*SBOILAR
A dyna ni. Mae’r antur fawr ar ben. Y ddrama ddomestig dros ben llestri am sgileffeithiau hyll tor-priodas - wrth i Dr Foster (Suranne Jones) yfed a smocio a fflangellu’i ffordd drwy ysgariad chwerw â’r Simon (Bertie Carvel fel chwip o ddihiryn pantomeim) a thynnu holl drigolion dosbarth canol uwch Parminster i’w pennau. Er gwaetha’r amheuon y byddai’r naill gymar neu’r llall yn gelain erbyn y diwedd, naill ai dan deiars yr Hyundai neu trwy nodwydd angheuol y doc, maen nhw mewn galar parhaus bellach - am eu mab Tom, a gafodd hen lond bol o ddramatics Shakespearaidd ei fam a’i dad, cyn diflannu o’u bywydau. Ac wele bosteri “Missing” o’r cr’adur ar hyd a lled y syrjeri a’r dre, a diweddglo marc cwestiwn.
Yr antur fawr ar ben
meddwn i. Ond efallai bod gan yr awdur Mike Bartlett syniadau gwahanol. Y
farn gyffredinol nad oedd hon yn yr un cae â’r gyfres gyntaf hynod boblogaidd. Ond cofier Broadchurch, a gafodd ail gyfres symol uffernol
cyn achubiaeth y drydedd a’r olaf un.