Golwg II - Bybl Bendigedig

Mae’n nosi’n gynt. Y siopau’n frith o ddillad a geriach dychwelyd i’r ysgol. A darllenwyr Golwg yn dioddef o’r IAS – iselder adra o’r Steddfod. Trwy lwc, mae tomen o raglenni yn dal ar wasanaethau Clic ac Iplayer i’r rhai sydd am ddrachtio mwy o ddiwylliant. Yr uchafbwynt oedd Cyngerdd Hedd Wyn: A Oes Heddwch? gyda chorws caboledig y fam ynys a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Ac mae deuawd lesmeiriol Casi Wyn a Lleuwen Steffan i gyfeiliant ‘Deio Bach’ yn dal i godi lwmp yn y gwddw.

Fel arfer, bu darllediadau di-fai gan y Gorfforaeth Ddarlledu ar S4C o ddeg y bore tan ddeg yr hwyr. Yn ddelfrydol, byddai llai o hysbysebion a mân siarad rhwng y cyflwynwyr a’r beirniaid soffa, a mwy o amrywiaeth ac arbrofi i gyd-fynd â phrifwyl fentrus y Bae flwyddyn nesa. Dw i wedi hen dderbyn na ddaw oes aur sgetshis a cherddoriaeth Swigs fyth yn ôl, ond mae gwir angen trosglwyddo Tocyn Wythnos y radio i’r teli (gyda Beti a Karen os oes modd), yn gyfuniad o sioe sgwrsio, adolygiadau a chlecs difyrrach na chopi o Lol. Wedi’r cwbl, mae enwogion mawr a mân a set secsi’r Babell Lên ar blât iddyn nhw.

Os cafodd y gynulleidfa gynhenid wledd a hanner, briwsionyn gafodd y di-Gymraeg yn Eisteddfod 2017 with Josie d'Arby. Pigion hanner awr ar BBC2 Wales ac ailddarllediad i weddill Prydain anwybodus ar BBC Four. Hanner awr o blith oriau dirifedi o ddarllediad allanol mwyaf ond dau y BBC yr haf hwn (ar ôl Wimbledon a Glastonbury). Dyma ymweliad cynta’r ferch o Gasnewydd â’r Genedlaethol ac agoriad llygad i fyd cyfan gwbl Gymraeg. Iawn, anghofiwch y ffaith i Josie “I don’t speak Welsh” ddod yn ail yng nghystadleuaeth Cariad@Iaith 2011 am eiliad. Roedd ei gwên ddiffuant yn donic, wrth iddi bicied o’r llwyfan i’r Lle Celf, clywed hanes Hedd Wyn gan yr actor Huw Garmon (yn naturiol), cael blas o’r Orsedd dros frechdanau efo’r bwrlwm byw Mair Penri a throi’n llanast emosiynol wrth wrando ar gerdd dantwyr ifanc Dyffryn Clwyd. Er bod cryn bwyslais ar y to iau, gyda chriw Calan yn rhoi cic yn dîn ein sîn werin, collwyd cyfle euraidd i ddangos peth o gyffro Maes B fel rhan r’un mor annatod o’r “wonderful bubble” chwadal Josie.

Pigion difyr, anhepgor ac agoriad llygad i bob Tom, Dick ac Evan Davis (a’i ymchwilwyr). Beth am hanner awr nosweithiol ’flwyddyn nesa BBC Prydain?