Dewi a'i Farn


Fel rheol, mae blwyddyn newydd yn amser i edrych ymlaen yn obeithiol at y deuddeg mis nesaf. Llechen lân, tomen o addunedau ystrydebol, a hei lwc am iechyd a hapusrwydd (a chyfri’ banc gweddol) am sbelan go lew eto. Bechod na ddywedodd rhywun hynny wrth gysurwrs Job Wales in a Year. Dechreuodd cyfres newydd chwe rhan BBC1 ar nodyn digon anobeithiol, ar ôl cyflwyno’r wyth teulu agorodd eu drysau i’r camerâu teledu gydol 2012 - gan gwestiynu dyfodol ffermwyr, pysgotwyr a pherchnogion busnesau bach y genedl. Ac am genedl amrywiol a diddorol hefyd, o’r miliwnydd o dras Iranaidd sy’n ceisio codi safon bwytai a bariau Heol Eglwys Fair, prif stryd slochian y brifddinas, i berchennog ffatri nicyrs olaf Cymru sy’n cyflenwi rhai o enwau mwya’r byd ffasiwn. Saeson y Bala a thenantiaid fferm fynydd uwchlaw Dolgellau sy’n cynrychioli’r Gogs, ac mae’n chwithig tu hwnt clywed Edwardsiaid Tŷ Cerrig yn siarad Saesneg ar y sgrin. Iawn gwneud hynny’n uniongyrchol â’r camera, ond pam ddim gadael iddyn nhw sgwrsio’n naturiol braf yn eu mamiaith rownd bwrdd bwyd neu wrth gyfarch y wyres fach, gydag isdeitlau ar y sgrîn i’r gwylwyr uniaith rhonc? A rhyfedd nad oes lle yn y blwyddiadur i deulu o’r Gogledd-ddwyrain.

 

Mae yna fwy o lais i bobl y Clawdd ar S4C beth bynnag, mewn cyfresi fel Llefydd Sanctaidd, gydag Ifor ap Glyn yn teithio ac yn tyrchu i’r hanes a chwedloniaeth tu ôl i rai o henebion gwledydd Prydain. Rydym eisoes wedi’i weld yn ymdrochi yn nyfroedd oer iachusol Ffynnon Gwenffrewi ac yn crwydro Abaty Glyn y Groes ger Llangollen - llefydd dieithr iawn i mi, mwya’r cywilydd. Diolch i gyfuniad o straeon difyr a’r naws arallfydol arbennig a grëwyd gan waith camera Rhys Edwards ac Angus Johnstone, mae’n ffordd hamddenol braf o dreulio nosweithiau Sul.

 

Mae Pawb a’i Farn yn ymwelydd cyson â’r Gogledd-ddwyrain hefyd, fel rhifyn nos Iau diwethaf o Dreffynnon dan arweiniad tebol Dewi Llwyd. Y dyn ei hun oedd testun rhaglen deyrnged arbennig gan BBC Cymru i un o’i gweision ffyddlonaf (a wrthododd sawl cynnig i weithio yn Llundain gyda llaw) sy’n ffeirio’r stiwdio deledu 200 milltir i ffwrdd yng Nghaerdydd am gwt radio’r Post Prynhawn 200 llath o’i gartref ym Mangor. Roedd cyfweliad Bethan Rhys Roberts a chlipiau newyddion mawr Degawdau Dewi Llwyd yn werth chweil. Bu’n llygad dyst i rai o ddigwyddiadau mawr y tri degawd diwethaf, gan holi’r Dalai Lama, meddwi ar optimistiaeth Mandela yn y Dde Affrica newydd, a darbwyllo Miss World o Wlad yr Iâ i ddweud “noswaith dda” wrth wylwyr S4C adeg uwchgynhadledd Reagan-Gorbachev yn Reykjavik 1986. Cyfaddefodd mai nosweithiau etholiadol ydi uchafbwynt ei yrfa, ac mae ganddo bedigri go dda yn y maes rhwng saith Etholiad Cyffredinol, pedwar Etholiad Cynulliad a dau Refferendwm. Roedd yn ddigon o foi i gyfaddef fod darllediad etholiadol cyntaf S4C ym 1983 yn “llanast trychinebus”, rhwng cyhoeddi canlyniadau anghywir a’r set bwrdd du, a’r gohebydd gwleidyddol Roderick Richards yn brathu’i dafod wrth i’r map cardbord o Gymru weindio fel malwen ar y sgrîn. Bron na allech ni glywed y stiwdio gyfan yn dal eu gwynt. Chwarae teg i’r Bonwr Llwyd am fynnu rhaglenni o’r safon uchaf mewn Cymraeg cywir bob amser, a phob clod iddo am wffio ceisiadau diweddar o’r top i “symleiddio” neu lurgunio’r iaith. Faint o weision eraill y Bîb sy’n ddigon dewr a chadarn i wneud hynny heddiw?