Dilyn Saga a Sarah Lund



Bron i flwyddyn yn ôl, es am benwythnos hir i Ddenmarc a Sweden. Copenhagen yn bennaf, er mwyn porthi’r obsesiwn Nordig byth ers i BBC Four ddechrau darlledu’r goreuon o’r gwledydd hynny. Dyma gipolwg yn ôl ar y daith fer fythgofiadwy – ac oer - honno.







Mae’r drws metel yn sleidio ar agor, ac rydyn ni’n camu’n llechwraidd i mewn. Os ydi’r gwynt yn cosi’r rhewbwynt y tu allan, mae’n arctig fan hyn. Mae’n hesgidiau’n atseinio drwy’r warws fawr wag, a’r golau clinigol yn taflu cysgodion ar hyd a lled y waliau moel. Uwch ein pennau, mae cylchau metel rhydlyd a arferai grogi carcasau gwartheg flynyddoedd yn ôl. Neu gorff dynol... Dw i’n sadio wrth i Hanna ein tywysydd esbonio arwyddocâd y safle arbennig i’r ddwy gyfres a’m denodd yma. Dwy gyfres sy’n egluro pam fy mod i ac wyth arall DKK100 (decpunt) yn dlotach am y fraint amheus o grwydro lladd-dy segur ar bnawn Sadwrn niwlog o Chwefror. Pawb o wledydd Prydain namyn gwraig o dalaith Minnesota (“No, I did NOT vote for That Man”) yn treulio awr a hanner ar wibdaith nordicnoirtours.com dan law Hanna, merch o’r Ffindir a sgolor o Glasgow bellach wedi ymgartrefu yn Copenhagen. A merch sydd wedi mopio cymaint â ni ar gyfresi ditectifs a arweiniodd at oresgyniad newydd o Lychlynwyr i bedwar ban. 

Forbrydelsen (2007-2012) ddechreuodd y cyfan ddegawd yn ôl, cyfres a ymddangosodd ar BBC Four fel ‘The Killing’ am ddeng nos Sadwrn yn olynol gan roi’r farwol i ’mywyd cymdeithasol. Cyfres heb ei thebyg ar deledu Prydain, gyda’i phortread ysgytwol o drallod un teulu wedi llofruddiaeth eu merch. Yn ogystal â’r ditectif styfnig Sarah Lund (Sofie Gråbøl), cymeriad cofiadwy arall oedd Copenhagen ei hun – y maestrefi llwm a’r warysau tywyll, dinas fel petai mewn galar parhaus o niwl a glaw smwc. Gwnaed penderfyniad penodol i ffilmio yn Nhachwedd y dyddiau t’wllu’n gynnar, er mwyn creu’r naws am le noir-aidd. Ac mae’r dychymyg yn drên wrth inni gydgerdded â’r cymeriadau o neuadd y ddinas i Kødbyen yr ardal pacio cig cyn gorffen ym mhencadlys trawiadol neoglasurol yr heddlu. Mae’r Københavns Politigård yn lleoliad ffilmio amlwg i chwip o ddrama dditectif arall o’r parthau hyn. 

Drannoeth, dw i’n neidio ar drên cyflym i wlad arall - Sweden - yn bennaf am y profiad o groesi pont enwog Øresund fu’n sail i Bron/Broen (2011- ). Dyma gyfres a esgorodd ar sawl fersiwn arall rhwng Ffrainc a Lloegr (The Tunnel, Sky Atlantic) a Mecsico ac America (The Bridge, FX). Tybed ydi Trump yn ffan? Roedd hon, esbonia Hanna, yn chwarae fwy ar yr ystrydebau a’r tensiynau rhwng dwy wlad a dau gymydog, wrth i Saga Noren drefnus o Sweden orfod cydweithio â Martin Rohde chwit-chwat o Ddenmarc. Ar ôl cyrraedd Malmö, a gadael y sgwâr hynafol, heibio stad ddienaid o weithdai a gwestai bocs sgidia, mae eicon y ddinas yn hudo o bell. Dyma’r Turning Torso, adeilad talaf Sgandinafia sy’n codi megis cerflunwaith 623 troedfedd i’r entrychion a rhan amlwg iawn o awyrlun y gyfres. Cynefin Saga Norén, y ditectif trowsus lledr a’r Porsche melynwyrdd o’r 70au, ac mae’n wirioneddol drawiadol. Mae’r gwynt yn fain, ond sdim ots. Wedi’r cwbl, fyddai taith noir-aidd yn haul tanbaid yr haf ddim yr un fath. Ac wrth ddychwelyd ar drên Copenhagen y noson honno, mae arwyddgan pruddglwyfus Choir of Young Believers yn llenwi ’mhen. 



Nôl yn Nenmarc, dw i’n cael sgwrs sydyn gyda Christine Bordin, sylfaenydd cwmni Nordic Insite sy’n rheoli’r teithiau tywys. Prydeinwyr ydi 75% o’r cwsmeriaid obsesiynol, meddai, a’r gweddill o’r Iseldiroedd a Gwlad Belg, ambell Ffrancwr, Awstraliad ac Americanwr. Dyma’i holi wedyn am ein cyfraniad ni i’r genre, Y Gwyll, neu Mord i Wales a ddangoswyd ar DR1, prif orsaf ddarlledu’r wlad. A’i barn hi? I am not sure I would qualify Hinterland as Nordic Noir - the definition is to be discussed for hours around a Danish beer - but it is certainly a very well made drama!” ateba’n frwdfrydig. Y fersiwn Gymraeg welodd hi, ond yn gyffredinol roedd llawer o’i chydweithwyr wedi colli’r Cardi Noir oherwydd diffyg hysbysebu gan y sianel Ddaneg. Hynny, a’r slot noswylio 11.20 yr hwyr o bosib a glustnodwyd i’r ail gyfres sydd ymlaen ar DR1 ar hyn o bryd. Yn rhwystredig, roedd Christine wedi cysylltu â chwmnïau cyfatebol yn Aberystwyth i drafod y posibilrwydd o gydweithio a hyrwyddo’r cyfresi Cymraeg a Daneg ar dudalennau Facebook ei gilydd. Chafodd hi ddim ateb. Oes, mae eisiau cic yn dîn ni’r Cymry weithiau. Ond mae ambell un wedi gweld potensial twristiaeth deledu yr ochr yma i Fôr y Gogledd. Dywed Richard Smith o gwmni ‘Cambrian Safaris’ o Lanafan ger Aberystwyth, mai’r Gwyll sy’n gyfrifol am ddenu cyfran sylweddol o Americanwyr a thramorwyr eraill i raeadrau gwaedlyd Pontarfynach, diolch i Netflix. Trowch i www.darganfodceredigion.co.uk ac mae yna lyfryn â mapiau o leoliadau’r gyfres a “gwlad llawn chwedloniaeth a dirgelwch” gyda delweddau trawiadol o’r ardal a lluniau S4C o’r cast. A ‘Her y Gwyll’ ydi taith gerdded fawr Ramblers Cymru ddydd Sadwrn 6 Mai eleni, sy’n sicr o apelio at sawl ffan fel fi. Efallai bod Y Gwyll wedi gorffen (am byth?) ar S4C, ond mae’r drydedd gyfres eto i’w gweld ar BBC Four a thu hwnt. Mae’r farchnad yno, Gymry Ceredigion. Bachwch hi!