O'r Cwilt Cymreig i gân Dy Fam



“Y Cwilt Cymreig” gan Margaret Williams gychwynnodd bopeth ym 1969. Roedd BBC Cymru bron marw eisiau ymuno â’r Eurovision ar y pryd, a’r canlyniad oedd Cân i Gymru. Byth ers hynny - heblaw am ’73 am ryw reswm - mae cantorion amrywiol Gwlad y Rasta Gwyn wedi canu mawl i Dafydd ap Gwilym a Wini, crefu ar Gloria i ddod adra, ffeindio’u hunain mewn twll triongl, poeni am nwy yn y nen a mwydro am lwynogod, haul a ’sgotwrs dwylo gora, cyn dal bws i’r lleuad. Diflannodd y freuddwyd gwrach Ewropeaidd a phenderfynwyd canolbwyntio’n hytrach ar lwyfannu sbloets Gŵyl Ddewi er mwyn anfon band o Gymru i ’steddfod dafarn yn Iwerddon. Newidiodd y fformat dros y degawdau, o sgorfwrdd nul point i bleidlais ffôn, panel o wylwyr ar gamerâu byw o Wynedd i Went, cyfraniadau trydar a phanel XFactor yn darlledu o lefydd mor chwaethus â champfa Afan Lido. Ie, tra bo’r Ewropeaid yn cael serennu ar lwyfannau Jerwsalem, Berlin a Malmö, roedd y Cymry’n mynd i Bort Talbot. Roedd cân gan Arfon Wyn yn rhan mor anhepgor o’r ffeinal â chyflwynwraig benfelen a’r boi “bwrlwm” cefn llwyfan, cyn i’r cwmni cynhyrchu ddechrau anwybyddu pob cais gan hen rocars mewn denim a Rhydian Bowen Phillips, a ffafrio’r kids o! mor cŵl gyda chaneuon C2aidd efo dos go lew o agwedd a Modrybedd sgrechlyd yn y rhes flaen.




Os ydi S4C mor frwd dros y gystadleuaeth, pam nad yw’n anfon y buddugwr blynyddol i gystadleuaeth Liet International, eurovision yr ieithoedd llai a gynhaliwyd yn Asturias, gogledd Sbaen, y llynedd? Lleuwen o Lydaw - Lleuwen Steffan gynt o Riwlas - ddaeth i’r brig gyda chân Lydaweg, yn erbyn cystadleuwyr o’r Alban, Gwlad y Basg, Corsica, Fryslân a Sardinia ymhlith eraill. Mae hon yn cael ei darlledu’n fyw ar orsafoedd teledu Ewrop ac felly’n gwneud mwy o synnwyr na’r Ban Geltaidd ddisylw, felly beth amdani eleni S4C?




Wedi dweud hynny, efallai na gymeraf y gystadleuaeth o ddifri fyth eto diolch i griw athrylithgar Dim Byd fel Cân i Gymru. Os fuon nhw’n crio chwerthin gymaint yn y stafell olygu ag y gwnes i ar y soffa adra, dwi’n synnu iddi weld golau dydd o gwbl. Pob clod iddyn nhw am dyrchu drwy’r archifau, darganfod perlau/erchyllterau’r gorffennol (Ieuan Rhys? Gareth Glyn? Wir?!), a throsganu gyda hiwmor swreal a choch iawn ar brydiau. O Dafydd Iwan yn ei morio hi’n Saesneg i fersiwn gignoeth Margaret Williams o gyfansoddiad Tew Shady, roedd angen rhewi’r sgrin ac ailchwarae hon dro ar ôl tro i werthfawrogi pob jôc. Chwarae teg hefyd i’r hen Fargaret, Tony ac Aloma, Hogia’r Wyddfa ac eraill am ymuno yn yr hwyl a chwarae’n gwbl o ddifrif. Hiwmor unigryw Cymraeg ar ei orau.



A na, dwi ddim eisiau mynd yn agos i bali Corwen efo Alys.