Gwlad jocs a chantorion

 
Mae’n fis Ionawr diflas, y bil treth swmpus yn ddyledus cyn diwedd y mis, ac anghydfod cerddorion Cymraeg v BBC Llundain yn gyfle perffaith i elynion yr iaith fwrw’u llid yn y wasg a’r cyfryngau Seisnig, fel rhaglen ffonio-a-ffraeo Jeremy Vine ar Radio 2. Diolch i’r drefn am wên gynnes yr actores Sidse Babet Knudsen i lonni’r galon bob nos Sadwrn ar BBC Four. Ydy, mae ail gyfres o’r ddrama orwych Borgen am brif weinidog Denmarc sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng ei llywodraeth glymblaid a’i haelwyd fregus, yn ôl. Un arall sy’n codi’r ysbryd ydi S4C, sy’n ein difetha’n rhacs gyda danteithion newydd ar hyn o bryd. Daeth Dim Byd yn ôl gyda chwarter awr o sgetshis-seren-wib wedi’u seilio sianeli lloeren Cymraeg dychmygol. O’r maes adloniant (Pantomeim Ffermwyr Hiliol) i’r celfyddydau (Gwneud Pethe; Dim Barn; Colli Pethe) a henebion (Creiriau’r Cymry; Taclau Taid; Pres Datyn), mae ’na gomedi geiriol hollol unigryw Gymraeg yma, ac roedd y sianel ddrama (Terry Huws PI; Oh! no J.O) yn cynnwys hen glipiau swreal o’r actor JO Roberts ifanc yn pledu bwledi fel petai Quentin Tarantino wedi cyfarwyddo drama antur ym Menllech. Rhaglenni i’w gwylio drosodd a throsodd yw’r rhain, felly da chi recordiwch nhw i ddotio a chwerthin ar berlau geiriol a golygfeydd gwirion bost fel cymeriad mewn lycra pinc yn gwibio ar draws Maes Caernarfon.
 
Ar ôl mwynhau hiwmor sardonig Sam ar y Sgrîn (“Es-Ffôr-See it again and again and again” mewn ymateb i gŵyn am ailddarllediadau’r Dolig) nos Wener, tro comedïwyr Gig-l oedd hi i ddiddanu’r genedl. Daeth cyfres boblogaidd Live at the Apollo y BBC i’r cof, ond gyda chwarter - os hynny hefyd - o gynulleidfa yn sinema Crosshands. O leiaf roedden nhw’n g’lana chwerthin, rhai mewn cymaint o sterics nes ’mod i’n poeni am eu hiechyd nhw. I fod yn deg, roedd hon yn well na’r disgwyl, yn enwedig perfformiad bywiog Steffan Alun wrth iddo refru am bla o nwyddau Jac yr Undeb yn y siopau’r llynedd. Gwahoddwyd aelod dewr neu feddw o’r gynulleidfa i fachu’r meic hefyd, fel Alun Saunders a dynnodd blewyn o drwyn perchnogion siopau digywilydd a Chymry Cymraeg SWNLLYD Pontcanna. Ar ôl hanner awr o wynebau newydd, hen lawiau clybiau Llundain sy’n perfformio’n Gymraeg am y tro cyntaf ers cantoedd, mae’n hawdd deall brwdfrydedd y cyflwynydd Frank Honeybone am fywiogrwydd y sin yng Nghymru ar hyn o bryd. A chladdu hunllefau Jocars a Da ’di Dil ’de am byth.
 
Ar ôl rhefru yng ngholofn olaf 2012 am ddiffyg rhaglenni cerddoriaeth roc a phop Cymraeg, dyma’r Sianel yn cyflwyno Calennig yn Y Stiwdio Gefn bob nos Fawrth. Anghofiwch am y ffaith eu bod nhw’n rhannu stiwdio Heno nos Wener (Tinopolis ydi’r cynhyrchwyr wedi’r cwbl) a’r gymhariaeth amlwg â sioe Jools Holland, mae’n gyfres syml ddiffwdan sy’n canolbwyntio ar y gân a sgwrs sydyn rhwng y dihafal Lisa Gwilym a’r cantorion ar dri llwyfan.