Heini





Brits waste a staggering £558m a year on unused gym memberships - with more than one in 10 people saying they hadn’t stepped foot inside their gym for a whole year…             

A poll of 1,000 gym members found that 11 per cent said that despite paying an average of £47 a month - that’s £564 a year - on a gym membership they hadn’t gone throughout 2016…

A total of 21 per cent said they visited their gym just three times a year - meaning each visit cost them £188.

Diolch i’r Drych am y wybodaeth yna. Mi roeddwn i’n un ohonyn nhw tan yn ddiweddar iawn. A thra’r oedd pawb arall yn ymuno â’r gampfa fel rhan o’u hadduned flwyddyn newydd, fe wnes i stopio’r debyd uniongyrchol i’r sglyfath lle. Campfa drws nesa i Stadiwm y Mileniwm (dw i’n gwrthod defnyddio’r gair “P” na, waeth beth ddywed Dafydd Êl), rhwng bar faux Almaenig a sinema amlsgrin, yn drewi o chwys, creaduriaid gorgyhyrog yn llygadu’i gilydd, a chyfleusterau cawodydd gwaeth na maes carafanau’r Steddfod erbyn y Sadwrn olaf. Na, beicio 8 milltir y dydd i’r gwaith i mi, a cherdded draw i’r stryd fawr leol yn yr Eglwys Newydd (ok, a thafarn yr Aradr a’r siop sglods). Hynny a gwylio rhaglenni cadw’n heini ar y bocs. Ar y Dibyn er enghraifft, sy’n ôl am ail gyfres ar S4C, ac yn herio deg dewr-dwl i fynd i’r afael â’r elfennau ac uchelfannau Eryri er mwyn ennill “pecyn antur” gwerth £10,000. Ac mae’r ddynes haearn Lowri Morgan yno i roi cwtsh ac anogaeth famol bob hyn a hyn, tra bod Dilwyn Sanderson-Jones yn arthio a’u deffro ben bore gyda’i gaeadau bins. Ond mae o fel rhyw yncl clên o gymharu â chociau ŵyn SOS: Who Dares Wins draw ar Channel 4, lle mae’r cynbarafilwyr o gyflwynwyr yn effio’u ffordd drwy’r rhaglen ac yn trin y milwyr bychain fel baw isa’r doman. ’Swn i di hen roi swadan iddyn nhw a chodi pac 40 pwys ymhell cyn y dasg cyntaf ym mynyddoedd didostur yr Atlas 40 gradd. Fel tasa nhw’n esiampl i’r cystadleuwyr druan sy’n gorfod profi elfen gref o hunanddisgyblaeth, ag un ohonyn nhw wedi treulio cyfnod dan glo am roi ffatan i ddau heddwas mewn clwb nos yn Essex.




Ond dw i’n ryw fwynhau hon jesd i weld datblygiad y cystadleuwyr druan, gan gynnwys brodor o’r Porth, Cwm Rhondda, oll â’u straeon personol profi-eu-hunain. Mae’n bleser eu gweld yn magu hyder a chymeriad, fel criw Ar y Dibyn. Er, roedd eu tasg nhw yn myd zip Betws y Coed yn debycach i drip ysgol Sul o gymharu ag abseilio lawr argae 200 troedfedd ym Moroco neu rasio dros dwyni’r Sahara. Medda fo fysa byth yn mentro i Betws hyd yn oed.


Mae Cwmni Da ac S4C fel ’tae nhw ar gennad arbennig i’n gweddnewid ni’n genedl iachach na Monaco, gyda chyfres 8 rhan i ddod ym mis Ebrill dan arweiniad Lisa Gwilym – Ffit Cymru – swnio’n ddifyr, er rhywfaint yn debyg i gyfres Iolo Williams Cwm Sâl Cwm Iach bron i ddeng mlynedd yn ôl? Os ydych chi awydd cymryd rhan fel un o “5 unigolyn dros 18 oed i ysbrydoli y genedl drwy ddilyn cynllun iechyd a ffitrwydd FFIT Cymru” – dim pwysau fanna bobl - yna tân ’dani, gan fod y dyddiad cau ddydd Gwener nesaf, 2il Chwefror.

