Cracyr a thyrcwns Dolig


A dyna ni! Y job lot drosodd am flwyddyn arall. Dyna frawddeg arferol fi a’m mam am bump bnawn Dolig. Y cyfan drosodd mor gyflym ag y rhwygwyd y papurau sgleiniog oddi ar anrhegion fy neiaint a’m nith y bore hwnnw, boliau pawb yn llawnach a’r pwrs tipyn gwacach. Ac ar fore Mawrth hynod wlyb a llwyd yn y brifddinas, dyma fwrw golwg yn ôl ar arlwy teledu’r ŵyl a oedd, fel arfer, yn dda ac yn ddifrifol o wael. 




Wele deg ucha’r sianeli Saesneg:
  1. The Queen – 7.6m (BBC One, ITV a Sky News)
  2. Mrs Brown’s Boys – 6.8m (BBC One)
  3. Strictly Come Dancing – 6.5m (BBC One)
  4. Call the Midwife – 6.3m (BBC One)
  5. EastEnders – 6.3m (BBC One)
  6. Doctor Who – 5.7m (BBC One)
  7. Coronation Street – 4.8m (ITV) yn codi i 5.1m wrth gynnwys ITV+1
  8. BBC Teatime News – 4.2m (BBC One)
  9. The Highway Rat – 4.0m (BBC One)
  10. Cinderella – 3.6m (BBC One)
Na, weles i’r un ohonyn nhw heblaw Bî Bî Sî Niws, a dim ond hanes Cwîn, y cochyn a’r Americanes oedd hwnnw. Ac mae’n destun rhyfeddod cyson fod dyn drag Gwyddelig yn dal i blesio’r Brits. A Maggi Noggi nes adra.

Wnaiff deg uchaf S4C ddim ymddangos am sawl mis eto gan mai rhai wythnos 29ain o Hydref sydd yno ar hyn o bryd. Y Sianel Gymraeg fuodd ’mlaen yn tŷ ni ddydd Nadolig beth bynnag, rhwng swig o Port a phendwmpian. Fe gawson ni AWR gyfan o Gwmderi ddwywaith dros y gwyliau, gyda dramatics yr orymdaith, sawl triongl serch, gwisgoedd ffansi OTT, ennyd emosiynol Dai Sgaffaldie a genedigaeth – na, nid mewn preseb, ond ger wheelie bins y Stryd Fawr. Neis. Ac i groesawu’r flwyddyn newydd, agorodd y gyfres gydag amseroedd newydd bob nos Fawrth a nos Iau (7.30) i ddrysu’r selogion ac agoriad newydd byrrach sy’n agor cil y drws ar y cwm. Symudwyd Rownd a Rownd (neu RaR i'r kids) i hann'di chwech hefyd, a chafodd hithau deitlau agoriadol newydd yn ogystal ag aelod newydd o'r cast - Ship y ci, wedi i Philip ei brynu ar ôl un shandi yn ormod yn y dafarn noswyl Dolig. Gwych. Mae sebon y Gogs yn cael llawer mwy o hwyl ar hiwmor naturiol na'i chyfnither deheuol.

Daeth drama ddirgel Un Bore Mercher i ben ar noswyl Dolig gyda mwy o wmff yn y bennod ola hon na mewn sawl pennod unigol cyn hynny, rhwng achos llys dros y plant, DI Williams yn cael ei haeddiant, a Faith a Baldini ar fin lapswchan yn ffyrnig jesd fel yr ymddangosodd SBOILERS! SBOILERS! Evan ar garreg y drws fel petai newydd ddychwelyd o’r Co-op. Gyda chymaint o wylwyr blin a chwestiynau i’w hateb, siawns fod yna gyfres arall? Siawns hefyd y bydd 'na dlws BAFTA i Eve Myles eleni os nad teitl Dysgwr y Flwyddyn ym Mhrifwyl Caerdydd.


