S'long Sarah Lund a "Tak" |
Dwi wedi cael gorddos o ddramâu ar y teledu’n
ddiweddar - yn hen ffefrynnau, ambell un newydd, a rhai tipyn gwell na’i
gilydd. Mi fydd yna alaru mawr nos Sadwrn nesaf wrth i ni ffarwelio am y tro
olaf un â’r darpar nain Sarah Lund a’i siwmperi enwog, ei hunigrwydd a’i
harferiad gwirion o erlid llofruddion gefn liw nos niwlog mewn rhyw warysau
mawr gwag neu goridorau grym tywyll København. Rhois gynnig ar Falcon,
addasiad Sky Atlantic o nofelau Robert Wilson, gyda chast o Kiwis a Saeson yn
cogio bod yn Sbaenwyr. Er bod y deialog yn giami ar brydiau, a gwastraff castio
gydag actoresau clodwiw fel Kerry Fox ac Emilia Fox (dim perthynas) ond yn
ymddangos mewn dwy dair golygfa ym mhob pennod, prif gymeriad ac apêl y gyfres
i mi oedd dinas hyfryd Sevilla - cyrchfan bosib arall yn 2013 os bydd y cyfri
banc yn caniatáu. Dinas yr Angylion ydi prif gymeriad Southland hefyd,
chwip o ddrama sy’n debycach i bortread pry ar y wal o heddweision LA. Ond sioc
a syndod ydi canfod bod yna ddrama gwerth ei gweld ar ITV - nad yw’n gyfres
plismyn, doctors-a-nyrsys (er bydd hi’n chwith heb fwy o Monroe) nac yn
sebon swanc wedi’i gosod mewn plasty byddigions yn Lloegr ddechrau’r ganrif
ddiwethaf.
The Town ydi’r gyfres drawiadol hon, hanes llanc yn ei
dridegau sy’n gorfod dychwelyd o Lundain i’w gynefin wedi trychineb teuluol -
ac sy’n ffeindio’i hun yn gyfrifol am ei nain (Julia McKenzie) a’i chwaer
drwblus yn ei harddegau. Ond mae ’na rywbeth yn ei boeni, o weld negeseuon testun
a llythyron anhysbys i’w rieni gyda’r geiriau “I know”. Ac mae Mark (Andrew
Scott, seren cyfres Sherlock BBC Cymru-Wales) yng nghanol ei alar yn
meddwi a chanu carioci (Rick Astley!) gyda’i ffrindiau bore oes, yn gobeithio
ailgynnau tân â hen gariad ysgol, ac yn chwarae ditectif wrth chwilio am y
gwirionedd y tu ôl i farwolaeth ei rieni. Mae’n wahanol, yn drist, yn llawn
dirgelwch, wedi’i ffilmio’n steilus iawn a’i chymharu â darn o Twin Peaks
yn High Wycombe. Prin iawn dwi’n dweud hyn, ond, go dda ITV!
- The Killing / BBC Four / 9-11pm nos Sadwrn
- The Town / ITV1 / 9pm nos Fercher
- Southland / More4 / 10pm nos Iau