Dw i’n edrych mlaen at gael gwylio’r cyfan o’r soffa gyda homar o Marabou Mjolkchoklad Daim o’r Ikea lleol.


 


Tim Ffit - Y dietegydd Sioned Quirke, y seiciolegydd Dr Ioan Rees, Lisa Gwilym, a'r hyfforddwraig bersonol Rae Carpenter







Gwylio neu beidio







Ychydig yn ôl, fe sgwennais i argymhellion am gyfresi dramâu da i’n cario drwy felan mis Ionawr ac anghofio am fanion Brecshitaidd a biliau’r Dolig. Roeddwn i’n edrych ymlaen at yr arlwy felly... ond pylu wnaeth y mynadd a’r diddordeb erbyn 2il bennod sawl un ohonyn nhw. I ddechrau wrth fy nhraed, ac mae Craith yn dal ynddi, serch yr acenion Llanbobman ym Mangor a’r cylch. Iawn, digon teg, dinas prifysgol gosmopolitaidd a ballu. Yna, Cardi blin, masweddus o asiant dai lleol (Gwydion Rhys) sy’n plagio ei gyn-gariad. A ffarmwr(?) o Sir Gâr (Ioan Hefin) yn gymydog amheus sy’n ffeindio Dylan yn cysgu ei fan goch yn y goedwig ddu. Mae. Isio. Gras. Ond, dw i bellach wedi gorfod derbyn yr amryfusedd hwn ar ran y criw castio, a’i mwynhau fel drama llawn awyrgylch, y goleuo a’r camera celfydd, actio grymus (Owen Arwyn et al) a’r berthynas gynnes rhwng y ddau brif gopyn, Cadi John ac Owen. Mi fydd Sian Reese-Williams, gynt o Emmerdale a 35 Diwrnod III i’w gweld mewn cyfres oruwchnaturiol am fabi aeth ar goll flynyddoedd yn ôl ar rwydwaith y Bîb yn fuan hefyd – Requiem - cyfres wedi’i ffilmio’n ardal Casnewydd yn bennaf, ond hefyd llefydd randym eraill fel pentref Nelson ger Caerffili, a Dolgellau! Cast Seisnig ar y naw ar yr olwg gyntaf, Awstraliad a llond llaw o’r natives (Sian, Ifan Huw Dafydd, Richard Harrington a Dyfan Dwyfor) a chynhyrchiad ar y cyd â Netflix, sy’n sicr o ddenu gwylwyr rhyngwladol. 




Mae’n debyg bod y Geordies-smâl ar Vera yn gwylltio/poeni’r brodorion fyny fan’cw hefyd, ond dw i’n ffan fawr o Brenda ‘Pet’ Blethyn a chriw Northumberland & City Police ers y gyfres gyntaf saith mlynedd yn ôl ac wedi darllen nofelau gwreiddiol Ann Cleeves ymhell cyn hynny. Unwaith eto, mae’r golygfeydd a’r gwaith camera yn cydio - gyda straeon yn mynd â ni o’r South Shields ôl-ddiwydiannol i arfordir gwyllt Bae Whitley ac Ynysoedd Farne, o weundiroedd gwyllt Northymbria i strydoedd slic Newcastle. Dw i’n cymharu prisiau hedfan/trên o Gaerdydd wrth deipio’r hyn o eiriau...




Ac mae dwy awr o’r ditectif rwsut-drwsut hon yn golygu ’mod i wedi dileu McMafia o’r amserlen nos Sul, ar ôl sticio efo hi am dair pennod. Am laddfa. Roedd y pendilio cyson o Lundain-ski i Foscow, ac o Brâg i Haifa a Monaco yn apelio i ddechrau, ond y plot slô bach ac ambell actor stiff (James Norton y darpar Bond wir!) yn llethu rhywun. I’r bin â hi felly, yn union fel Silent Witness. Rhyw berthynas garu-gasau fuodd rhyngof i a’r patholegwyr drama erioed, a tydw i heb ei chymryd o ddifrif ers sgetsh enwog French & Saunders, ‘Witless Silence’ flynyddoedd yn ôl. Mae Emilia Fox yn bwrw iddi’n syth o foutique drytaf Knightbridge i ddatrys cliwiau a sarnu heddlu lleol, yn cael ei hun mewn anturiaethau annhebygol o Fecsico i Dde Affrica, ac yn llwyddo i roi’r farwol i bob ffrind agos neu gariad posib. Digon yw digon, BBC.