Drama arall a blesiodd yn arw yn tŷ ni, oedd un hudolus i’r teulu cyfan Deian a Loli a’r Peiriant Amser gyda’r efeilliaid direidus yn neidio’n nôl mewn amser i’r 1950au yn lle gorfod noswylio’n gynnar nos Galan. Iawn, allai’r effeithiau arbennig ddim cystadlu efo rhai cyfresi CBBC wrth i’r ddau droi’n maint morgrug, ond roedd hon yn berl o raglen fach antur gyda thalp o hiwmor a hud yr ŵyl. Sdim rhyfedd iddi ennill gwobr ‘Y Rhaglen Blant Orau’ BAFTA Cymru 2017. Fel arfer, roedd llond stabal o ganu ar y Sianel wrth i Terfel ei lordio hi o gwmpas Cymru yn ei Ferc heb do, a chlasur o Noson Lawen (arwydd o henaint) o Gaerfyrddin yn talu teyrnged i’r maestro cerddorol a chomedi Ryan Davies. O ran comedi eraill, roedd ’Run Sbit yn syndod o siomedig ar y cyfan ond fe chwarddais yn harti i O’r Diwedd 2017: Am Flwyddyn! a gyflwynwyd o fyncer niwclear S4C gan Siân Harries a Tudur Owen, deuawd gampus â’u golwg sardonig ar y flwyddyn aeth heibio. Pwy sydd angen Charlie Brooker beth bynnag? Cafodd y “côc oen” Trump hi fwy nag unwaith, yn ogystal â Harvey Weisteins y byd a’r Loteri Gymreig (y “Wyn Wyn” bondibolycs). Ymhlith y cyfresi teledu poblogaidd gafodd eu dychanu oedd “Y Gwall/The Void” am dditectif nid anenwog o Geredigion, a “Stori’r Forforwyn”, fersiwn Gymraeg o’r orwych iasol The Handmaid’s Tale, am fenywod ifanc sydd wedi’u tynghedu i fod yn lleisiau cefndir Noson Lawen weddill eu hoes. Dyma brosiect tipyn mwy llwyddiannus i’r Monwysyn na Tudur Owen Steddfod Môn - roedd rhaid i chi fod yn y Pafiliwn i’w gwerthfawrogi’n llwyr mae’n siŵr - er bod sgetsh cadeirio Dyl Mei (“Pam?”) a chân enllibus Hywel Pitts am enwogion y Gymru Gymraeg yn Dogio’n Dinas Dinlle wedi hoelio’r sylw. Unwaith eto, fe lwyddodd Hen Blant Bach i dynnu deigryn a chynhesu’r galon wrth i’r gyfres fer orffen yng nghwmni henoed a phlantos Bangor. Dechreuodd rhaglen arall am y to iau, Siarad Plant, yn ddigon addawol wrth roi cyfle i griw amrywiol o Fethesda i Frynaman ddweud eu dweud am y byd a’i bethau mewn campyfan cŵl - cyn diflasu’n daeogaidd trwy neilltuo’r chwarter olaf i ganfod eu barn am frenhiniaeth Loegr. Dim siw na miw am lwyddiannau chwaraeon rhyfeddol ein cenedl fach ni (Geraint Thomas, Aled Siôn Davies, Elfyn Evans heb son am y pêl-droedwyr neu’r criw rygbi), Steddfod yr Urdd Pen-y-bont neu sêr Cyw. Mynadd! A thrueni na chafwyd ffilm Gymraeg eleni. Ffilm newydd wreiddiol, hynny yw, cyn i ryw glefyr dic daeru’n wahanol.

Mae digon i edrych ymlaen ato yn 2018, yn enwedig cyfres ddrama dditectif newydd nos Sul - Craith - cywaith cefn-wrth-gefn diweddaraf S4C a BBC Wales/BBC Four (Hidden) gyda DCI Cadi John (Siân Reese Williams o Aberhonddu, gynt o Emmerdale a’r Gwyll) yn ymchwilio i lofruddiaethau yng nghilfachau gwaedlyd ond godidog Môn ac Eryri. Mae’n debyg mai’r nofelydd Caryl Lewis fydd eto’n addasu’r sgriptiau Cymraeg o waith Mark Andrew a Geoff Murphy. Croesi bysedd y bydd yn swnio fwy fel Cymraeg naturiol ac nid Cyfieitheg a blagiodd Y Gwyll.

Ac ar nosweithiau Sadwrn BBC Four, mae cyfres Ffrengig arall wedi dychwelyd am y 6ed tro (a’r tro olaf, meddan nhw) i wneud iawn am y smonach Galaidd ddiwethaf, Witnesses. Hwre a chroeso mawr yn ôl i’r ditectifs di-lol Laure, Gilou a Tintin felly yn Engrenages a Joséphine Karlsson a Roban sy’n cynrychioli barnwriaeth Paris.  

Spiral, c’est blydi magnifique!