Mae’r bocs recordio acw’n dal yn drymlwythog
o bethau Dolig a’r Calan. Wedi dweud mai cyfresi cerddoriaeth oedd popeth ar
S4C dros y gwyliau, dyma sylwi bod y ffeithiol yn ail agos iawn. Roedd Dolig
Gwyn Dolwyddelan yn gronicl difyr o ailddarganfod hen ffilm o Nadolig 1961,
pan ddaeth Americanwr draw i’r pentref yn Nyffryn Lledr i dynnu lluniau a chreu
ffilm ciné montage i gyfeiliant A
Child’s Christmas in Wales Dillon Thomas. Awran hudolus a deimlai, serch
hynny, yn fwy o gyfrwng i yrfa’r cyw gyflwynydd Aled Llywelyn ar draul rhagor o
hanes y pentrefwyr. Disgwyliais yn ofer am gael gweld y ffilm ei hun yn ei
chyfanrwydd wedyn.
Bues i’n hwyr (iawn) yn dal i fyny efo’r
portread arbennig o lais rygbi Cymru am ddeugain mlynedd, Huw Llywelyn Davies: Tu ôl i’r meic. Mae portreadau o enwogion
weithiau fel cofiannau Cymraeg – lot o hel achau diflas am hen Wncwl Walter ac
enwi enwogion heb fawr o sylwedd neis-neis - ond roedd y clod a’r bri a’r
geiriau “emosiynol” “gwych” a “choron ar deledu’r ŵyl” gan y twitteratis yn
awgrymu bod hon yn rhywbeth go arbennig. Cafwyd coflaid o atgofion melys gyda
Huw Eic hyd yn oed yn sylwebu’n blentyn wrth chwarae rygbi gyda Gareth Edwards
(ie, Y Gareth Edwards) a’i frawd Gethin ar sgwâr Colbren, Gwauncaegurwen, a’r
tynnu coes pan lwyddodd y mewnwr medrus i ddwyn lle GE yn nhîm Cwmgors. Y
syfrdandod wedyn wrth iddo siarad o’r galon am ei byliau o iselder, a’r salwch
meddwl a arweiniodd at hunanladdiad ei chwaer Beth ac yntau bendraw’r byd yn
rhan o dîm sylwebu Seland Newydd ’87. A’r Cymro twymgalon, “dyn y campau a’r
pethe” medd y Prifardd Ceri Wyn, a wrthododd bresant MBE gan y Frenhines, ac na
aeth i Gwpan Rygbi’r Byd Awstralia 2003 oherwydd gofynion Dechrau Canu Dechrau Canmol nôl adre. Pinacl teledu’r ŵyl heb os.
Mae’r gyfres Gohebwyr yn ffefryn
mawr gen i, gydag ymchwiliadau i ddirgelion y gorffennol yn cosi’r
chwilfrydedd. Fel un sy’n mopio ar hanes y Llen Haearn, roedd taith John
Stevenson i Bwcarest
i ddarganfod Pwy Laddodd Ian Parry? o Brestatyn megis sgript ias
a chyffro, a ategwyd gydag ail-gread o’r ddamwain awyren angheuol a laddodd ffotograffydd
disglair 24 oed y Sunday Times. Doeddwn i ddim mor frwd tuag at Gohebwyr:
Owen Davis yn wreiddiol am mai milwr Prydeinig cyffredin nid gohebydd yn ôl
traed Wyre Davis a Guto Harri oedd y cyflwynydd. Os ‘cyffredin’ hefyd, gan fod
Owen Davis o Gwmtawe yn gyn-aelod o’r Marines a gafodd fedal ddewrder gan y
frenhines. Ond cynyddodd fy niddordeb o ddeall bod mwy ym mhen hwn fel Cymro
Cymraeg, ac iddo ddysgu’r ieithoedd cynhenid Pashto a Dari wrth gydweithio a
chydfyw gyda heddlu Afghan. Dychwelyd fel ymwelydd ydoedd, i Kabul wedi’i
chreithio gan olion y goresgynwyr Prydeinig, Sofietaidd ac Americanaidd yn
ogystal â’r Taliban, a cheffylau a throliau ochr yn ochr â’r BMWs diweddaraf ar
y strydoedd llychlyd.