Mae Kiri yn dal i ennyn diddordeb bob nos Fercher hefyd. Un fantais yw mai cyfres fer o bedair yw hi, ac mae Sarah Lancashire wastad yn apelio (er dyw brodorion Bryste ddim cweit yn siŵr beth i’w wneud o’i hacen Vicky Pollard-aidd chwaith). Wrth gwrs, mae wedi pechu gweithwyr cymdeithasol yn uffernol yn ei phortread o ddynes sy’n mynd â’i mwngral i’r gwaith ac yn cadw fflasg o wisgi gyda’i llyfr achosion. Ac mae’n hwyl chwarae gêm “mi wela i... Gaerdydd” weithiau, yn enwedig y swyddfa heddlu ganolog ym Mharc Cathays.


Dilyn Saga a Sarah Lund



Bron i flwyddyn yn ôl, es am benwythnos hir i Ddenmarc a Sweden. Copenhagen yn bennaf, er mwyn porthi’r obsesiwn Nordig byth ers i BBC Four ddechrau darlledu’r goreuon o’r gwledydd hynny. Dyma gipolwg yn ôl ar y daith fer fythgofiadwy – ac oer - honno.







Mae’r drws metel yn sleidio ar agor, ac rydyn ni’n camu’n llechwraidd i mewn. Os ydi’r gwynt yn cosi’r rhewbwynt y tu allan, mae’n arctig fan hyn. Mae’n hesgidiau’n atseinio drwy’r warws fawr wag, a’r golau clinigol yn taflu cysgodion ar hyd a lled y waliau moel. Uwch ein pennau, mae cylchau metel rhydlyd a arferai grogi carcasau gwartheg flynyddoedd yn ôl. Neu gorff dynol... Dw i’n sadio wrth i Hanna ein tywysydd esbonio arwyddocâd y safle arbennig i’r ddwy gyfres a’m denodd yma. Dwy gyfres sy’n egluro pam fy mod i ac wyth arall DKK100 (decpunt) yn dlotach am y fraint amheus o grwydro lladd-dy segur ar bnawn Sadwrn niwlog o Chwefror. Pawb o wledydd Prydain namyn gwraig o dalaith Minnesota (“No, I did NOT vote for That Man”) yn treulio awr a hanner ar wibdaith nordicnoirtours.com dan law Hanna, merch o’r Ffindir a sgolor o Glasgow bellach wedi ymgartrefu yn Copenhagen. A merch sydd wedi mopio cymaint â ni ar gyfresi ditectifs a arweiniodd at oresgyniad newydd o Lychlynwyr i bedwar ban. 

Forbrydelsen (2007-2012) ddechreuodd y cyfan ddegawd yn ôl, cyfres a ymddangosodd ar BBC Four fel ‘The Killing’ am ddeng nos Sadwrn yn olynol gan roi’r farwol i ’mywyd cymdeithasol. Cyfres heb ei thebyg ar deledu Prydain, gyda’i phortread ysgytwol o drallod un teulu wedi llofruddiaeth eu merch. Yn ogystal â’r ditectif styfnig Sarah Lund (Sofie Gråbøl), cymeriad cofiadwy arall oedd Copenhagen ei hun – y maestrefi llwm a’r warysau tywyll, dinas fel petai mewn galar parhaus o niwl a glaw smwc. Gwnaed penderfyniad penodol i ffilmio yn Nhachwedd y dyddiau t’wllu’n gynnar, er mwyn creu’r naws am le noir-aidd. Ac mae’r dychymyg yn drên wrth inni gydgerdded â’r cymeriadau o neuadd y ddinas i Kødbyen yr ardal pacio cig cyn gorffen ym mhencadlys trawiadol neoglasurol yr heddlu. Mae’r Københavns Politigård yn lleoliad ffilmio amlwg i chwip o ddrama dditectif arall o’r parthau hyn. 

