Brits waste a staggering £558m a year on unused gym memberships - with more than one in 10 people saying they hadn’t stepped foot inside their gym for a whole year…
A poll of 1,000 gym members found that 11 per cent said that despite paying an average of £47 a month - that’s £564 a year - on a gym membership they hadn’t gone throughout 2016…
A total of 21 per cent said they visited their gym just three times a year - meaning each visit cost them £188.
Diolch i’r Drych am y wybodaeth yna. Mi roeddwn
i’n un ohonyn nhw tan yn ddiweddar iawn. A thra’r oedd pawb arall yn ymuno â’r
gampfa fel rhan o’u hadduned flwyddyn newydd, fe wnes i stopio’r debyd
uniongyrchol i’r sglyfath lle. Campfa drws nesa i Stadiwm y Mileniwm (dw i’n
gwrthod defnyddio’r gair “P” na, waeth beth ddywed Dafydd Êl), rhwng bar faux
Almaenig a sinema amlsgrin, yn drewi o chwys, creaduriaid gorgyhyrog yn llygadu’i
gilydd, a chyfleusterau cawodydd gwaeth na maes carafanau’r Steddfod erbyn y
Sadwrn olaf. Na, beicio 8 milltir y dydd i’r gwaith i mi, a cherdded draw i’r
stryd fawr leol yn yr Eglwys Newydd (ok, a thafarn yr Aradr a’r siop sglods). Hynny
a gwylio rhaglenni cadw’n heini ar y bocs. Ar
y Dibyn er enghraifft, sy’n ôl am ail gyfres ar S4C, ac yn herio deg dewr-dwl
i fynd i’r afael â’r elfennau ac uchelfannau Eryri er mwyn ennill “pecyn antur”
gwerth £10,000. Ac mae’r ddynes haearn Lowri Morgan yno i roi cwtsh ac anogaeth
famol bob hyn a hyn, tra bod Dilwyn Sanderson-Jones yn arthio a’u deffro ben
bore gyda’i gaeadau bins. Ond mae o fel rhyw yncl clên o gymharu â chociau ŵyn SOS: Who Dares Wins draw ar Channel 4,
lle mae’r cynbarafilwyr o gyflwynwyr yn effio’u ffordd drwy’r rhaglen ac yn
trin y milwyr bychain fel baw isa’r doman. ’Swn i di hen roi swadan iddyn nhw a
chodi pac 40 pwys ymhell cyn y dasg cyntaf ym mynyddoedd didostur yr Atlas 40
gradd. Fel tasa nhw’n esiampl i’r cystadleuwyr druan sy’n gorfod profi
elfen gref o hunanddisgyblaeth, ag un ohonyn nhw wedi treulio cyfnod dan glo am
roi ffatan i ddau heddwas mewn clwb nos yn Essex.
Ond dw i’n ryw fwynhau hon jesd i weld
datblygiad y cystadleuwyr druan, gan gynnwys brodor o’r Porth, Cwm Rhondda, oll
â’u straeon personol profi-eu-hunain. Mae’n bleser eu gweld yn magu hyder a chymeriad, fel criw Ar y Dibyn. Er, roedd
eu tasg nhw yn myd zip Betws y Coed yn debycach i drip ysgol Sul o gymharu ag
abseilio lawr argae 200 troedfedd ym Moroco neu rasio dros dwyni’r Sahara.
Medda fo fysa byth yn mentro i Betws hyd yn oed.
Mae Cwmni Da ac S4C fel ’tae nhw ar gennad
arbennig i’n gweddnewid ni’n genedl iachach na Monaco, gyda chyfres 8 rhan i
ddod ym mis Ebrill dan arweiniad Lisa Gwilym – Ffit Cymru – swnio’n ddifyr, er rhywfaint yn debyg i gyfres Iolo
Williams Cwm Sâl Cwm Iach bron i
ddeng mlynedd yn ôl? Os ydych chi awydd cymryd rhan fel un o “5 unigolyn dros
18 oed i ysbrydoli y genedl drwy ddilyn cynllun iechyd a ffitrwydd FFIT Cymru”
– dim pwysau fanna bobl - yna tân ’dani, gan fod y dyddiad cau ddydd Gwener
nesaf, 2il Chwefror.
Dw i’n edrych mlaen at gael gwylio’r cyfan o’r soffa gyda homar o Marabou Mjolkchoklad Daim o’r Ikea lleol.
Tim Ffit - Y dietegydd Sioned Quirke, y seiciolegydd Dr Ioan Rees, Lisa Gwilym, a'r hyfforddwraig bersonol Rae Carpenter |