
Sgileffeithiau amlwg “torri’r got yn ôl y brethyn”
oedd 63% o ailddarllediadau ar S4C y llynedd yn ôl Adroddiad Blynyddol 2016-17
Awdurdod y Sianel, ac “…anallu i ddarparu drama wreiddiol, safonol drwy
gydol y flwyddyn, yn enwedig gan fod hyn yn nodwedd gynyddol o’r hyn a geir ar
y prif sianelau eraill”. Diolch i’r drefn am ddramâu tramor BBC Four yn y
cyfamser, megis Sé quién eres boncyrs o Barcelona
ac eraill fel cyfres ysbïo Hebraeg False Flag ar sianel Fox yng nghrombil fy mocs Sky.
Serch hynny, mae’r hen stejar Pobol y Cwm yn
dal i gynnig chwip o straeon yr adeg hon o’r flwyddyn yn enwedig triongl serch
Sioned-Gary-Dani a ddenodd y gorau o’r actorion profiadol hyn. Tydi stori gancr
mam DJ, ar y llaw arall, heb gydio gymaint er gwaethaf perfformiadau dirdynnol
Sara Harris-Davies a Carwyn Glyn. Y drwg ydi mai wyneb cymharol newydd ydi hi,
a ninnau’r gwylwyr yn gorfod malio amdani heb ddod i’w nabod yn iawn. Does gen
i fawr o fynedd efo’r Doc chwaith (na, nid rant gwrth-Bryn Fôn mohono) na Liv y
chwaer golledig y cofiodd Tyler a Dani amdani’n sydyn reit.
Mae pethau’n
gwella o fis Medi ymlaen, wrth i gyfresi newydd gwreiddiol ymddangos. Cydgynyrchiadau bei-ling wedi’u gosod mewn ardaloedd
cymharol ddieithr o ran dramâu Cymraeg, yw’r themâu amlwg.
Y gyntaf yw Bang! (10/9/17), cyfres wyth rhan gyda Jacob Ifan a Catrin Stewart yn actio’r brawd a
chwaer, dihiryn a phlismones â’u byd ben i waered ar ôl i ddryll ddod i’w
meddiant. Wedi’i sgwennu gan Roger Williams, awdur â phrofiad helaeth o
bortreadu’r Gymru gyfoes yn Caerdydd a Tir Sir Gâr, cafodd hon ei
ffilmio’n Port Talbot a Chwmafan ac felly’n adlewyrchu’r ardal honno trwy
bendilio rhwng Gymraeg a’r Saesneg fel Gwaith Cartref. Nid un i’r
puryddion, beryg.
I ddilyn ym
mis Hydref fydd Un bore Mercher, cynhyrchiad
cefn-wrth-gefn diweddaraf S4C a’r Bîb wedi’i gosod yn Nhalacharn, lle mae byd
twrna (Eve Myles) yn chwalu gyda diflaniad disymwth ei gŵr – ac sy’n datgelu
cyfrinachau go anghynnes am y gymuned leol wrth iddi ymchwilio i’r dirgelwch.
Mae’n swnio’n ddifyr, a diddorol
fydd gweld faint o grap ar y Gymraeg sydd gan Ms Myles mewn gwirionedd. Rhaid
bod y disgwyliadau’n aruchel, gan fod y fersiwn Saesneg Keeping the Faith eisoes wedi’i gwerthu i’r Unol Daleithiau.
Dw i’n awchu
am y tymor newydd yn barod.