Drannoeth, dw i’n neidio ar drên cyflym i wlad arall - Sweden - yn bennaf am y profiad o groesi pont enwog Øresund fu’n sail i Bron/Broen (2011- ). Dyma gyfres a esgorodd ar sawl fersiwn arall rhwng Ffrainc a Lloegr (The Tunnel, Sky Atlantic) a Mecsico ac America (The Bridge, FX). Tybed ydi Trump yn ffan? Roedd hon, esbonia Hanna, yn chwarae fwy ar yr ystrydebau a’r tensiynau rhwng dwy wlad a dau gymydog, wrth i Saga Noren drefnus o Sweden orfod cydweithio â Martin Rohde chwit-chwat o Ddenmarc. Ar ôl cyrraedd Malmö, a gadael y sgwâr hynafol, heibio stad ddienaid o weithdai a gwestai bocs sgidia, mae eicon y ddinas yn hudo o bell. Dyma’r Turning Torso, adeilad talaf Sgandinafia sy’n codi megis cerflunwaith 623 troedfedd i’r entrychion a rhan amlwg iawn o awyrlun y gyfres. Cynefin Saga Norén, y ditectif trowsus lledr a’r Porsche melynwyrdd o’r 70au, ac mae’n wirioneddol drawiadol. Mae’r gwynt yn fain, ond sdim ots. Wedi’r cwbl, fyddai taith noir-aidd yn haul tanbaid yr haf ddim yr un fath. Ac wrth ddychwelyd ar drên Copenhagen y noson honno, mae arwyddgan pruddglwyfus Choir of Young Believers yn llenwi ’mhen. 



Nôl yn Nenmarc, dw i’n cael sgwrs sydyn gyda Christine Bordin, sylfaenydd cwmni Nordic Insite sy’n rheoli’r teithiau tywys. Prydeinwyr ydi 75% o’r cwsmeriaid obsesiynol, meddai, a’r gweddill o’r Iseldiroedd a Gwlad Belg, ambell Ffrancwr, Awstraliad ac Americanwr. Dyma’i holi wedyn am ein cyfraniad ni i’r genre, Y Gwyll, neu Mord i Wales a ddangoswyd ar DR1, prif orsaf ddarlledu’r wlad. A’i barn hi? I am not sure I would qualify Hinterland as Nordic Noir - the definition is to be discussed for hours around a Danish beer - but it is certainly a very well made drama!” ateba’n frwdfrydig. Y fersiwn Gymraeg welodd hi, ond yn gyffredinol roedd llawer o’i chydweithwyr wedi colli’r Cardi Noir oherwydd diffyg hysbysebu gan y sianel Ddaneg. Hynny, a’r slot noswylio 11.20 yr hwyr o bosib a glustnodwyd i’r ail gyfres sydd ymlaen ar DR1 ar hyn o bryd. Yn rhwystredig, roedd Christine wedi cysylltu â chwmnïau cyfatebol yn Aberystwyth i drafod y posibilrwydd o gydweithio a hyrwyddo’r cyfresi Cymraeg a Daneg ar dudalennau Facebook ei gilydd. Chafodd hi ddim ateb. Oes, mae eisiau cic yn dîn ni’r Cymry weithiau. Ond mae ambell un wedi gweld potensial twristiaeth deledu yr ochr yma i Fôr y Gogledd. Dywed Richard Smith o gwmni ‘Cambrian Safaris’ o Lanafan ger Aberystwyth, mai’r Gwyll sy’n gyfrifol am ddenu cyfran sylweddol o Americanwyr a thramorwyr eraill i raeadrau gwaedlyd Pontarfynach, diolch i Netflix. Trowch i www.darganfodceredigion.co.uk ac mae yna lyfryn â mapiau o leoliadau’r gyfres a “gwlad llawn chwedloniaeth a dirgelwch” gyda delweddau trawiadol o’r ardal a lluniau S4C o’r cast. A ‘Her y Gwyll’ ydi taith gerdded fawr Ramblers Cymru ddydd Sadwrn 6 Mai eleni, sy’n sicr o apelio at sawl ffan fel fi. Efallai bod Y Gwyll wedi gorffen (am byth?) ar S4C, ond mae’r drydedd gyfres eto i’w gweld ar BBC Four a thu hwnt. Mae’r farchnad yno, Gymry Ceredigion. Bachwch hi!