Erthygl ysbeidiol am raglenni sy'n hoelio sylw, ac sy'n dal ar gael ar Clic ac Iplayer
Cyfres dywysedig lle mae'r cyflwynydd
hawddgar yn teithio miloedd o filltiroedd ar draws gwlad fwya’r byd, mewn
hofrennydd, jetsgi eira a’r Trans-Siberian eiconig (tipyn mwy atyniadol a
dibynadwy na Non-Arriva Wales). O ‘glampio’ mewn iwrt gyda ffermwyr ceirw lle
mae tymheredd o -30 gradd yn gyffredin, ymweld â ‘Vegas’ Vladivostok llawn
casinos i ddenu’r biliwnyddion Asiaidd, gweld effeithiau erchyll alcohol ar
werin bobl, chwilio am deigrod Siberia, picied i gaffi sy’n eilunaddoli Putin, i
dreulio diwrnod cyfan yn y ddalfa gyda’i griw camera gan yr FSB hynod amheus
(KGB yr 21ain ganrif) - go brin fuodd Judith Chalmers ar wibdaith o'r fath.
Mae’n awr diddorol dros ben (hyd yn oed os nad yw’r cyflwynydd felly), yn
weledol wych ac yn agoriad llygad i wlad gyfareddol dan law haearnaidd yr
Arlywydd. Jest peidiwch â sôn am Gwpan y Byd 2018.
Cyfaddefiad - welais i mo’r gyfres gyntaf,
ar ôl ’laru braidd efo’r hollbresennol Mr ‘Anfonaf Angel’ ar y pryd. Ac yn
niffyg adloniant nos Wener, a chryn ganmoliaeth gan eraill, fe rois i gynnig ar
hon. A mwynhau. Yn arw. Oce, doedd un Elin Fflur ddim cweit at fy nant, ond mi
fwynheais i raglenni Daniel Lloyd (heb Mr Pinc) ac Al Lewis yn arw, a dw i’n
edrych ymlaen yn fawr at yr unigryw Lleuwen Steffan o Lydaw. Cyfuniad o sioe
siarad, canu a theithio - a syniad hollol wreiddiol i S4C am unwaith. Siŵr
braidd y gwelwn ni CD arall erbyn Dolig?
The
Deuce, Sky Atlantic
Gwylio
hollol hanfodol i ffans The Wire, cyfres ddrama am fasnach gyffuriau
Baltimore y 1990au. Diwydiant pornograffi Efrog Newydd y 1970au ydi’r gefnlen y
tro hwn, a llond Times Square o gymeriadau brith - y pimps, y puteiniaid
a’r perchnogion busnes - wedi’u gwau’n gelfydd mewn stori sy’n datgelu dow-dow
a chyfres sy’n diferu o naws fanwl-gywir y cyfnod, o’r Cadillacs i’r fflêrs, y
smociwrs a’r strydoedd llawn tomenni sbwriel. Dychmygwch gymeriadau Daniel
Owen neu Dickens wedi’u plannu’n NYC. Gyda Maggie Gyllenhaal a James Franco yn
serennu fel actorion a chynhyrchwyr. Ac na, nid pyrfyn mohonof er gwaetha’r
testun coch.
Dylan
ar Daith, S4C
Mae Mr Golwg wedi codi pac unwaith
eto, ac ar ôl ymweld â Gwlad Yncl Sam ddwy flynedd yn ôl, y Wlad Sanctaidd oedd
y gyrchfan ddiweddaraf. Hanes Lily Tobias a gawsom yn ‘O Ystalyfera i Israel’,
awdur ac ymgyrchydd fu’n dyheu am diriogaeth i'w chenedl Iddewig. Ond hanes
trist hefyd, gyda sawl clec personol ar y ffordd, gan gynnwys llofruddiaeth ei
gwr dan law’r Arabiaid yn Hebron wrth iddi ’sgwennu golygfa debyg mewn nofel ar
y pryd. Tipyn o sylwedd nos Sul, ganol X
Factor a saga sebonllyd am frenhines Loegr.
Bang,
S4C
Dw i’n dal i wylio, er ddim mor awchus
â thrydedd cyfres 35 Diwrnod. Gweler
y blogbost flaenorol am ddiffyg amynedd.