Mae fwdw’r festri wedi taro eto. Flwyddyn a mwy ers i Chester ddwyn gwn Siôn White/Wncwl Gary a saethu ei fam yn ddamweiniol ganol drama’r geni, heb son am gynnau tân yn y set fawr wedyn, disgynnodd to Bethania am ben cystadleuwyr a chynulleidfa (o ddeuddeg) Cwm Dancing - diolch i gyfuniad o droed trwsgl Jim Probert a chrefftwaith ciami Carl y cowboy builder, nai Megan. Neu ai Russell Grant oedd ar fai? Mi ddiflannodd gwestai arbennig y noson fel lyncs Borth hanner ffordd drwy’r bennod, cyn cael cyfle i wobrwyo Charlie Cha-cha a Shirley Sbarcls o Gwrtmynach.
Ac wedi i’r llwch glirio o stỳnt fwya’r(?) flwyddyn, mae Gaynor mewn coma, Arwen wedi cael diagnosis o ganser, Colin ’di deall bod Britt wedi colli ei bres ewyllys trwy wewillscamyou.com, Dr Elgan yn clecian Jameson’s wedi pwl arall o PTSD, a DJ ac Anita mewn peryg o gyplu.
A draw yn fflat B&Maidd y caff, mae Sioned Charles-Rees yn smalio hunanladdiad a chwarae tenis tonsils efo Gwyneth er mwyn cael geirda ar gyfer ei hachos llys o drais domestig yn erbyn Ed. Mewn bywyd go iawn, mi fyddai’r arch-ast wedi hen heglu’i hi am borfeydd brasach SA1 neu Fae Caerdydd a blingo rhyw sugar daddy fanno, ond am y tro, hi yw’r peth gorau am Pobol y Cwm - ac mae Emily Tucker yn ei helfen fel y jadan y mae pawb yn hoff o’i chasáu.
Ac o’r diwedd, mi fydd gennym bennod awr ar noson Nadolig. Jesd osgowch Bethania’n gyfan gwbl eleni.
Mae’r Almaen yn newydd-ddyfodiad i’r stabl Ewroddramâu teledu. Bu Deutchland 83 am anturiaethau sbïwr o ddwyrain Berlin yn smalio bod yn aelod o fyddin y gorllewin yn llwyddiant mawr i Channel 4, ac, wel, dyna’r cyfan am wn i. Ond nawr, mae cyfres epig Babylon Berlin (Sky Atlantic, nosweithiau Sul) drama drosedd 16 pennod wedi’i gosod yng nghanol hwyl a hoen ond llawn trais a thlodi enbyd Gweriniaeth Weimar ar drothwy’r 1930au a dyfodiad rhyw gyw-wleidydd o’r enw Adolf Hitler – a’r gyfres ddrama ddrutaf erioed o’r Almaen meddan nhw (€30 miliwn). Wedi’i haddasu o nofelau ditectif Volker Kutscher am Kommissar Gereon Rath (hen filwr sy’n dal i ddioddef creithiau meddyliol y Rhyfel Mawr, a chwareir yn gelfydd gan Peter Kurth) mae’n wirioneddol gyffrous ac yn wledd i’r llygaid, gyda’r shots o’r clybiau nos nwydus a bwrlwm byw Alexanderplatz yn llawer mwy credadwy na sawl drama CGI sydd ohoni heddiw. Ac mae bron â chael y flaenoriaeth yn Chez Dyl i saga Eve Myles ar S4C.
Peidiwch â chamddeall i. Dw i’n dal i fwynhau Un Bore Mercher – y brif actores, ei pherthynas â’r plant a’i ffrind, cyfrinachau Steve Baldini (Mark Lewis Jones), DI Williams (Eiry Thomas) â’r wep suro llefrith, dirgelwch y fam heb sôn am flonden femme fatale yn y llys – ond mae manion fel golygfeydd ailadroddus o geir yn nadreddu hyd arfordir-Bro Morgannwg-cogio-bod-yn-Dalacharn, y piano a’r acappella a’r geiriau Google Translate yn llethu braidd.
“Dyma fi nawr eto / Yr un hen amgylchiadau chwith / Ceisio gwneud rhyw synnwyr o’r holl rwyg / Dyma fi’n mynd nawr / Mynd rownd a rownd mewn ffaith di-ri / Dala mlaen am fywyd unwaith eto / Dylen i fod yn gwybod nawr..”
Que?
Wedi sawl cyfres siomedig yn slot noir-aidd BBC Four, gan gynnwys Sé quién eres ddwl bost
o Barça, mae ’na rywbeth gwerth chweil yn dychwelyd ar nos Sadwrn. Les témoins neu
Witnesses i’r angloffiliaid, lle mae’r lieutenant Sandra Winckler (Marie Dompnier) yn datrys
sawl llofruddiaeth ar hyd glannau llwyd Normandie. Cofio’r gyfres gyntaf ar Channel 4 gyda’r
meirwon wedi’u gosod yn grotesg mewn tai dangos ar stadau newydd sbon? Y tro hwn,
mae’r stori’n agor gyda merch yn rhedeg i ddal y bws un bore, yn camu ymlaen, ond yn lle
gweld criw o gymudwyr cysglyd, mae 15 corff wedi rhewi’n gorn. Daw i’r amlwg bod gan bob
un o’r dynion druan gysylltiad â’r un fenyw, Catherine Keemer (a chwaraeir gan y gochen
drawiadol Audrey Fleurot o Spiral fydd ’nôl ar ein sgriniau ddechrau 2018). Os fydd hon
unrhyw beth fel y gyntaf, mi gawn ni gyfres llawn steil arferol y Ffrancwyr, llond arfordir o
awyrgylch a golygfeydd i godi gwallt eich pen cyn noswylio.
Mae’n swnio’n fantastique!