roedd hi’n braf clywed perlau’r iaith fyw mewn cyfres newydd o Ar Lafar. Ydi, mae Ifor ap Glyn a’i hen landrofar ffyddlon yn ôl i nodi’r gwahaniaeth a’r ffin rhwng “fo a fe”,  y “nene ene” a’r “hwnco-manco”. Ffin go denau ac annelwig iawn weithiau hefyd, gydag amrywiaethau rhyfeddol o fewn ardal benodol heb sôn am Fôn i Fynwy. Roedd ymweliad y bennod gyntaf â Phenllyn, un o gadarnleoedd naturiol yr iaith, yn codi calon rhywun. Clywsom wahaniaethau amlwg rhwng hogia’r Dre a’r Wlad (roedd y genod yn mitsio mae’n rhaid) ar iard ysgol uwchradd y Bala, gyda chriw’r dre yn dweud “cwtsh dan staer” a’r llancia ffermydd yn dweud “sbensh” am dwll dan grisiau. A draw yn un o ysgolion cynradd y fro, bu Ifor Ap yn holi rhai o’r 22 o ddisgyblion â llond ceg o’r dafodiaith leol – gan gynnwys Charlie o gyffiniau Manceinion. Sylwodd ei brifathrawes ei fod bellach yn siarad Saesneg ag acen y Parc, ond yn troi’n ôl i’w Saesneg Redditch gwreiddiol pan ddaw rhywun di-Gymraeg i’r ysgol. Diddorol ac addysgol. A wnaiff Cwmni Da anfon copi i Western Mails y byd os gwelwch yn dda?

 
Pan welais i’r hys-bys am gyfres ddogfen newydd yn dilyn trefnwyr angladdau, wnes i ddim pwyso’r botwm series link ag awch (oes ’na air Cymraeg addas ’dwch? Holwch Ifor ap Glyn). Beth bynnag ddywedith y ‘gwybodusion’ fod marwolaeth Lêdi Di wedi’n troi ni i gyd yn alarwyr gorffwyll o gyhoeddus sy’n dewis record Elton John neu Robbie Wilias fel ein Hymdeithgan Olaf, mae’n dal yn bwnc preifat a thabŵ braidd sy’n gyrru ias i lawr fy nghefn. Efallai fod darn ohonof yn anesmwytho o weld corff ar y teledu, ond chwarae teg i ddyn camera Traed Lan (Hay Productions + GRJ Media), fe ffilmiwyd y cyfan yn gynnil o barchus a chwaethus, gyda dim ond troed neu gorun yr ymadawedig yn y golwg. Yn yr ail raglen o dair, buom yn dilyn trefnwyr neu gyfarwyddwyr angladdau gwahanol, y naill yn gwmni tair cenhedlaeth o’r Lambed wledig a’r llall o’r Port Talbot diwydiannol, gyda Chymraeg Ceredigion a Chymraeg Cwm Afan yn cyd-fyw. Yn naturiol ddigon, mae angen dôs go lew o hiwmor a stumog gref i ddilyn gyrfa o’r fath. Cofiodd Gareth Jenkins o Faglan amdano’n blentyn yn chwarae Draciwla yn yr arch yng nghwt gwaith coed ei dad, ac roedd Dorian Harris y pêr-eneiniwr yn ein herian gyda “bwci-bo” y tu ôl i lenni’r corffdy. Ond roedd yna ddifrifoldeb, parch a phroffesiynoldeb llwyr wrth eu gwaith hefyd, ynghyd â’r cyfnodau ingol o baratoi corff plentyn neu berson ifanc. Ar ôl diwrnod anodd i Gareth Jenkins, ei ateb yw “rhoi haversack… pigo mynydd a jyst cerdded i’r top, eistedd lan fyn’na, cal pum muned …meddylie… a bydd hwnne’n neud y tro”.

Gyda sgriptio da wedi’i hadrodd gan Sharon Morgan, naws ffilmig a theitl agoriadol crefftus dros ben, roedd yn bortread sensitif a chynnes i fyd anodd a dieithr dros ben.