Wnes
i ’rioed feddwl bod Port Talbot yn gymaint o bictiwr. O’r tyrrau dur sy’n
gefnlen i draeth melyn epig Aberafan i’r cymoedd gleision uwchlaw’r mwg a’r M4,
a hyd yn oed colofnau concrid y draffordd fawr brysur - mae gwaith camera Bang
yn hynod drawiadol. Cyfres newydd nos Sul yn slot sanctaidd y ddrama Gymraeg am
naw. Nid saga sgleiniog fel Teulu mohoni na chyfres noir-aidd arall
waeth beth ddywed Llais y Sais - ond cyfres drosedd-deuluol. Sam a Gina, brawd
a chwaer ar begynau gwahanol mewn bywyd - y naill (Jacob Ifan) yn weithiwr
warws anfoddog sy’n ysu am bach o rym a chyffro yn ei fywyd pan ddaw gwn
anghyfreithlon i’w feddiant, a’r llall (Catrin Stewart) yn blismones
uchelgeisiol sy’n ymchwilio i lofruddiaeth a achoswyd gan y cyfryw wn. Ac yn y
cefndir, cysgod marwolaeth eu tad a saethwyd yn farw ar y traeth o flaen Sam y
bychan, a’r gwrthdaro cyson â’r Sgotyn a bwli o lysdad er gwaetha ymgais y fam
lywaeth (Nia Roberts) i gadw heddwch. Bu Gillian Elisa yn serennu fel mam-gu
neu “Nani” ddi-lol y teulu i ddechrau cyn marw’n ddisymwth - bechod, achos yn
bersonol, hi oedd un o’r prif resymau dros wylio yn y lle cyntaf. Ac mae staff yr
heddlu (o Gareth Jewell i Suzanne Packer) yn ategiad dwyieithog difyr i’r
cyfan. Cyfres ddwyieithog, felly, nid fersiwn gefn-wrth-gefn fel y ditectif nid
anenwog hwnnw o’r Borth. Gyda llaw, ai fi ydio, neu oes angen i swyddfa heddlu
Cwm Afan fuddsoddi’n sylweddol mewn bylbiau golau? Mae llawer o’r golygfeydd
hynny fel bol buwch.
Bu
cryn heip am iaith Bang, yn enwedig
y golygfeydd helaeth o Saesneg fel sy’n fwy naturiol i’r De diwydiannol. Yn y
blyrb cyhoeddusrwydd, roedd llawer o’r cast a’r criw fel y cynhyrchydd Catrin
Lewis Defis yn brolio mai fel hyn ’dyn ni’n siarad yn y Gymru fodern. Cymysgedd
o frawddegau Cymraeg a Saesneg, Wenglish hyd yn oed. Hmm. Llansawel falle, bendant
ddim Llanrwst na Llanllwni. Meddai’r Fonesig Lewis-Defis:
“I think we switch really naturally
between both languages and it shows the way that Wales and the Welsh language
is today.
“It’s brilliant because we can take the
Welsh language further, rather than making an excuse for it and dubbing it in
English, we’re going to take the Welsh out there with the English and that
makes this project really fresh and innovative.”
Dadl
yr awdur Roger Williams (Caerdydd, Pobol
y Cwm, Tales from Pleasure Beach
ac enillydd gwobr BAFTA Cymru am Tir)
oedd mai portreadu iaith Cymry’r De ôl-ddiwydiannol – a chyda bron i hanner
dwsin o ysgolion cynradd Cymraeg yn ardal Castell-nedd Port Talbot a bwriad i
agor ysgol gyfun Gymraeg gynta tre’r dur, does dim amau’r diddordeb a’r
brwdfrydedd lleol. ’Sdim dwywaith am
frwdfrydedd y di-Gymraeg dros y gyfres hefyd, a barnu oddi wrth ymateb y
twitteratis. Ond – ac mae hwn yn glamp o
‘ond’ – os mai ceisio efelychu iaith y stryd mae Bang, yna mae’r sinig ynof yn
dweud mai’r iaith fain fyddai cyfrwng cyfathrebu’r stad gownsil a swyddfa’r
heddlu. Dyna sefyllfa drist ein hiaith yn yr unfed ganrif ar hugain. Ond byddai rhywun yn dweud bod Pobol y Cwm yn afrealistig hefyd, wrth
i’r iaith edwino fwyfwy yng Nghwm Gwendraeth sy’n sail i’r gyfres sebon
hirhoedlog. A fyddai cymeriadau fel Mark
Jones a Debbie, a’r to iau fel Sioned, Dani, Tyler, Chester a Hanna yn siarad
Cymraeg â’i gilydd? Yn sicr, mae iaith y
thesbians ar wefannau cymdeithasol yn ategu fy amheuon.
Hawdd cytuno felly ag ofnau Sioned Williams yn Barn fis Hydref “... mae S4C yn agor y drws i fyd dwyieithog a fydd – os yw’r gyfres yn llwyddiannus – yn anodd ei gau. Ai ‘adlewychu realiti holl gymunedau Cymru yw pwrpas S4C, fel yr awgrymwyd yn y noson lansio, neu ai creu arlwy yn y Gymraeg ar eu cyfer?”
Efallai
mai lle BBC Wales ydi darlledu Bang
- cyfle i normaleiddio’r Gymraeg mewn cyfres fwyafrifol Saesneg. Lol botes oedd
creu sawl fersiwn o Hinterland i
blesio cynulleidfaoedd S4C, BBC Wales Seisnig ac yna BBC Four fwy eangfrydig
sydd wedi hen arfer â darlledu dramâu Ewropeaidd ag isdeitlau Saesneg ar y
sgrin. Ar y llaw arall, diolch i dduw am S4C fel yr unig sianel o Gymru sy’n
portreadu bywyd y genedl gyfoes ar ffurf drama. Pryd mewn difri calon oedd y
tro diwethaf i BBC Wales wneud hynny? Belonging
wyth mlynedd yn ôl? A na, tydi The Indian Doctor llawn stereoteipiau
blinderus o Gymru’r pyllau glo ddim yn cyfri...
A
pheidiwch â dechrau gydag adran ddrama ITV Cymru Wales.
Mae
Bang eisoes wedi denu diddordeb gan Wlad y Basg, Lloegr ac ambell AS, ac wedi’i
gwerthu i orsaf SVT Sweden. Dw i’n mwynhau’r cyfuniad o’r cyffro a’r elfennau
teuluol, mae’r ddeialog yn tipyn mwy credadwy na fuodd Y Gwyll erioed, a’r ddau brif actor ifanc yn llywio’r cyfan yn
llwyddiannus fel cymeriadau ’da ni’n wir falio amdanyn nhw.
Ond
mae angen i S4C feddwl hefyd am gynulleidfa graidd nos Sul hefyd, a darparu
drama mwy draddodiadol ar eu cyfer sy’n sicrhau ffigurau gwylio uwch na chaiff Bang, 35 Diwrnod et al fyth.