Ond
cefais fy synnu ar yr ochr orau gan Mike Phillips a’r Senghenydd Sirens cyfres
bry ar y wal lle mae cyn-chwaraewyr rhyngwladol yn helpu carfan o amaturiaid ar
hyd y tymor - nid yn annhebyg i Clwb Pêl-droed Malcolm Allen yn
Llanberis bedair blynedd yn ôl. Syndod braf arall oedd gweld cymaint o
siaradwyr Cymraeg yn y ryc, diolch yn bennaf i ysgolion cynradd Cymraeg ardal
Caerffili ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Pluen yn eu het, heb os. Fe wnes i gyfri’
chwe chwaraewraig Cymraeg eu hiaith, o Elaine Wood i Kayleigh Mason ac
Ann-Marie Griffiths. Ac os ydi camerâu Cynhyrchiad Orchard wedi llwyddo i’w
cael nhw i hyfforddi, gwlychu, rhegi a chymdeithasu yn y Gymraeg, gorau oll.
Aeth
y rhaglen gyntaf o chwech a ni o ddechrau tymor heb hyfforddwr, i gyflwyno’r
mab fferm a’r model rhan-amser o Sale Sharks, cwrs rhwystrau lleidiog iawn i’r
genod a gornest hynod gorfforol yn erbyn nytars Croesyceiliog (29-24 yn diwedd).
Gyda
chynnydd aruthrol yng ngêm y merched, o ychydig gannoedd dair blynedd i dros
10,000 erbyn heddiw yn ôl BBC Cymru Fyw, a’r garfan genedlaethol yn denu mwy o
sylw teledu a thyrfa fawr (roeddwn i’n un o’r 4,000 a mwy yng ngêm Lloegr ym
Mharc yr Arfau adeg 6 Gwlad eleni), fe ddylai hon fod yn gyfres boblogaidd.
A
boi digon gwylaidd ydi Mr Phillips yn y bôn. Sori, Meic.
Un
pwynt bach i gloi, gyfryngis Cymraeg. Mae gynnon ni air hollol dderbyniol,
dealladwy a chanmil gwell na “sialens”. Her. Hwnna ydi o. Her.